Search Legislation

Rheoliadau Gwastraff (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Diwygiadau

5.  Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle'r diffiniad o “nodyn traddodi” (“consignment note”), rhodder—

  • ystyr “nodyn traddodi ” (“consignment note”), mewn perthynas â llwyth o wastraff peryglus, yw'r ffurflen ddynodi y mae'n ofynnol iddi fod gyda'r gwastraff peryglus pan drosglwyddir ef yn unol ag Erthygl 19(2) o'r Gyfarwyddeb Wastraff.,

(ii)mewnosoder yn y man priodol—

  • ystyr “gwastraff domestig” (“domestic waste”) yw gwastraff a gynhyrchir gan aelwyd;,

(iii)yn lle'r diffiniad o “amlgasgliad” (“multiple collection”), rhodder—

  • ystyr “amlgasgliad” (“multiple collection”) yw taith a wneir gan gludwr unigol sy'n bodloni'r amodau a ganlyn—

    (a)

    bod y cludwr yn casglu mwy nag un llwyth o wastraff peryglus yn ystod y daith;

    (b)

    bod pob llwyth yn cael ei gasglu o fangreoedd gwahanol;

    (c)

    bod pob mangre y cesglir ohoni yng Nghymru ; a

    (ch)

    bod pob llwyth a gesglir yn cael ei gludo gan y cludwr hwnnw yn ystod y daith at yr un traddodai;,

(iv)hepgorer diffiniad o “nodyn traddodi amlgasgliad” (“multiple collection consignment note”);

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adfer” (“recovery”) yw unrhyw weithrediad a'i brif ganlyniad yw bod gwastraff yn ateb diben defnyddiol drwy ddisodli deunyddiau eraill a fyddai fel arall wedi cael eu defnyddio i gyflawni swyddogaeth benodol, neu wastraff a gaiff ei baratoi i gyflawni'r swyddogaeth honno, ar y safle neu yn yr economi ehangach (mae Atodiad II o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o weithrediadau adfer);

  • ystyr “brocer” (“broker”) yw ymgymeriad sy'n trefnu i adfer neu waredu gwastraff ar ran eraill, gan gynnwys broceriaid o'r fath nad ydynt yn cymryd meddiant ffisegol o'r gwastraff;

  • ystyr “casglu” (“collection”) yw crynhoi gwastraff, gan gynnwys sortio cychwynnol a storio cychwynnol o wastraff at ddibenion cludo gwastraff i gyfleuster trin gwastraff;

  • ystyr “cynhyrchydd” (“producer”) yw unrhyw un y mae ei weithgareddau yn cynhyrchu gwastraff (“y cynhyrchydd gwreiddiol”) neu unrhyw un sy'n gwneud gwaith rhagbrosesu, cymysgu neu weithrediadau eraill sy'n golygu bod newid yn natur neu yng nghyfansoddiad y gwastraff;

  • ystyr “deiliad” (“holder”) yw cynhyrchydd y gwastraff neu'r person sydd yn ei feddu;

  • ystyr “deliwr” (“dealer”) yw unrhyw ymgymeriad sy'n gweithredu yn rôl penadur er mwyn prynu ac yna gwerthu gwastraff, gan gynnwys delwyr o'r fath nad ydynt yn cymryd meddiant ffisegol o'r gwastraff;

  • ystyr “gwaredu” (“disposal”) yw unrhyw weithrediad nad yw'n adfer hyd yn oed os oes canlyniad eilaidd i'r gweithrediad sef adennill sylweddau neu ynni (mae Atodiad I o'r Gyfarwyddeb Wastraff yn gosod rhestr nad yw'n hollgynhwysfawr o weithrediadau gwaredu);

  • ystyr “olew gwastraff” (“waste oil”) yw unrhyw iriad mwynol neu synthetig neu olew diwydiannol nad yw bellach yn addas at y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer yn wreiddiol, megis olew sydd wedi ei ddefnyddio a hwnnw'n olew peiriannau hylosgi ac olew gerbocs, olew iro, olew ar gyfer tyrbinau ac olew hydrolig;

  • ystyr “rheoli” (“management”) yw casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff, gan gynnwys goruchwylio'r gweithrediadau hynny a'r ôl-ofal am safleoedd gwaredu, a chan gynnwys camau a gymerir fel deliwr neu frocer;

ac mae ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.;

(c)ym mharagraff (3)(c), yn lle “, atodlen y cludwyr neu nodyn traddodi amlgasgliad”, rhodder “neu atodlen o gludwyr”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources