Search Legislation

Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 2 Tachwedd 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw'r ardal ddaearyddol honno y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;

ystyr “asesiad” (“assessment”) yw'r asesiad sy'n cael ei wneud gan awdurdod lleol o dan adran 11(1) o'r Mesur;

mae “chwarae” (“play”) wedi ei ddiffinio yn adran 11(6) o'r Mesur;

mae “digonol” (“sufficient”) wedi ei ddiffinio yn adran 11(6) o'r Mesur;

ystyr “digwyddiad chwarae” (“play event”) yw unrhyw ddigwyddiad a gynhelir yn gyhoeddus at ddiben hyrwyddo chwarae;

ystyr “man agored” (“open space”) yw unrhyw dir sydd wedi ei osod allan fel gardd gyhoeddus, neu sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion adloniant cyhoeddus;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

(2Yn y Rheoliadau hyn, dyma'r ystodau oedran—

(a)3 oed ac yn is;

(b)4 — 7 oed;

(c)8 — 12 oed;

(d)13 — 15 oed;

(e)16 — 17 oed.

Materion i'w cynnwys yn yr asesiad

3.  Rhaid i awdurdod lleol roi ystyriaeth i'r materion canlynol wrth asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae o fewn ei ardal awdurdod lleol—

(a)o ran pob ystod oedran, nifer y plant sydd o fewn ei ardal;

(b)anghenion plant o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd o fewn ei ardal;

(c)y mannau lle y gall plant chwarae ynddynt, gan gynnwys—

(i)mannau agored, a

(ii)unrhyw fan arall;

(d)darpariaeth chwarae dan oruchwyliaeth, gan gynnwys—

(i)canolfannau hamdden,

(ii)meysydd chwarae antur,

(iii)cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau,

(iv)clybiau a grwpiau ieuenctid,

(v)darpariaeth symudol, a

(vi)unrhyw ddarpariaeth arall ar gyfer chwarae dan oruchwyliaeth;

(e)p'un a oes tâl yn cael ei godi am ddarpariaeth chwarae ai peidio, a phan fo tâl yn cael ei godi, swm y tâl hwnnw;

(f)y mesurau a ddefnyddir i hyrwyddo mynediad at chwarae, gan gynnwys—

(i)cynlluniau gostegu traffig a chynlluniau strydoedd saff,

(ii)llwybrau i gerddwyr,

(iii)llwybrau beicio,

(iv)trafnidiaeth gyhoeddus,

(v)parcio,

(vi)oriau agor y ddarpariaeth chwarae,

(vii)hysbysebu'r ddarpariaeth chwarae,

(viii)unrhyw ddigwyddiadau chwarae;

(g)y gweithlu chwarae—

(i)gweithwyr chwarae,

(ii)gwirfoddolwyr chwarae,

(iii)cyfleoedd hyfforddi i'r gweithlu chwarae,

(iv)lefelau cymwysterau'r gweithlu chwarae;

(h)lefel yr ymgysylltu â'r gymuned a chyfranogiad y gymuned, gan gynnwys—

(i)grwpiau ieuenctid,

(ii)cynghorau ysgol,

(iii)cyrff llywodraethu ysgolion,

(iv)grwpiau cymunedol;

(i)i ba raddau y mae polisïau eraill awdurdod lleol yn dwyn i ystyriaeth yr angen i ehangu cyfleoedd chwarae i blant.

Ymgynghori

4.  Wrth lunio'r asesiad, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â'r canlynol—

(a)y plant,

(b)y rhieni(1),

(c)yr unigolion a'r sefydliadau â buddiant mewn chwarae,

sy'n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

Cynllun Gweithredu

5.—(1Rhaid i bob asesiad a lunnir gan awdurdod lleol gynnwys cynllun gweithredu.

(2Pan fo asesiad yn nodi—

(a)bod y cyfleoedd chwarae i blant yn annigonol yn yr ardal awdurdod lleol, rhaid i'r cynllun gweithredu nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i wella'r cyfleoedd i blant chwarae o fewn yr ardal awdurdod lleol honno, neu

(b)bod y cyfleoedd chwarae i blant yn ddigonol yn yr ardal awdurdod lleol, rhaid i'r cynllun gweithredu nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i gynnal y cyfleoedd i blant chwarae o fewn yr ardal awdurdod lleol honno.

Amseru'r Asesiad

6.—(1Rhaid i awdurdod lleol gwblhau ei asesiad cyntaf cyn pen 4 mis ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2Yn dilyn asesiad cyntaf rhaid i awdurdod lleol gwblhau asesiad bob 3 blynedd.

(3Mae'r 3 blynedd y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) yn cychwyn o'r dyddiad y mae'n rhaid i'r asesiad cyntaf gael ei gwblhau arno.

(4Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o'r asesiad at Weinidogion Cymru.

Cyhoeddi

7.  Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ar ei wefan grynodeb o ganlyniadau'r asesiad.

8.  Rhaid i awdurdod lleol adneuo crynodeb o ganlyniadau'r asesiad yn y llyfrgelloedd cyhoeddus, canolfannau hamdden, ysgolion a'r mannau eraill hynny sy'n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

6 Hydref 2012

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources