- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
14.—(1) Mae'r canlynol yn faterion a phryderon sydd wedi eu heithrio o briod faes y trefniadau sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn—
(a)pryder a hysbysir gan ddarparwr gofal sylfaenol, sy'n ymwneud â'r contract neu'r trefniadau y mae'n darparu gwasanaethau gofal sylfaenol odano neu odanynt;
(b)pryder a hysbysir gan aelod o staff corff cyfrifol ynghylch unrhyw fater sy'n ymwneud â chontract cyflogaeth y person hwnnw;
(c)pryder sydd neu a fu'n destun ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru(1);
(ch)pryder sy'n codi o fethiant honedig gan gorff cyfrifol i gydymffurfio â chais am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000(2);
(d)achos disgyblu y mae corff cyfrifol yn ei ddwyn, neu'n bwriadu ei ddwyn, sy'n ganlyniad, neu sy'n tarddu o, ymchwiliad i bryder a hysbyswyd yn unol â threfniadau i ymdrin â phryderon a wnaed o dan y Rheoliadau hyn;
(dd)pryder a hysbysir ar lafar, naill ai'n bersonol neu dros y teleffon, ac a ddatrysir er boddhad i'r person a hysbysodd y pryder, ddim hwyrach na'r diwrnod gwaith nesaf ar ôl y diwrnod y hysbyswyd y pryder;
(e)pryder sydd â'r un testun â phryder a hysbyswyd yn flaenorol, ac a ddatryswyd yn unol ag is-baragraff (dd), oni fydd y corff cyfrifol o'r farn y byddai'n rhesymol ailagor ystyriaeth o'r pryder hwnnw a chynnal ymchwiliad yn unol â Rhan 5;
(f)pryder yr ystyriwyd ei destun eisoes yn unol â threfniadau a wnaed o dan—
(i)y Rheoliadau hyn; neu
(ii)unrhyw weithdrefn gwynion berthnasol mewn cysylltiad â chwyn a wnaed cyn 1 Ebrill 2011;
(ff)pryder y mae ei destun, neu y daw ei destun, yn destun achos sifil; neu
(g)pryder y mae ei destun, neu y daw ei destun, yn bryder mewn perthynas â chais am driniaeth i glaf unigol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo pryder neu fater yn bryder neu fater a bennir ym mharagraff (1), a chorff cyfrifol yn gwneud penderfyniad i'r perwyl hwnnw, rhaid i'r corff cyfrifol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, hysbysu'r person a hysbysodd y pryder neu fater o'i benderfyniad, mewn ysgrifen, gan roi'r rheswm dros y penderfyniad.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i fater a bennir yn is-baragraff (dd) o baragraff (1).
(4) Pan fo mater a bennir ym mharagraff (1) yn rhan o fater arall nas pennir felly, neu'n gysylltiedig â mater arall o'r fath, nid oes dim yn y rheoliad hwn sy'n rhwystro'r mater arall hwnnw rhag cael ei ystyried fel pryder a hysbyswyd yn unol â threfniadau a wnaed o dan y Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: