Search Legislation

Rheoliadau Cydlafurio Rhwng Cyrff Addysg (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Mesur Addysg (Cymru) 2011 yn galluogi cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, cyrff addysg bellach ac awdurdodau lleol (“cyrff addysg”) i ddatblygu trefniadau ar gyfer gweithio ar y cyd. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â'r trefniadau y caniateir eu gwneud er mwyn i'w swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgorau.

Mae rheoliad 1 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 16 Tachwedd 2012. Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â dirymu. Yn rheoliad 3 ceir y darpariaethau dehongli.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer pan fo dau neu fwy o gyrff addysg yn cael trefnu i'w swyddogaethau gael eu cyflawni ar y cyd drwy gyd-bwyllgor (ac yn achos awdurdod lleol, mae hyn yn golygu eu swyddogaethau addysg yn unig).

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â sefydlu cyd-bwyllgorau drwy gydlafurio rhwng cyrff addysg, gan gynnwys penderfynu eu cyfansoddiad, aelodaeth a chylch gorchwyl y mae'n rhaid eu hadolygu bob blwyddyn. Mae'r cworwm yn penodi ei gadeirydd ei hun (y caniateir ei symud o'i swydd ar unrhyw adeg) a chaiff benodi aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr ac y penderfynir eu hawliau pleidleisio gan y cyrff addysg sy'n cydlafurio (yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol).

Rhaid i'r cyd-bwyllgor benodi clerc i gynnull ei gyfarfodydd a sicrhau bod cofnodion o'i drafodion yn cael eu llunio (rheoliad 6). Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff cyd-bwyllgor benodi “aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr”, nad ydynt yn aelodau o'r cyrff llywodraethu sy'n cydlafurio, nad ydynt yn cael eu penodi gan yr awdurdod lleol ac y caiff y cyrff addysg sy'n cydlafurio roi hawliau pleidleisio iddynt (yn ddarostyngedig i gyfyngiadau penodol). Rhaid i aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr beidio â chael eu hanghymhwyso rhag bod yn llywodraethwyr o dan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005, Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010 na rhag bod yn aelodau o gyrff addysg bellach o dan yr offeryn ac erthyglau llywodraethu perthnasol.

O dan reoliad 8, mae gan gyd-bwyllgorau bŵer i benderfynu pwy gaiff fynychu eu cyfarfodydd. Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer cynnull cyfarfodydd a phleidleisio.

Mae rheoliad 10 a'r Atodlen yn ymdrin â gwrthdaro buddiannau a'r amgylchiadau pan fo'n rhaid i aelodau o gyd-bwyllgor ac eraill sydd â hawl fel arall i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd o'r cyd-bwyllgor ymneilltuo o'r cyfarfod a pheidio â phleidleisio. Mae'n egwyddor gyffredinol, pan fo gwrthdaro rhwng buddiannau person o'r fath a buddiannau'r cyrff addysg sy'n cydlafurio, neu pan fo egwyddorion cyfiawnder naturiol yn ei gwneud yn ofynnol bod gwrandawiad teg yn cael ei gynnal a bod unrhyw amheuaeth resymol ynghylch gallu person i weithredu'n ddiduedd, y dylai ymneilltuo o'r cyfarfod hwnnw a pheidio â phleidleisio.

Mae rheoliad 11 yn ymdrin â llunio cofnodion cyfarfodydd y cyd-bwyllgor a chyhoeddi'r cofnodion.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources