- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol) 2012.
2.—(1) Mae adran 42 o Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, i'r graddau nad yw eisoes wedi ei chychwyn, yn dod i rym ar 1 Hydref 2012 mewn perthynas ag ymgymerwyr carthffosiaeth y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru.
(2) Ond mae erthygl 2(1) yn ddarostyngedig i erthygl 3.
3.—(1) Yn yr erthygl hon—
mae i “adeilad” (“building”) yr ystyr a roddir i “building” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;
mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” yn adran 126 o Ddeddf 1984;
mae i “carthffos” yr ystyr a roddir i “sewer” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984(1);
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf y Diwydiant Dŵr 1991(2);
mae i “draen ochrol” yr ystyr a roddir i “lateral drain” yn adran 219(1) o Ddeddf 1991;
mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” yn rheoliad 3(1) o Reoliadau 2010;
ystyr “hysbysiad adeiladu” (“building notice”) yw hysbysiad a roddir o dan reoliadau 12(2)(a) a 13 o Reoliadau 2010;
ystyr “hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 54 o Ddeddf 1984;
ystyr “hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 47 o Ddeddf 1984;
ystyr “hysbysiad diwygio” (“amendment notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 51A o Ddeddf 1984;
ystyr “planiau llawn” (“full plans”) yw planiau sydd wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol at ddibenion adran 16 o Ddeddf 1984 ac yn unol â rheoliadau 12(2)(b) a 14 o Reoliadau 2010;
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010(3);
ystyr “tystysgrif planiau” (“plans certificate”) yw tystysgrif a roddir o dan adran 50 o Ddeddf 1984.
(2) Pan fo carthffos neu ddraen ochrol yn gysylltiedig â gwaith adeiladu—
(a)pan fo hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus wedi ei roi i awdurdod lleol neu pan fo planiau llawn wedi eu hadneuo gydag awdurdod lleol, a hynny cyn 1 Hydref 2012; a
(b)pan fo'r gwaith wedi ei ddechrau cyn 1 Hydref 2013,
yna mae adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys fel pe bai'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(a) o Ddeddf 1991 at “standards published by the Minister” a'r cyfeiriad yn adran 106B(4)(b) o Ddeddf 1991 at “those standards” yn gyfeiriadau at yr hysbysiad, y dystysgrif neu'r planiau sy'n berthnasol.
(3) Nid yw adran 106B(4) o Ddeddf 1991 yn gymwys i garthffos na draen ochrol sy'n gysylltiedig yn unig ag adeiladau neu estyniadau mewn perthynas â'r gwaith y caniateir ei ddechrau heb y gofyniad o dan Reoliadau 2010 i hysbysiad adeiladu, hysbysiad cychwynnol, tystysgrif planiau, hysbysiad diwygio neu hysbysiad corff cyhoeddus gael ei roi i awdurdod lleol, neu i blaniau llawn gael eu hadneuo gydag awdurdod lleol.
(4) Nid yw erthygl 3(3) yn gymwys ar ôl 1 Hydref 2013 ac eithrio i garthffos neu ddraen ochrol sy'n gysylltiedig ag adeiladau neu estyniadau y mae gwaith wedi dechrau ar eu cyfer cyn y dyddiad hwnnw.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
6 Awst 2012
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: