- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Pan fo'r corff addysg sy'n cydlafurio—
(a)yn gorff llywodraethu, yr unig swyddogaethau y caiff y corff hwnnw eu dirprwyo i gyd-bwyllgor yw'r rhai y caniateir eu dirprwyo i bwyllgor o dan reoliad 50 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir neu reoliad 59 o'r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir;
(b)yn gorff addysg bellach, yr unig swyddogaethau y caiff y corff hwnnw eu dirprwyo i gyd-bwyllgor yw'r rhai y caniateir eu dirprwyo i bwyllgor o dan ddarpariaethau perthnasol ei offeryn ac erthyglau; neu
(c)yn awdurdod lleol, yr unig swyddogaethau y caiff y corff hwnnw eu dirprwyo i gyd-bwyllgor yw'r rhai y caniateir eu dirprwyo i bwyllgor o dan ei gyfansoddiad.
(2) Yn unol â'r Rheoliadau hyn ni chaiff corff addysg ddirprwyo i gyd-bwyllgor unrhyw un o'i swyddogaethau o ran—
(a)penodi a diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, personau a gyflogir o dan gontract cyflogaeth gan awdurdod lleol;
(b)diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, personau a gyflogir o dan gontract cyflogaeth gan gorff addysg bellach;
(c)diswyddo, a chymryd camau disgyblu yn erbyn, staff yr ysgol yn y Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir; neu
(d)disgyblu disgybl neu fyfyriwr.
(3) Pan fo corff addysg bellach yn dirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau sy'n ymwneud ag aelodau unigol o staff y corff addysg bellach i gyd-bwyllgor, mae darpariaethau perthnasol ei offeryn ac erthyglau yn gymwys o ran cyflawni'r swyddogaethau hynny.
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn, yn rheoliadau 50 i 52 o'r Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir a rheoliadau 59 i 61 o'r Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir—
(a)ystyr “pwyllgor” (“committee”) yw cyd-bwyllgor a sefydlwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn;
(b)ystyr “llywodraethwr” (“governor”) yw aelod ac eithrio aelod o gyd-bwyllgor nad yw'n llywodraethwr a hwnnw'n gyd-bwyllgor a sefydlwyd yn unol â'r Rheoliadau hyn; ac
(c)ystyr “pennaeth” (“head teacher”) yw pennaeth unrhyw un o'r ysgolion y mae ei chorff llywodraethu yn gorff addysg sy'n cydlafurio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: