- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “asesiad anghenion” (“assessment of needs”) yw asesiad gan awdurdod lleol o angen D am wasanaethau gofal cymunedol a ymgymerir yn unol ag adran 47 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(1) neu adran 1 o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000(2) a rhaid darllen “aseswyd bod arno angen” (“assessed as needing”) yn unol â hynny;
ystyr “asesiad modd” (“means assessment”) yw asesiad o fodd ariannol D a ymgymerir yn unol â rheoliadau 13 ac 16, a rhaid darllen “asesiad o fodd D” (“assessment of D’s means”) yn unol â hynny;
ystyr “budd-dal perthnasol” (“relevant benefit”) yw—
cymhorthdal incwm; neu
lwfans cyflogaeth a chymorth; neu
credyd gwarant;
mae i “credyd cynilion” (“savings credit”) yr ystyr a roddir i “savings credit” yn adrannau 1 a 3 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002;
rhaid dehongli “credyd gwarant” (“guarantee credit”) yn unol â'r ystyr a roddir i “guarantee credit” yn adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(3);
ystyr “cyfleuster ymweliadau cartref” (“home visiting facility”) yw ymweliad (neu ymweliadau) gan swyddog priodol awdurdod lleol â chartref neu breswylfa gyfredol D, neu ba bynnag fan cyfarfod arall a fynnir yn rhesymol gan D , at y dibenion o gasglu gwybodaeth i oleuo asesiad modd ar gyfer y person hwnnw ac o ddarparu gwybodaeth a chynnig cymorth mewn perthynas â'r broses honno;
ystyr “cymhorthdal incwm” (“income support”) yw cymhorthdal incwm a delir yn unol ag adran 124 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4);
ystyr “D” (“D”) yw oedolyn a ragnodir at ddibenion—
adran 57(1) o Ddeddf 2001 Act, gan reoliad 3 o Reoliadau 2011 (disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 57(1) o Ddeddf 2001 – gwasanaethau gofal cymunedol a gwasanaethau i ofalwyr); a
adran 57(1A) o Ddeddf 2001, gan reoliad 4 o Reoliadau 2001 (disgrifiadau rhagnodedig o bersonau o dan adran 57(1A) o Ddeddf 2001 Act – gwasanaethau gofal cymunedol), ac
yn y ddau achos, sydd wedi cael cynnig, neu sy'n cael, neu, yn achos person a ddisgrifir ym mharagraff (b), y mae person addas yn cael mewn perthynas ag ef, daliad uniongyrchol i sicrhau darpariaeth o wasanaeth;
ystyr “darpariaeth ddeuol” (“dual provision”) yw fod anghenion asesedig D yn cael eu bodloni—
yn rhannol gan awdurdod lleol sy'n darparu neu'n sicrhau gwasanaeth neu wasanaethau i'r person hwnnw, a
yn rhannol drwy fod D yn cael taliad uniongyrchol er mwyn sicrhau darpariaeth o wasanaeth arall neu o wasanaethau eraill;
ystyr “Deddf 2001” (“the 2001 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001(5);
ystyr “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yw oedolyn y cynigiwyd iddo, neu sy'n cael, gwasanaeth a ddarperir gan awdurdod lleol;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl Banc o fewn yr ystyr a roddir i “bank holiday” gan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(6);
ystyr “ffi” (“charge”) yw'r swm y caiff awdurdod lleol wneud yn ofynnol bod defnyddiwr gwasanaeth yn ei dalu am wasanaeth a ddarperir neu a sicrheir gan yr awdurdod yn unol ag adran 1(1) o'r Mesur (pŵer cyffredinol i godi ffioedd am wasanaethau gofal);
ystyr “ffi unffurf” (“flat-rate charge”) yw ffi yn ôl cyfradd sefydlog, a godir am wasanaeth y caniateir codi ffi amdano ac a dderbynnir gan ddefnyddiwr gwasanaeth, a osodir gan awdurdod lleol heb ystyried modd y defnyddiwr gwasanaeth;
ystyr “gwasanaeth” (“service”) yw gwasanaeth y caniateir codi ffi amdano, a phan fo'r cyd-destun yn mynnu, gwasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt neu gyfuniad o wasanaethau y caniateir codi ffi amdanynt, a rhaid dehongli “gwasanaethau” (“services”) a “cyfuniad o wasanaethau” (“combination of services”) yn unol â hynny;
ystyr “gwasanaeth dydd” (“day service”) yw gwasanaeth, sy'n bodloni rhan o anghenion asesedig D, sy'n digwydd y tu allan i gartref y person hwnnw, ac y bwriedir iddo gynorthwyo'r person hwnnw i gwrdd ag eraill, mabwysiadu diddordebau newydd neu ymarfer ei ddiddordebau presennol, ac y mae'n cynnwys cyfleoedd gwaith;
ystyr “hawlogaeth sylfaenol” (“basic entitlement”) yw—
mewn perthynas â chymhorthdal incwm—
y lwfans personol ac unrhyw bremiymau y mae hawl gan D i'w cael, ond nid oes raid cynnwys y premiwm anabledd difrifol (“PAD”) os telir ef, ac os yw D yn ofalwr, mae'n cynnwys unrhyw bremiwm gofalwr y mae'r person hwnnw'n ei gael,
mewn perthynas â lwfans cyflogaeth a chymorth—
y lwfans personol ac unrhyw bremiymau a chydrannau y mae hawl gan D i'w cael, ond nid oes raid cynnwys y PAD os telir ef, ac os yw D yn ofalwr, mae'n cynnwys unrhyw bremiwm gofal y mae'r person hwnnw'n ei gael,
mewn perthynas â chredyd gwarant—
y lwfans personol ac unrhyw swm ychwanegol y mae hawl gan D i'w gael, ond nid oes raid cynnwys y swm a ychwanegir am anabledd difrifol os telir ef, ac os yw D yn ofalwr, mae'n cynnwys unrhyw swm ychwanegol cymwys i ofalwyr y mae'r person hwnnw'n ei gael;
ystyr “incwm asesadwy” (“assessable income”) yw'r rhan honno o incwm D y caniateir i awdurdod lleol wneud penderfyniad mewn perthynas â hi yn unol â rheoliad 17; nid yw'n cynnwys yr incwm y mae'n ofynnol bod awdurdod lleol yn ei ddiystyru yn unol â rheoliad 16;
ystyr “incwm net” (“net income”) yw'r incwm sydd, neu a fyddai, yn weddill gan D, ar ôl didynnu o incwm asesadwy'r person hwnnw y swm safonol (neu unrhyw swm arall) sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn fel taliad tuag at y gost o sicrhau gwasanaeth y mae, neu y bydd, yn cael taliad uniongyrchol ar ei gyfer;
ystyr “lwfans cyflogaeth a chymorth” (“employment and support allowance”) yw naill ai lwfans cyflogaeth a chymorth seiliedig ar gyfraniadau neu lwfans cyflogaeth a chymorth seiliedig ar incwm yn unol â Rhan 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(7);
ystyr “mewn ysgrifen” (“in writing”) yw unrhyw fynegiant sydd wedi ei gyfansoddi o eiriau a ffigurau y gellir eu darllen, eu hatgynhyrchu a'u cyfleu drachefn, a gall gynnwys gwybodaeth a drawsyrrir ac a gedwir drwy ddulliau electronig;
ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2010;
ystyr “person addas” (“suitable person”) yw person a benodir yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau 2011, i gydsynio i daliad uniongyrchol ac i'w gael ar ran D, yn unol â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hynny;
ystyr “Rheoliadau 2011” (“the 2011 Regulations”) yw Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau i Ofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2011;
ystyr “swm safonol” (“standard amount”) yw'r swm y byddai'n ofynnol i D ei dalu tuag at sicrhau darpariaeth o wasanaeth pe na bai asesiad o fodd y person hwnnw neu benderfyniad ynghylch gallu'r defnyddiwr gwasanaeth i dalu, o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith;
mae i “taliad uniongyrchol” (“direct payment”) yr ystyr a roddir i'r term yn rheoliadau 8 a 9 o Reoliadau 2011, ac y mae unrhyw gyfeiriad at daliad uniongyrchol yn cynnwys, pan fo'r cyd-destun yn mynnu felly, unrhyw ran neu rannau o'r taliad hwnnw.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at D “yn talu” (“paying”) neu'n gwneud “taliad” (“payment”) o swm (tuag at y gost o sicrhau darpariaeth o wasanaeth) fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at dalu neu wneud taliad fel ad-daliad neu gyfraniad(8).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: