- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GYFRAITH GYFANSODDIADOL
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
7 Mawrth 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
9 Mawrth 2012
Yn dod i rym
3 Ebrill 2012
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 72(5)(e) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1) yn gwneud y Gorchymyn canlynol.
Yn unol ag adran 72(6) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chyngor Partneriaeth Cymru(2).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Partneriaeth Cymru (Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Ebrill 2012.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Byrddau Iechyd Lleol” (“Local Health Boards”) yw'r Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(3); ac
ystyr “Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Trusts”) yw'r Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4).
3. Mae Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi eu pennu'n awdurdodau lleol at ddibenion adran 72 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
7 Mawrth 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn awdurdodau lleol at ddibenion adran 72(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Effaith hyn yw galluogi Gweinidogion Cymru i benodi aelodau o Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn aelodau o Gyngor Partneriaeth Cymru, a sefydlwyd o dan adran 72 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn erthynas â'r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n anghenrheidiol i wneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn.
Mae cyfeiriadau at “Cyngor Partneriaeth Cymru” yn cyfeirio at y corff a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru ac sy'n cael ei gynnal ganddynt o dan adran 72(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
2006 p.42. Gweler Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009, O.S. 2009/778 (Cy. 66). Diwygiodd y Gorchymyn hwn yr Atodlen i Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003, O.S. 2003/148 (Cy.18).
Gweler Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009, O.S. 2009/2058 (Cy.177), Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993, O.S. 1993/2838, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/826, O.S. 2002/442 (Cy.57), O.S. 2002/2199 (Cy.219), O.S. 2009/2059 (Cy.178) a Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998, O.S. 1998/678, a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/201 (Cy.26).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: