Search Legislation

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 2478 (Cy.270)

CYNRYCHIOLAETH Y BOBL, CYMRU

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2012

Gwnaed

25 Medi 2012

Yn dod i rym

1 Hydref 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Diwygio) 2012.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Hydref 2012.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

(a)mae “etholaeth Cynulliad” (“Assembly constituency”) i'w dehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;

(b)mae “rhanbarth etholiadol Cynulliad” (“Assembly electoral region”) i'w ddehongli yn unol ag adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Diwygiadau i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2011

3.—(1Mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthyglau 4, 5(1), 6(1), 7, 8(1) a 9(1) ac ym mhenawdau erthyglau 5, 6, 8 a 9 ac Atodlen 2, hepgorer y geiriau “ac a gynhelir ar yr un diwrnod â'r Refferendwm Pleidlais Amgen”.

(3Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen a ganlyn—

Erthyglau 4, 5(1) a 6(1)

ATODLEN 1Y cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy a'r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau ac am dreuliau sy'n adenilladwy mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir

1) Etholaeth2) Cyfanswm adenilladwy mwyaf am wasanaethau3) Cyfanswm adenilladwy mwyaf am dreuliau4) Cyfanswm cyffredinol mwyaf sy'n adenilladwy
Aberafan£4,730£151,170£155,900
Aberconwy£4,730£105,358£110,088
Alun a Glannau Dyfrdwy£4,730£124,358£129,088
Arfon£4,730£107,069£111,799
Blaenau Gwent£4,730£161,967£166,697
Bro Morgannwg£4,730£192,425£197,155
Brycheiniog a Sir Faesyfed£4,730£177,443£182,173
Caerffili£4,730£160,424£165,154
Canol Caerdydd£4,730£132,301£137,031
Castell-nedd£4,730£169,780£174,510
Ceredigion£4,730£153,514£158,244
Cwm Cynon£4,730£121,686£126,416
De Caerdydd a Phenarth£4,730£183,660£188,390
De Clwyd£4,730£146,245£150,975
Delyn£4,730£129,994£134,724
Dwyfor Meirionnydd£4,730£152,209£156,939
Dwyrain Abertawe£4,730£142,418£147,148
Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr£4,730£177,265£181,995
Dwyrain Casnewydd£4,730£130,047£134,777
Dyffryn Clwyd£4,730£117,780£122,510
Gogledd Caerdydd£4,730£165,133£169,863
Gorllewin Abertawe£4,730£136,341£141,071
Gorllewin Caerdydd£4,730£151,200£155,930
Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro£4,730£161,498£166,228
Gorllewin Casnewydd£4,730£149,302£154,032
Gorllewin Clwyd£4,730£139,326£144,056
Gŵyr£4,730£148,616£153,346
Islwyn£4,730£140,055£144,785
Llanelli£4,730£162,368£167,098
Merthyr Tudful a Rhymni£4,730£156,183£160,913
Mynwy£4,730£184,172£188,902
Ogwr£4,730£126,506£131,236
Pen-y-bont ar Ogwr£4,730£131,194£135,924
Pontypridd£4,730£141,313£152,043
Preseli Sir Benfro£4,730£161,432£166,162
Rhondda£4,730£138,009£142,739
Sir Drefaldwyn£4,730£131,837£136,567
Torfaen£4,730£163,376£168,106
Wrecsam£4,730£109,924£114,654
Ynys Môn£4,730£139,547£144,277
Cyfanswm£189,200£5,880,445£6,069,645

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

25 Medi 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer taliadau am wasanaethau a threuliau swyddogion canlyniadau mewn cysylltiad â chynnal etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2011 (O.S. 2011/632) (Cy.92)) (“Gorchymyn 2011”). Mae'r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan erthygl 23 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236). Mae erthygl 23 yn darparu bod hawl gan swyddog canlyniadau etholaeth neu swyddog canlyniadau rhanbarthol i adennill taliadau mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarparwyd neu dreuliau a dynnwyd mewn cysylltiad ag etholiad Cynulliad.

Mae erthygl 3(2) o'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthyglau 4, 5(1), 6(1), 7, 8(1) a 9(1) o Orchymyn 2011 drwy ddileu'r cyfeiriadau at y Refferendwm Pleidlais Amgen. Fel y'i diwygiwyd, mae erthygl 4 o Orchymyn 2011 yn pennu mai'r cyfanswm cyffredinol mwyaf y mae modd ei adennill ar gyfer etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 o'r tabl yn Atodlen 1. Fel y'i diwygiwyd, mae erthygl 5 o Orchymyn 2011 yn pennu mai'r cyfanswm mwyaf y mae modd ei adennill am wasanaethau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 1. Fel y'i diwygiwyd, mae erthygl 6 o Orchymyn 2011 yn pennu mai'r cyfanswm mwyaf y mae modd ei adennill am dreuliau mewn etholiad etholaeth Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 3 o'r tabl yn Atodlen 1. Fel y'i diwygiwyd, mae erthygl 7 o Orchymyn 2011 yn pennu mai'r cyfanswm cyffredinol mwyaf y mae modd ei adennill ar gyfer etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 4 o'r tabl yn Atodlen 2. Fel y'i diwygiwyd, mae erthygl 8 o Orchymyn 2011 yn pennu mai'r cyfanswm mwyaf y mae modd ei adennill am wasanaethau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 2 o'r tabl yn Atodlen 2 ac mae erthygl 9, fel y'i diwygiwyd, yn pennu mai'r cyfanswm mwyaf y mae modd ei adennill am dreuliau mewn etholiad rhanbarthol y Cynulliad a ymleddir yw'r hyn a ddangosir yng ngholofn 3 o'r tabl yn Atodlen 2. (Mae erthygl 3(2) hefyd yn dileu'r cyfeiriadau at y Refferendwm Pleidlais Amgen o benawdau erthyglau 5, 6, 8 a 9 o Orchymyn 2011 ac Atodlen 2 iddo).

Mae erthygl 3(3) yn amnewid Atodlen 1 i Orchymyn 2011. Mae'r tabl yn Atodlen 1 sydd wedi'i hamnewid yn disgrifio'r cyfanswm cyffredinol mwyaf a'r cyfansymiau mwyaf am wasanaethau ac am dreuliau y caiff swyddog canlyniadau etholaeth eu hadennill ar gyfer etholiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a ymleddir neu mewn cysylltiad ag etholiad o'r fath.

(2)

Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources