- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gwnaed
14 Mai 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau sydd wedi eu cynnwys yn adran 40(2)(b) o Ddeddf Iechyd 2009(1).
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 2009 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “arwynebedd perthnasol y llawr” (“relevant floor area”), mewn perthynas â siop, yw arwynebedd mewnol y llawr o gymaint o'r siop ag sy'n cynnwys, neu sy'n rhan o adeilad ond gan eithrio unrhyw ran o'r siop nad yw'n cael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau nac ar gyfer arddangos nwyddau;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd 2009;
mae i “gwerthwr tybaco arbenigol” yr ystyr a roddir i “specialist tobacconist” yn adran 6 o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002(2);
ystyr “pecyn” (“package”) yw unrhyw flwch, carton neu gynhwysydd arall;
ystyr “pecyn gwreiddiol” (“original package”) yw'r pecyn y cyflenwyd y sigaréts neu'r tybaco rholio â llaw ynddo gan y gweithgynhyrchwr neu'r mewnforiwr at ddibenion manwerthu;
ystyr “siop fawr” (“large shop”) yw siop lle y mae arwynebedd perthnasol y llawr yn fwy na 280 o fetrau sgwâr; ac
ystyr “swmpwerthwr tybaco” (“bulk tobacconist”) yw siop sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco (p'un a yw'n gwerthu cynhyrchion eraill neu beidio) ac y mae ei gwerthiannau sigaréts neu dybaco rholio â llaw, a fesurir yn unol â pharagraff (4), yn cydymffurfio â'r amodau canlynol—
bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau sigaréts yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 200 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 100 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol; a
bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau tybaco rholio â llaw yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 250 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu yn pwyso 125 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol;
(4) Mae'r gwerthiannau y cyfeiriwyd atynt yn y diffiniad o “swmpwerthwr tybaco” i'w mesur yn ôl y pris gwerthu—
(a)yn ystod y cyfnod mwyaf diweddar o ddeuddeng mis y mae cyfrifon ar gael ar ei gyfer; neu
(b)yn ystod y cyfnod ers sefydlu'r siop, os nad yw wedi ei sefydlu'n ddigon hir i'r cyfrifon ar gyfer deuddeng mis fod ar gael.
2.—(1) 1 Mehefin 2012 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Atodlen 4 i'r Ddeddf—
(a)paragraff 7(6);
(b)paragraff 8(1) a pharagraff 8(3); ac
(c)paragraff 2 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau a restrir yn (a) a (b).
(2) 3 Rhagfyr 2012 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a)adran 21 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco etc.) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac i'r graddau y mae'n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco, arddangosiadau tybaco: eithriadau ac amddiffyniad ac arddangosiadau: prisiau cynhyrchion tybaco), at ddibenion siopau mawr nad ydynt yn swmpwerthwyr tybaco nac yn werthwyr tybaco arbenigol;
(b)y paragraffau canlynol o Atodlen 4, ac adran 24 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny—
(i)paragraff 6(2) a pharagraff 6(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r is-baragraff hwnnw;
(ii)paragraff 10;
(iii)paragraffau 11 a 12 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(iv)paragraff 2 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau a restrir yn (i) i (iii).
(3) 6 Ebrill 2015 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a)adran 20 (gwaharddiad ar hysbysebu: eithrio gwerthwyr tybaco arbenigol) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adran 21 (gwaharddiad ar arddangosiadau tybaco etc.) i'r graddau y mae'n mewnosod adrannau 7A, 7B a 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002, ac i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c)y paragraffau canlynol o Atodlen 4, ac adran 24 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny—
(i)paragraff 2 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ii)paragraff 3; a
(iii)paragraff 4(2) a (5) a pharagraff 4(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r is-baragraffau hynny.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw'r trydydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd 2009 (“y Ddeddf”).
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym, yng Nghymru, ddarpariaethau adrannau 20 a 21 o'r Ddeddf, sy'n gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth flaenorol mewn perthynas â thybaco.
Mae hefyd yn dwyn i rym, yng Nghymru, ddarpariaethau yn Atodlen 4 i'r Ddeddf (sy'n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â thybaco). Mae'r mân ddiwygiadau a'r diwygiadau canlyniadol hyn yn cynnwys darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym ar 1 Mehefin 2012 ac sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru gymryd drosodd yr achosion sy'n ymwneud â throsedd a gyflawnwyd yng Nghymru ac a gychwynnwyd yng Nghymru a Lloegr gan berson arall o dan unrhyw ddarpariaeth yn Neddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 neu unrhyw reoliadau a wneir odani.
Mae darpariaethau mewn perthynas ag arddangos prisiau cynhyrchion tybaco yn cael eu cychwyn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ar 3 Rhagfyr 2012 at ddibenion siopau mawr (fel y'u diffinnir) ac at bob diben arall ar 6 Ebrill 2015.
Mae darpariaethau mewn perthynas â gwahardd arddangosiadau tybaco ac â'r eithriadau ac amddiffyniad sy'n gysylltiedig â hwy yn cael eu cychwyn, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ar 3 Rhagfyr 2012 at ddibenion siopau mawr nad ydynt yn swmpwerthwyr tybaco (fel y'u diffinnir) a gwerthwyr tybaco arbenigol (fel y'u diffinnir yn adran 6 o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002) ac at bob diben arall ar 6 Ebrill 2015.
Mae darpariaethau mewn perthynas ag eithrio gwerthwyr tybaco arbenigol o'r gwaharddiad ar hysbysebu yn cael eu cychwyn ar 6 Ebrill 2015.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau'r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn O.S. 2010/930 (Cy.95) (C.63) ac O.S. 2011/2362 (Cy.248) (C.83).
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn |
---|---|
Adran 19 | 1.4.2010 (i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 14 i 17, 18 a 19 o Atodlen 3). |
Adran 22 | 1.2.2012 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym). |
Atodlen 3, paragraffau 14 i 17 | 1.4.2010. |
Atodlen 3, paragraffau 18 a 19 | 1.4.2010. |
Mae darpariaethau'r Ddeddf a restrir yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan orchmynion cychwyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 36 | 19.1.2010. | 2010/30 (C.5). |
Atodlen 6 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r diddymu mewn perthynas â Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p.12), ac adran 38 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth honno. | 1.10.2011. | 2010/1068 (C.70) fel y'i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49). |
Atodlen 6 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r diddymu mewn perthynas ag adran 14(12) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (p. 36), ac adran 38 i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r ddarpariaeth honno. | 6.4.2012. | 2010/1068 (C.70) fel y'i diwygiwyd gan 2011/1255 (C.49). |
Mae amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan O.S. 2010/30 (C.5); O.S. 2010/779 (C.52); O.S. 2010/1068 (C.70); O.S. 2010/1863 (C.95) ac O.S. 2011/1255 (C.49).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: