- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Arbed) 2012.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
2.—(1) Daw'r darpariaethau a ganlyn o'r Mesur i rym ar 30 Ebrill 2012—
(a)adrannau 5 i 7 (cefnogi aelodaeth);
(b)adrannau 8 i 22 (gwasanaethau democrataidd awdurdod lleol a dehongli);
(c)adrannau 23 i 33 (absenoldeb teuluol ar gyfer aelodau awdurdodau lleol);
(d)adrannau 56 a 57 (arfer swyddogaethau gan gynghorwyr);
(e)adran 61 (personau dynodedig);
(f)adran 62 (rhoi sylw i safbwyntiau'r cyhoedd);
(g)adrannau 63 i 65 (pwerau cynghorwyr);
(h)adrannau 66 i 75 (penodi personau i gadeirio pwyllgorau);
(i)adran 78 (gwahardd pleidleisio o dan gyfarwyddyd chwip plaid a datgan cyfarwyddyd chwip plaid);
(j)adrannau 81 i 87 (pwyllgorau archwilio);
(k)adrannau 88 i 99 (cyfarfodydd cymunedol a phleidleisio cymunedol);
(l)adran 147 (adroddiadau blynyddol dilynol);
(m)adran 153 (cydymffurfio â gofynion y Panel);
(n)adran 155(1) (peidio â gwneud taliadau);
(o)adran 160 (diwygiadau canlyniadol);
(p)adran 176(1) (diwygiadau canlyniadol a diddymiadau); a
(q)Atodlen 3 (taliadau a phensiynau: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol (Rhan 8 o'r Mesur)).
(2) I'r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cychwyn—
(a)adrannau 142 a 143 (prif swyddogaethau'r Panel);
(b)adran 145 (adroddiadau blynyddol);
(c)adran 148 (ymgynghori ar adroddiadau drafft);
(d)adran 149 (cyfarwyddiadau i amrywio adroddiadau drafft);
(e)adran 150 (gofynion gweinyddol mewn adroddiadau);
(f)adran 151 (gofynion cyhoeddusrwydd mewn adroddiadau);
(g)adran 152 (rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau);
(h)adran 154 (aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadau);
(i) adran 155(2), (3) a (4) (peidio â gwneud taliadau);
(j) adran 156 (cyfarwyddiadau i gydymffurfio â gofynion);
(k) adran 157 (canllawiau);
(l)adran 176(2) (diwygiadau canlyniadol a diddymiadau); ac
(m)Atodlen 4 (diddymiadau a dirymiadau).
3—(1) Er i ddiddymiad a dirymiad y cofnodion yn Rhan F o Atodlen 4 ddod i rym yn unol ag erthygl 2(2)(l) ac (m), mae'r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn parhau i gael effaith fel pe baent heb eu dirymu gan y Mesur at y diben a nodir ym mharagraff (3).
(2) Dyma'r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 2002(1);
(b)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Cymuned) (Cymru) 2003(2);
(c)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004(3); a
(d)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007(4).
(3) Y diben y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw hawliadau a wneir am lwfansau neu daliadau eraill mewn cysylltiad â dyletswyddau cymeradwy a gyflawnir cyn 1 Ebrill 1 2012.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
29 Ebrill 2012
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: