- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
30.—(1) Yn ystod y cyfnod pan fo atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y Rhan hon, atelir unrhyw gyfnod cyfyngiad ar gyfer dwyn achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd hwnnw, a ragnodir gan neu o dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980(1) neu unrhyw ddeddfiad arall, ac ni fydd amser yn treiglo at ddibenion cyfrifo unrhyw derfynau amser a ragnodir gan y deddfiadau hynny.
(2) At ddibenion y Rhan hon, ystyrir bod atebolrwydd yn destun cais am iawn am gyfnod—
(a)sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y cafodd y corff GIG Cymru yr hysbysiad o bryder dechreuol a ddaeth yn gais am iawn; a
(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), sy'n parhau hyd at, a chan gynnwys, y dyddiad y mae'r claf neu ei gynrychiolydd yn derbyn cynnig o ddigollediad ariannol a wnaed yn unol â rheoliad 33 drwy lofnodi cytundeb ffurfiol ac ildiad cyfreithiol yn unol â rheoliad 33(d), neu hyd nes bo'r claf neu ei gynrychiolydd yn gwrthod cynnig o ddigollediad o'r fath.
(3) Nid ystyrir mwyach bod atebolrwydd yn destun cais am iawn ymhen naw mis calendr o'r dyddiad pan wneir cynnig o ddigollediad ariannol gan y corff GIG Cymru mewn perthynas â'r atebolrwydd hwnnw.
(4) Mewn achosion pan fo cymeradwyaeth llys yn ofynnol ar gyfer setliad a gynigir, megis yn yr amgylchiadau a amlinellir yn rheoliad 33(dd), os bydd cyfyngiad amser yn fater perthnasol, atelir cyfnod y cyfyngiad dros dro, tan y dyddiad y cymeradwyir y setliad gan y llys.
(5) Mewn achosion pan fo corff GIG Cymru yn dynodi, yn unol â rheoliad 33, ei fod o'r farn nad oes atebolrwydd cymwys, ac wedi penderfynu peidio â gwneud cynnig o iawn, nid ystyrir mwyach bod atebolrwydd yn destun cais am iawn ymhen naw mis calendr o'r dyddiad y rhoddodd y corff GIG Cymru hysbysiad o'i benderfyniad yn unol â rheoliad 33.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: