- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
25. Mae erthyglau 10 ac 11 yn gymwys i unrhyw apêl a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath) fel y maent yn gymwys i geisiadau am ganiatâd cynllunio.
26.—(1) Rhaid i geisydd sy'n dymuno apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf 1990 (hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio a methiant i wneud penderfyniadau o'r fath) roi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru drwy—
(a)cyflwyno i Weinidogion Cymru, o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2), ffurflen a gafwyd gan Weinidogion Cymru, ynghyd â'r cyfryw rai o'r dogfennau a bennir ym mharagraff (3) sy'n berthnasol i'r apêl; a
(b)cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol gopi o'r ffurflen a grybwyllir ym mharagraff (a), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ynghyd â chopi o unrhyw ddogfennau perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (3)(d).
(2) Y terfyn amser a grybwyllir ym mharagraff (1) yw chwe mis ar ôl—
(a)dyddiad yr hysbysiad o'r penderfyniad neu'r dyfarniad sy'n arwain at yr apêl;
(b)mewn achos pan na roddir hysbysiad o benderfyniad neu ddyfarniad, diwedd y cyfnod a bennir yn erthygl 22(2) neu, yn ôl fel y digwydd, erthygl 23; neu
(c)mewn achos pan fo'r awdurdod cynllunio lleol wedi cyflwyno hysbysiad i'r ceisydd yn unol ag erthygl 3(2) bod arno angen gwybodaeth bellach ac nad yw'r ceisydd wedi darparu'r wybodaeth, dyddiad cyflwyno'r hysbysiad hwnnw,
neu pa bynnag gyfnod hwy y caiff Gweinidogion Cymru ei ganiatáu ar unrhyw adeg.
(3) Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—
(a)y cais a wnaed i'r awdurdod cynllunio lleol ac a arweiniodd at yr apêl;
(b)yr holl blaniau, lluniadau a dogfennau a anfonwyd at yr awdurdod mewn cysylltiad â'r cais;
(c)yr holl ohebiaeth gyda'r awdurdod mewn perthynas â'r cais;
(ch)unrhyw dystysgrif a ddarparwyd i'r awdurdod o dan erthygl 11;
(d)unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill mewn perthynas â'r cais, nad oedd wedi eu hanfon at yr awdurdod;
(dd)yr hysbysiad o'r penderfyniad neu'r dyfarniad, os oes un;
(e)os yw'r apêl yn ymwneud â chais am gymeradwyo materion penodol yn unol ag amod ar ganiatâd cynllunio, y cais am y caniatâd hwnnw, y planiau a gyflwynwyd ynghyd â'r cais hwnnw a'r caniatâd cynllunio a roddwyd.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru wrthod derbyn hysbysiad o apêl oddi wrth geisydd os na chyflwynir i Weinidogion Cymru y dogfennau sy'n ofynnol o dan baragraffau (1) a (3) o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff (2).
(5) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu, neu drefnu ar gyfer darparu, gwefan i'w defnyddio at ba bynnag ddibenion a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru—
(a)sy'n ymwneud ag apelau o dan adran 78 o Ddeddf 1990 a'r erthygl hon, a
(b)y gellir eu cyflawni yn electronig.
(6) Pan fo person yn rhoi hysbysiad o apêl i Weinidogion Cymru gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, mae darpariaethau erthygl 32 yn gymwys.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: