- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
18 Gorffennaf 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Gorffennaf 2012
Yn dod i rym
31 Awst 2012
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol a Dirymu) 2012 a daw i rym ar 31 Awst 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a)ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011(3); a
(b)mae i “grant newydd at ffioedd” (“new fee grant”) yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2011.
2. Mae Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2011(4) wedi ei ddirymu ar 31 Awst 2012.
3. Mae'r swyddogaethau a ganlyn, sef swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Reoliadau 2011, wedi eu rhoi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(5)—
(a)swyddogaethau yn ymwneud â thalu grant newydd at ffioedd o dan reoliad 65A o Reoliadau 2011(6);
(b)swyddogaethau yn ymwneud ag adennill gordaliad o grant newydd at ffioedd o dan reoliad 70 o Reoliadau 2011; ac
(c)swyddogaethau yn ymwneud â chais am wybodaeth o dan Atodlen 3 i Reoliadau 2011 a chael yr wybodaeth honno, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny yn ymwneud â thalu neu adennill grant newydd at ffioedd.
4. Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn yn atal Gweinidogion Cymru rhag arfer y swyddogaethau a ddisgrifir yn erthygl 3.
Leighton Andrews
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 69(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, roi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru unrhyw swyddogaethau atodol yn ymwneud â darparu addysg sydd yn eu barn hwy yn briodol neu osod y swyddogaethau atodol hynny arno.
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau atodol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae'n dirymu Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2011 ac yn ei ailddatgan gan ystyried y diwygiadau a wnaed i Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011.
Mae'r swyddogaethau a roddir gan y Gorchymyn hwn yn swyddogaethau y caiff Gweinidogion Cymru eu harfer mewn rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 sy'n ymwneud â thalu grant ffioedd dysgu i sefydliadau addysg uwch (ac adennill y grant hwnnw) mewn cysylltiad â myfyrwyr sy'n dechrau cyrsiau addysg uwch dynodedig ar 1 Medi 2012 neu ar ôl hynny.
1992 p.13; diwygiwyd adran 89(4) gan Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 (p.25), adran 29 ac Atodlen 1, paragraff 11.
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 69(5), i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Sefydlwyd gan adran 62 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Mewnosodwyd yn Rheoliadau 2011 gan reoliad 17 o Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu'r Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2012 (O.S. 2012/14 (Cy.5)).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: