- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol, ni cheir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 3 neu 4, ar gyfer darparu llety preswyl i'r person hwnnw am gyfnod hwy na 4 wythnos mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
(2) Wrth gyfrifo'r cyfnod o 4 wythnos a grybwyllir ym mharagraff (1), o fewn unrhyw gyfnod o 12 mis—
(a)ni fydd unrhyw gyfnod cyntaf o lety preswyl sy'n llai na 4 wythnos (cyfnod A) yn cael ei adio at gyfnod olynol (cyfnod B) ac eithrio pan fo'r cyfnod B yn cychwyn o fewn 4 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod A; a
(b)bydd unrhyw gyfnod mewn llety preswyl sy'n dilyn y cyfnod B yn cael ei gynnwys yn y cyfrifiad.
(3) Ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol mewn perthynas â pherson rhagnodedig sy'n dod o fewn rheoliad 5 ar gyfer darparu llety preswyl—
(a)am unrhyw gyfnod sengl sy'n hwy na 4 wythnos; a
(b)am unrhyw gyfnod o fwy na 120 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
(4) Ni chaniateir gwneud taliad uniongyrchol ar gyfer darparu llety preswyl–
(a)pan fo person yn dod o fewn y disgrifiad o berson a ragnodir gan reoliad 3 neu 4; a
(b)pan fo'r person hwnnw'n cael, neu'n mynd i gael, taliad uniongyrchol, neu pan fo taliad uniongyrchol yn cael ei wneud neu'n mynd i gael ei wneud mewn perthynas â'r person hwnnw, at y diben o sicrhau darpariaeth o wasanaeth y caniateir codi ffioedd amdano.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: