Search Legislation

Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2012

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 309 (Cy.50)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwneud

7 Chwefror 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Chwefror 2012

Y dod i rym

1 Mawrth 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970,(1) a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru,(2) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(3) yn gwneud y Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau

2.—(1Diwygir Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000(4) yn unol â pharagraffau (2) i (9).

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ar ôl y diffiniad o “Deddf 1984” rhowch—

ystyr “dyddiad rhoi” (“date of issue”) yw'r dyddiad y bydd bathodyn person anabl yn ddilys i'w ddefnyddio am y tro cyntaf;

(b)yn lle paragraff (3) rhowch—

(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “collfarn berthnasol” (“relevant conviction”) yw unrhyw gollfarn am dramgwydd a bennir ym mharagraff (4) a gyflawnwyd mewn perthynas â bathodyn person anabl—

(a)yn erbyn deiliad y bathodyn hwnnw; neu

(b)yn erbyn unrhyw berson arall sy'n defnyddio'r bathodyn hwnnw gyda gwybodaeth y deiliad ar unrhyw adeg tra oedd y tramgwydd yn cael ei gyflawni.; ac

(c)yn lle paragraff (4) rhowch—

(4) Y tramgwyddau a grybwyllwyd ym mharagraff (3) yw unrhyw dramgwydd—

(a)o dan adran 21(4B) o Ddeddf 1970;

(b)o dan adran 115 neu 117 o Ddeddf 1984; neu

(c)sy'n ymwneud ag unrhyw anonestrwydd neu dwyll o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn Neddf 1970, yn Neddf 1984 neu mewn unrhyw deddfwriaeth arall sy'n gymwys yn y Deyrnas Unedig, neu mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig..

(3Yn rheoliad 4 (disgrifiadau o bersonau anabl) ym mharagraff (1)(a) yn lle “3 blwydd” rhowch “2 flwydd”.

(4Yn rheoliad 6 (ffi am roi bathodyn a chyfnod y rhoi)—

(a)yn lle paragraff (1) rhowch—

(1) Yn achos bathodyn unigolyn ac arno ddyddiad rhoi ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012, ni chaiff awdurdod lleol godi ffi am roi'r bathodyn—

(a)os na fu gan yr ymgeisydd fathodyn person anabl o'r blaen; neu

(b)os yw'r ymgeisydd yn gwneud cais am adnewyddu bathodyn person anabl sydd eisoes yn bod, os yw'r bathodyn hwnnw wedi dod i ben neu ar fin dod i ben.

(b)ar ôl paragraff (1) rhowch—

(2) Yn achos bathodyn sefydliad ac arno ddyddiad rhoi ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012, ni chaiff awdurdod lleol godi ffi o fwy na £10 am roi bathodyn—

(a)os na fu gan yr ymgeisydd fathodyn person anabl o'r blaen; neu

(b)os yw'r ymgeisydd yn gwneud cais am adnewyddu bathodyn person anabl sydd eisoes yn bod, os yw'r bathodyn hwnnw wedi dod i ben neu ar fin dod i ben.

(c)Ar ôl paragraff (2) rhowch—

(3) Yn achos bathodyn unigolyn yn lle un arall neu fathodyn sefydliad yn lle un arall gollwyd sy'n cael ei roi yn unol â rheoliad 7 ac arno ddyddiad rhoi ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012, ni chaiff awdurdod lleol godi ffi o fwy na £10 am roi'r bathodyn hwnnw yn lle un arall.

(ch)ailrifwch y paragraff (2) bresennol fel paragraff (4).

(5Yn rheoliad 7—

(a)yn lle'r pennawd rhowch “Bathodynnau yn lle rhai eraill”;

(b)ym mharagraff (1)—

(i)ar ôl y gair “modur” rhowch “neu sydd fel arall yn ei atal rhag cael ei adnabod yn gywir neu sy'n atal gwahaniaethu rhyngddo a ffugiad”; a

(ii)yn lle “gyda'r gair “dyblygiad” wedi ei farcio ar ei flaen” rhowch “mewn ffurf sydd drwy rifau olynol yn dynodi pob bathodyn olynol a roddir i'r person anabl neu'r sefydliad (yn ôl fel y digwydd) gan yr awdurdod rhoi.”.

(6Yn rheoliad 8 (seiliau dros wrthod rhoi bathodyn)—

(a)ym mharagraff (2)(a)—

(i)dileer “neu o dan Reoliadau 1982”; a

(ii)yn lle “o leiaf dair collfarn berthnasol” rhowch “gollfarn berthnasol”;

(b)ar diwedd paragraff (2)(b)(i) rhowch “neu ei fod yn byw yn ardal yr awdurdod lleol hwnnw”;

(c)ar ddiwedd paragraff (2)(c) dileer “neu”; ac

(ch)ar ôl paragraff (2)(ch)(ii) rhowch—

(d)bod gan yr ymgeisydd fathodyn dilys eisoes sydd wedi'i roi gan awdurdod rhoi arall..

(7Yn rheoliad 9 (dychwelyd bathodyn i'r awdurdod rhoi)—

(a)ar ddiwedd paragraff (1)(d) rhowch “neu ei fod wedi dioddef unrhyw ddifrod arall sydd fel arall yn ei atal rhag cael ei adnabod yn gywir neu sy'n atal gwahaniaethu rhyngddo a ffugiad”;

(b)ar ddiwedd paragraff (1)(dd) rhowch “neu fod bathodyn dilys arall yn cael ei roi i'r deiliad gan awdurdod rhoi arall.”;

(c)ym mharagraff (2)(a) dileer “ar o leiaf dri achlysur”; ac

(ch)ar ddiwedd paragraff (2)(b) rhowch “neu fod y deiliad wedi honni ei fod wedi trosglwyddo'r bathodyn i berson arall”.

(8Yn lle rheoliad 11 (ffurf bathodyn) rhowch—

Ffurf bathodyn

11.(1) ae paragraff (2) yn gymwys o ran bathodyn ac arno ddyddiad rhoi cyn 1 Ebrill 2012 ac mae paragraff (3) yn gymwys o ran bathodyn ac arno ddyddiad rhoi ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

(2) Bydd bathodyn person anabl yn y ffurf ragnodedig—

(a)os yw blaen a chefn y bathodyn yn y ffurf a ddangosir—

(i)yn Rhan I o'r Atodlen yn achos bathodyn unigolyn; neu

(ii)yn Rhan II o'r Atodlen yn achos bathodyn sefydliad; a

(b)os yw'r bathodyn yn cydymffurfio â'r manylion yn Rhan III o'r Atodlen.

(3) Bydd bathodyn person anabl yn y ffurf ragnodedig—

(a)os yw blaen a chefn y bathodyn yn y ffurf a ddangosir—

(i)yn Rhan IA o'r Atodlen yn achos bathodyn unigolyn (gan hepgor y gair “sample” lle y mae'n ymddangos); neu

(ii)yn Rhan IIA o'r Atodlen yn achos bathodyn sefydliad (gan hepgor y gair “sample” lle y mae'n ymddangos); a

(b)os yw'r bathodyn yn cydymffurfio â'r manylion yn Rhan IIIA o'r Atodlen.

(9Yn yr Atodlen—

(a)ym mhennawd Rhan I, dileer y gair “Ffurf”;

(b)ar ôl y pennawd “Bathodyn Unigolyn”, rhowch “(ac arno ddyddiad rhoi cyn 1 Ebrill 2012)”;

(c)ar ôl Rhan I, rhowch y ddarpariaeth a nodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn;

(ch)ym mhennawd Rhan II dileer y gair “Ffurf”;

(d)ar ôl y pennawd “Bathodyn Sefydliad”, rhowch “(ac arno ddyddiad rhoi cyn 1 Ebrill 2012)”;

(dd)ar ôl Rhan II, rhowch y ddarpariaeth a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn;

(e)yn Rhan III (Manylion ar gyfer Bathodyn), ar ôl y pennawd “Manylion ar gyfer Bathodyn”, rhowch “(ac arno ddyddiad rhoi cyn 1 Ebrill 2012)”; ac

(f)ar ôl Rhan III, rhowch y ddarpariaeth a nodir yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

7 Chwefror 2012

Rheoliad 11(3)(a)(i)

ATODLEN 1

“RHAN IABATHODYN UNIGOLYN

(AC ARNO DDYDDIAD RHOI AR NEU AR ÔL 1 EBRILL 2012)

Rheoliad 11(3)(a)(ii)

ATODLEN 2

“RHAN IIABATHODYN SEFYDLIAD

(AC ARNO DDYDDIAD RHOI AR NEU AR ÔL 1 EBRILL 2012)

Rheoliad 11(3)(b)

ATODLEN 3

RHAN IIIAANYLION AR GYFER BATHODYNNAU

(AC ARNYNT DDYDDIAD RHOI AR NEU AR ÔL 1 EBRILL 2012)

1.    Pob Bathodyn

Mae'r manylion sy'n gymwys i bob bathodyn fel a ganlyn—

(a)rhaid i'r bathodyn fod yn 106 milimetr o ran uchder, 148 milimetr o ran lled (a bod â chorneli crwn 5mm o ran radiws) a 720 micron o ran trwch, â goddefiant uchder a lled o plws neu minws 1 milimetr a goddefiant trwch o plws neu minws 20 micron;

(b)rhaid i'r bathodyn fod wedi'i argraffu ar dalenni craidd o bolyfinyl clorid gwyn a rhaid i'r holl brint fod wedi'i amgáu mewn haenau allanol o blastig clir;

(c)rhaid i'r bathodyn fod wedi'i argraffu â rhif cyfresol unigryw, sef cyfres o rifau a llythrennau sy'n dynodi gwybodaeth allweddol am y bathodyn a'r deiliad, gan gynnwys rhif olynol pob bathodyn yn lle un arall a roddir i ddeiliad y bathodyn gan yr awdurdod rhoi;

(ch)rhaid i gefndir blaen a chefn y bathodyn fod wedi'i argraffu'n ddiogel â lithograffeg i gynnwys guillochellinellau main, niwmismateg, gwaith testun o led newidiol ac adeileddau eraill mewn llinellau main sy'n gyson â pharagraff (l);

(d)rhaid argraffu'n ddiogel gefndir sy'n dangos unrhyw ymyrraeth yn y blychau sy'n dynodi'r dyddiad y daw'r bathodyn i ben a'i rif ac enw'r deiliad;

(dd)rhaid argraffu nodweddion meicro-destun nad ydynt yn weledol ond o dan chwyddwydr ar flaen a chefn y bathodyn;

(e)rhaid cynnwys nodweddion cyffyrddadwy boglynnog a nodweddion Braille (sy'n ymgorffori patrymau adeileddau llinellau gweledol) ar flaen y bathodyn, heb indeintiad cyfatebol ar gefn y bathodyn;

(f)rhaid i symbol y defnyddiwr cadair olwynion a welir ar flaen y bathodyn fod yn hologram diogelwch wedi'i amgáu mewn sgwâr a'i ochrau'n mesur 30 milimetr, gan ymgorffori fflip delwedd, meicro-destun, nano-destun, nano-nodwedd ar wahân a dyluniad logo'r gadair olwynion yn erbyn cefndir ac arno'r geiriau “bathodyn glas”;

(ff)rhaid i gefn y bathodyn gynnwys cod bar newidiol sy'n dynodi'r dyddiad y daw'r bathodyn i ben;

(g)rhaid i'r bloc lliw a welir ar flaen pob bathodyn a roddir yn ystod unrhyw flwyddyn galendr fod yn lliw sy'n dynodi'r flwyddyn yn gyson a hwnnw'n sylweddol wahanol i'r lliwiau a ddefnyddiwyd mewn blynyddoedd calendr blaenorol;

(ng)rhaid i'r bathodyn gael ei lunio fel ei fod yn gwrthsefyll gwres ac yn sefydlog mewn tymheredd hyd at o leiaf 120 gradd Celsius (a rhaid i awdurdod lleol ei fodloni ei hun fod bathodynnau y mae'n bwriadu eu rhoi yn cydymffurfio â'r gofyniad hwn (cyn rhoi unrhyw fathodynnau o'r fath) drwy sicrhau adroddiad sy'n cadarnhau eu bod yn cydymffurfio felly (drwy gyfeirio at fathodyn enghreifftiol) oddi wrth gorff priodol; ac

(h)rhaid i'r bathodyn gynnwys unrhyw nodweddion diogelwch ychwanegol a fydd yn lleihau ymhellach ar risg ffugio a hynny, cyn belled ag y bo'n ymarferol, drwy atal y bathodyn rhag cael ei gopïo'n hwylus a thrwy ganiatáu i fathodynnau dilys gael eu gwahaniaethu oddi wrth rai ffug.

At ddibenion paragraff (ng), ystyr “corff priodol” yw corff sydd wedi'i achredu â Safon ISO 9001:2008 (Systemau Rheoli Ansawdd) (a baratowyd gan y Sefydliad Safoni Rhyngwladol)(5)) ac y mae ganddo, ym marn yr awdurdod lleol, yr arbenigedd angenrheidiol i ddarparu'r adroddiad.

2.    Bathodynnau unigolion

Mae'r manylion ychwanegol sy'n gymwys i fathodyn unigolyn fel a ganlyn—

(a)yn ddarostyngedig i baragraffau (b) ac (c), rhaid i gefn bathodyn unigolyn gynnwys ffotograff digidol agos o ben ac ysgwyddau deiliad y bathodyn. Rhaid i ddiffiniad y ffotograff rhwng yr wyneb a'r cefndir fod yn gryf a rhaid i'r ffotograff fod—

(i)mewn lliw;

(ii)yn 45 milimetr o ran uchder a 35 milimetr o ran lled (maint pasbort);

(iii)wedi'i dynnu—

(aa)o fewn mis cyn dyddiad y cais;

(bb)yn erbyn cefndir o liw llwyd golau neu hufen;

(iv)heb ei ddifrodi;

(v)yn rhydd rhag “llygaid coch”, cysgodion, adlewyrchiad neu lacharedd sbectol;

(vi)yn ffotograff o ben cyflawn y deiliad (heb fod person arall yn weladwy neu unrhyw orchudd, oni bai bod hwnnw'n cael ei wisgo oherwydd credo grefyddol neu resymau meddygol)—

(aa)yn wynebu ymlaen;

(bb)heb ddim yn gorchuddio'r wyneb;

(cc)yn edrych yn syth at y camera;

(chch)â phryd a gwedd niwtral a'r geg ar gau; a

(dd)â'r llygaid ar agor ac yn glir i'w gweld (heb sbectol haul neu sbectol ag arlliw a heb wallt neu ffrâm sbectol yn cuddio'r llygaid);

(vii)mewn ffocws pendant ac yn glir;

(viii)wedi'i argraffu'n broffesiynol neu ar ffurf ddigidol; a

(ix)yn dangos tebygrwydd gwirioneddol, heb ei ddiwygio.

(b)nid yw paragraff (a) yn gymwys i fathodyn a roddir yn unol â chais a wnaed gan berson anabl os yw'r awdurdod rhoi wedi'i fodloni bod yr amcangyfrif o ddisgwyliad oes y person hwnnw yn llai na chwe mis o ddyddiad y cais, ac os felly rhaid i'r lle a fyddai fel arall yn cynnwys ffotograff gynnwys copi o'r faner a welir ar flaen y bathodyn.

(c)nid yw paragraffau (a)(vi)(cc) ac (a)(vi)(chch) yn gymwys i ffotograffau o blant pump oed neu lai.

(ch)rhaid i'r cod bar newidiol ar gefn y bathodyn ddynodi blwyddyn eni'r deiliad ac (mewn cod) ei rywedd.

(d)rhaid i'r rhif cyfresol a argreffir ar y bathodyn ddynodi mis a blwyddyn geni'r deiliad ac (mewn cod) ei rywedd.

3.    Bathodynnau Sefydliad

Mae'r manylion ychwanegol sy'n gymwys i fathodyn sefydliad fel a ganlyn —

  • Rhaid i gefn bathodyn sefydliad gynnwys copi mewn lliw o logo'r sefydliad (os oes un), sy'n gorfod bod yn 5 milimetr o ran uchder a 35 milimetr o ran lled. Os nad oes gan y sefydliad logo, rhaid cynnwys yn y lle a fyddai fel arall yn cynnwys y logo gopi o'r faner a welir ar flaen y bathodyn.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nody hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae bathodyn person anabl (sy'n cael ei adnabod fel “Bathodyn Glas”) yn galluogi deiliad y bathodyn i fanteisio ar amryw o gonsesiynau parcio ac esemptiadau rhag ffioedd penodol sy'n gymwys i fodurwyr eraill. Mae Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1786 (Cy.123)) (“y Prif Reoliadau”) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rhoi bathodynnau gan yr awdurdodau lleol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Prif Reoliadau, yn bennaf, drwy ei gwneud yn ofynnol i waith dylunio a gweithgynhyrchu'r bathodynnau gydymffurfio â gofynion technegol sydd gryn dipyn yn fwy soffistigedig, a'r rheiny wedi'u bwriadu i leihau'r risg o ffugio bathodynnau.

Mae'r diwygiadau arwyddocaol eraill yn cynnwys dileu'r ffi am fathodyn i ymgeiswyr newydd ac am adnewyddu bathodynnau sydd eisoes yn bod, codi'r uchafswm ffi o £2 i £10 am fathodyn yn lle un arall ac am fathodyn sefydliad, a galluogi'r awdurdodau lleol i wrthod rhoi bathodyn neu i dynnu bathodyn yn ôl yn sgil un gollfarn o dan y ddeddfwriaeth sy'n cael ei defnyddio i erlyn am fod bathodynnau wedi'u camddefnyddio'n dwyllodrus.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith y diwygiadau ar y gost i fyd busnes ac i'r sector gwirfoddol ar gael oddi wrth Yr Is-Adran Trafnidiaeth Integredig, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

Cafodd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2, Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

Cafodd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970 eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30, Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(5)

ISBN 9780580687389 yw rhif argraffiad Sefydliad Safonau Prydain o'r Safon.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources