- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
34.—(1) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “corff GIG Lloegr” (“an English NHS body”) yw—
(a)Awdurdod Iechyd Strategol, a sefydlwyd o dan adran 13 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(1);
(b)Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol, a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;
(c)Ymddiriedolaeth GIG, a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;
(ch)Awdurdod Iechyd Arbennig, a sefydlwyd o dan adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006; neu
(d)Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG a awdurdodwyd o dan Bennod 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,
sy'n darparu, neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff GIG Cymru.
(2) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “corff GIG yr Alban” (“a Scottish NHS body”) yw—
(a)Bwrdd Iechyd a gyfansoddwyd o dan adran 2(1)(a) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978(2);
(b)Bwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2(1)(b) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978; neu
(c)yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin a gyfansoddwyd o dan adran 10 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr Alban) 1978,
sy'n darparu, neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff GIG Cymru.
(3) At ddibenion y Rhan hon, ystyr “corff GIG Gogledd Iwerddon” (“a Northern Irish NHS body”) yw—
(a)Ymddiriedolaeth Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991(3);
(b)Y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol a sefydlwyd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009(4);
(c)Gwasanaeth Trallwyso Gwaed Gogledd Iwerddon a sefydlwyd o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Asiantaethau Arbennig) 1990(5);
(ch)Y Sefydliad Gwasanaethau Busnes Rhanbarthol a sefydlwyd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009; neu
(d)Yr Asiantaeth Ranbarthol dros Iechyd y Cyhoedd a Lles Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 2009,
sy'n darparu neu'n trefnu ar gyfer darparu, gwasanaethau, y mae eu darparu yn destun trefniadau gyda chorff GIG Cymru.
(4) ystyr “gweithdrefn gwynion berthnasol” (“relevant complaints procedure”) yw gweithdrefn gwynion y mae'n rhaid i gorff GIG Lloegr ei dilyn ar ôl cael hysbysiad o bryder.
(5) ystyr “person a hysbysodd bryder” (“person who notified a concern”) yw, yn ôl y cyd-destun, y person a hysbysodd bryder i gorff GIG Lloegr, corff GIG yr Alban neu gorff GIG Gogledd Iwerddon.
35. Pan fo corff GIG Lloegr yn cael, o dan weithdrefn gwynion berthnasol, hysbysiad o bryder sy'n cynnwys honiad bod, neu y gallai fod, niwed wedi ei achosi, ac sy'n ymwneud â gwasanaethau a ddarparwyd ganddo neu y trefnodd i'w darparu o dan drefniadau gyda chorff GIG Cymru, rhaid i'r corff GIG Lloegr, wrth ystyried y pryder yn unol â'r weithdrefn gwynion honno, ystyried a yw'r pryder yn cynnwys atebolrwydd cymwys ai peidio, y gallai fod iawn ar gael amdano.
36.—(1) Os daw corff GIG Lloegr i'r casgliad bod, neu y gallai fod, atebolrwydd cymwys ac y gallai fod iawn ar gael, rhaid i'r corff GIG Lloegr hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl, gymryd y camau a amlinellir ym mharagraff (2).
(2) Rhaid i'r corff GIG Lloegr hysbysu'r corff GIG Cymru yr ymunodd mewn trefniant gydag ef, ei fod o'r farn bod atebolrwydd cymwys naill ai'n bodoli, neu y gallai fodoli, ac, ar ôl sicrhau unrhyw ganiatadau priodol, darparu'r canlynol i'r corff GIG Cymru:
(a)copi o'r ymateb i unrhyw bryder, a ddarparwyd yn unol â gweithdrefn gwynion berthnasol;
(b)copi o unrhyw gofnodion meddygol perthnasol;
(c)copi o unrhyw farn arbenigol a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad i bryder;
(ch)adroddiad ysgrifenedig pam y mae o'r farn bod, neu y gallai fod, atebolrwydd cymwys;
(d)y dyddiad y cafodd y hysbysiad o bryder; ac
(dd)pa bynnag wybodaeth neu gymorth arall y gofynnir amdani neu amdano'n rhesymol gan y corff GIG Cymru.
37.—(1) Rhaid i gorff GIG Cymru, o fewn pum niwrnod gwaith, gydnabod derbyn yr hysbysiad a roddwyd yn unol â rheoliad 36.
(2) Rhaid iddo hefyd, o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl cael yr hysbysiad, roi gwybod i'r person a hysbysodd y pryder i'r corff GIG Lloegr, fod y pryder bellach wedi ei anfon ato i ystyried pa un a oes atebolrwydd cymwys ai peidio.
(3) Rhaid i gorff GIG Cymru benderfynu a oes atebolrwydd cymwys ai peidio, a rhaid iddo benderfynu a ddylid gwneud cynnig o iawn i'r claf ai peidio.
38.—(1) Rhaid i gorff GIG Cymru, o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl cael yr hysbysiad oddi wrth gorff GIG yr Alban neu gorff GIG Gogledd Iwerddon, gydnabod derbyn yr hysbysiad.
(2) Rhaid iddo hefyd, o fewn pum niwrnod gwaith ar ôl cael yr hysbysiad, roi gwybod i'r person a hysbysodd y pryder, fod y pryder bellach wedi ei anfon ato i ystyried pa un a oes atebolrwydd cymwys ai peidio.
(3) Rhaid i gorff GIG Cymru benderfynu a oes atebolrwydd cymwys ai peidio, a rhaid iddo benderfynu a ddylid gwneud cynnig o iawn i'r claf ai peidio.
39.—(1) Ar ôl cael hysbysiad gan gorff GIG Lloegr, corff GIG yr Alban neu gorff GIG Gogledd Iwerddon, rhaid i gorff GIG Cymru—
(a)cynnig cyfarfod â'r person a hysbysodd y pryder; a
(b)cynnal ymchwiliad sy'n dilyn yr egwyddorion yn rheoliad 23(1)(a), (b), (c), (d), ac (f).
(2) Ar ôl cael hysbysiad gan gorff GIG Lloegr, rhaid i gorff GIG Cymru a'r corff GIG Lloegr gydweithio mewn ffordd sy'n bodloni gofynion perthnasol y Rhan hon—
(a)i benderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli ai peidio; a
(b)os penderfynir bod atebolrwydd cymwys yn bodoli, gynnig iawn.
40.—(1) Pan fo corff GIG Cymru, yn dilyn ymchwiliad o dan reoliad 39, o'r farn bod, neu y gall fod, atebolrwydd cymwys, rhaid i'r corff GIG Cymru baratoi adroddiad interim, sydd—
(a)yn crynhoi natur a sylwedd y mater neu'r materion a hysbyswyd yn y pryder;
(b)yn disgrifio'r ymchwiliad a ymgymerwyd yn unol â rheoliad 39;
(c)yn disgrifio pam, ym marn y corff GIG Cymru, y mae neu y gall fod atebolrwydd cymwys;
(ch)yn cynnwys copi o unrhyw gofnodion meddygol perthnasol;
(d)yn esbonio bod mynediad at gyngor cyfreithiol ar gael yn ddi—dâl yn unol â darpariaethau rheoliad 47;
(dd)yn esbonio bod gwasanaethau eiriolaeth a chefnogaeth ar gael, a allai fod o gymorth;
(e)yn esbonio'r weithdrefn a ddilynir er mwyn penderfynu a oes atebolrwydd cymwys yn bodoli ai peidio, a'r weithdrefn ar gyfer cynnig iawn os canfyddir bod atebolrwydd cymwys o'r fath yn bodoli;
(f)yn cadarnhau y rhoddir ar gael gopi o adroddiad yr ymchwiliad y cyfeirir ato yn rheoliad 46, pan baratoir ef, yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwnnw i'r person sy'n ceisio iawn neu i'w gynrychiolydd cyfreithiol;
(ff)yn cynnwys manylion am yr hawl i hysbysu'r pryder, mewn perthynas â gweithredoedd neu anweithiau'r corff GIG Cymru, i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru;
(g)yn cynnig cyfle i'r person sy'n ceisio iawn drafod cynnwys yr adroddiad interim gyda'r swyddog cyfrifol a ddynodwyd yn unol â rheoliad 7 neu berson sy'n gweithredu ar ei ran; ac
(ng)wedi ei lofnodi gan y swyddog cyfrifol neu berson sy'n gweithredu ar ei ran.
(2) Ac eithrio pan fo paragraff (3) yn gymwys, rhaid i gorff GIG Cymru gymryd pob cam rhesymol i anfon adroddiad interim at y person a hysbysodd y pryder o fewn cyfnod o hanner can niwrnod gwaith sy'n dechrau gyda'r diwrnod y cafodd y corff yr hysbysiad o bryder.
(3) Os na all corff GIG Cymru ddarparu adroddiad interim yn unol â pharagraff (2), rhaid iddo—
(a)hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o hynny, gan esbonio'r rheswm; a
(b)anfon yr adroddiad interim cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac o fewn cyfnod o chwe mis sy'n cychwyn gyda'r diwrnod y cafodd yr hysbysiad o bryder.
(4) Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o chwe mis, rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gellir disgwyl cael yr adroddiad interim.
(5) Rhaid darparu adroddiad yr ymchwiliad, y cyfeirir ato yn rheoliad 46, i'r person a hysbysodd y pryder neu i'w gynrychiolydd cyfreithiol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a hynny ddim hwyrach na deuddeng mis o'r dyddiad y cafodd y corff GIG Cymru yr hysbysiad o bryder.
(6) Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o ddeuddeng mis, rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder neu ei gynrychiolydd cyfreithiol o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gellir disgwyl cael adroddiad yr ymchwiliad.
41. Os yw corff GIG Cymru, yn dilyn ymchwiliad yn unol â rheoliad 39, yn penderfynu nad yw'r pryder a hysbyswyd yn unol â rheoliad 36, neu gan gorff GIG yr Alban neu gorff GIG Gogledd Iwerddon, yn cynnwys atebolrwydd cymwys, rhaid i'r corff GIG Cymru—
(a)hysbysu, mewn ysgrifen, y person a hysbysodd y pryder o'i benderfyniad, ac o'r rhesymau am ei benderfyniad;
(b)cynnig cyfarfod y person a hysbysodd y pryder, i drafod y penderfyniad;
(c)darparu manylion i'r person a hysbysodd y pryder, o'r hawl i hysbysu unrhyw bryder ynghylch gweithredoedd neu anweithiau'r corff GIG Cymru i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru; ac
(ch)anfon copi o'r llythyr penderfyniad ym mharagraff (a) at y corff GIG Lloegr, corff GIG yr Alban neu gorff GIG Gogledd Iwerddon.
42.—(1) Mae iawn o dan y Rhan hon yn cynnwys—
(a)gwneud cynnig o ddigollediad i fodloni unrhyw hawl i ddwyn achos sifil mewn perthynas ag atebolrwydd cymwys;
(b)rhoi esboniad;
(c)gwneud ymddiheuriad ysgrifenedig; ac
(ch)rhoi adroddiad ar y modd y gweithredwyd, neu y gweithredir yn y dyfodol, i rwystro achosion cyffelyb rhag digwydd eto.
(2) Caiff y digollediad y caniateir ei gynnig yn unol â rheoliad 42(1)(a) fod ar ffurf ymuno mewn contract i ddarparu gofal neu driniaeth, neu ddigollediad ariannol, neu'r ddau.
43.—(1) Nid oes iawn ar gael mewn perthynas ag atebolrwydd sydd, neu a fu, yn destun achos sifil.
(2) Os cychwynnir achos sifil o'r fath yn ystod ystyriaeth o iawn gan gorff GIG Cymru, rhaid terfynu'r ystyriaeth o iawn gan y corff GIG Cymru yn unol â'r Rhan hon, a rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder a'r corff GIG Lloegr, corff GIG yr Alban neu'r corff GIG Gogledd Iwerddon a hysbysodd y pryder wrth y corf GIG Cymru, yn unol â hynny.
44.—(1) Caiff corff GIG Cymru wneud cynnig o iawn am atebolrwydd cymwys ar ffurf digollediad ariannol o ddim mwy na £25,000.
(2) Pan fo corff GIG Cymru o'r farn bod y gwerth sydd i'w briodoli i'r atebolrwydd cymwys sy'n codi o ddarparu gwasanaethau cymwys yn fwy na'r terfyn a bennir ym mharagraff (1), rhaid peidio â chynnig iawn ar ffurf digollediad ariannol yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(3) Cyfrifir yr iawndal am boen, dioddefaint a cholled amwynder ar sail y gyfraith gyffredin. Caiff Gweinidogion Cymru, o bryd i'w gilydd, ddyroddi tariff digolledu.
(4) Os dyroddir tariff yn unol â pharagraff (3), mae cyrff GIG Cymru i'w ddefnyddio at ddibenion canllaw wrth ystyried swm y digollediad ariannol sydd i'w gynnig yn unol â'r Rhan hon.
45.—(1) Yn ystod y cyfnod pan fo atebolrwydd yn destun cais am iawn o dan y Rhan hon, atelir unrhyw gyfnod cyfyngiad ar gyfer dwyn achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd hwnnw, a ragnodir gan neu o dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980(6) neu unrhyw ddeddfiad arall, ac ni fydd amser yn treiglo at ddibenion cyfrifo unrhyw derfynau amser a ragnodir gan y deddfiadau hynny.
(2) At ddibenion y Rhan hon, ystyrir bod atebolrwydd yn destun cais am iawn—
(a)yn cychwyn o'r dyddiad y cafodd y corff GIG Lloegr, y corff GIG yr Alban neu'r corff GIG Gogledd Iwerddon yr hysbysiad gwreiddiol o bryder, a ddaeth yn gais am iawn;
(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (3), (4) a (5), hyd at a chan gynnwys yr amser y derbynnir cynnig o ddigollediad ariannol yn unol â rheoliad 48 gan glaf neu ei gynrychiolydd drwy lofnodi cytundeb ffurfiol ac ildiad cyfreithiol yn unol â rheoliad 48(d), neu hyd nes gwrthodir cynnig o ddigollediad o'r fath gan glaf neu ei gynrychiolydd.
(3) Nid ystyrir mwyach bod atebolrwydd yn destun cais am iawn ymhen naw mis calendr o'r dyddiad pan wneir cynnig o ddigollediad ariannol gan y corff GIG Cymru mewn perthynas â'r atebolrwydd hwnnw.
(4) Mewn achosion pan fo cymeradwyaeth llys yn ofynnol ar gyfer unrhyw setliad a gynigir, megis yn yr amgylchiadau a amlinellir yn rheoliad 48(dd), os bydd cyfyngiad amser yn fater perthnasol, atelir cyfnod y cyfyngiad dros dro, hyd nes cyrhaeddir setliad a gymeradwyir gan y llys.
(5) Mewn achosion pan fo corff GIG Cymru yn dynodi, yn unol â rheoliad 48, ei fod wedi penderfynu nad oes atebolrwydd cymwys ac wedi penderfynu peidio â gwneud cynnig o iawn, nid ystyrir mwyach bod atebolrwydd yn destun cais am iawn ymhen naw mis calendr o'r dyddiad yr hysbysodd y corff GIG Cymru ei benderfyniad yn unol â rheoliad 48.
46.—(1) Rhaid i gorff GIG Cymru sicrhau bod canfyddiadau'r ymchwiliad i bryder, pan fo person yn ceisio iawn o dan y Rhan hon, yn cael eu cofnodi mewn adroddiad ar yr ymchwiliad.
(2) Rhaid i adroddiad ar ymchwiliad gynnwys y canlynol—
(a)copi o unrhyw dystiolaeth feddygol a gomisiynwyd yn unol â'r Rhan hon er mwyn canfod a oes atebolrwydd cymwys ai peidio, neu a gomisiynwyd i ganfod cyflwr a phrognosis;
(b)hysbysiad gan y corff GIG Cymru yn cadarnhau a oes, yn ei farn ef, atebolrwydd cymwys ai peidio; ac
(c)esboniad o'r farn a fynegir yn is-baragraff (b).
(3) Ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys, rhaid i'r corff GIG Cymru ddarparu copi o adroddiad yr ymchwiliad i'r person sy'n ceisio iawn o dan y Rhan hon neu i'w gynrychiolydd cyfreithiol, o fewn terfyn amser fel a bennir yn rheoliad 40(5) neu (6).
(4) Nid oes angen i'r corff GIG Cymru ddarparu copi o adroddiad yr ymchwiliad—
(a)cyn gwneud cynnig o iawn o dan y Rhan hon;
(b)cyn hysbysu ynghylch penderfyniad i beidio â gwneud cynnig o iawn;
(c)os terfynir, am unrhyw reswm, yr ymchwiliad i'r iawn yn unol â'r Rhan hon; neu
(ch)pan fo'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth sy'n debygol o beri niwed neu drallod sylweddol i'r claf neu i geisydd arall am iawn.
47.—(1) Pan fo corff GIG Cymru wedi penderfynu bod atebolrwydd cymwys naill ai'n bodoli, neu y gall fodoli, yn unol â rheoliad 40 a'r Rhan hon, rhaid i'r corff GIG Cymru sicrhau—
(a)bod cyngor cyfreithiol ar gael i berson sy'n ceisio iawn o dan y Rhan hon, yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn; a
(b)os oes angen cyfarwyddo arbenigwr neu arbenigwyr meddygol, y cyflawnir y cyfarwyddo ar y cyd gan y corff GIG Cymru a'r person a hysbysodd y pryder.
(2) Rhaid ceisio cyngor cyfreithiol gan y ffyrmiau cyfreithwyr hynny, yn unig, sydd ag arbenigedd cydnabyddedig ym maes esgeuluster clinigol. Cydnabyddir bod gan ffyrm yr arbenigedd angenrheidiol os oes ganddynt o leiaf un partner neu gyflogai sy'n aelod o Banel Esgeuluster Clinigol Cymdeithas y Cyfreithwyr(7) neu Weithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol(8).
(3) Rhaid i gorff GIG Cymru sicrhau y bydd cyngor cyfreithiol di-dâl ar gael i'r person a hysbysodd y pryder mewn perthynas â'r materion canlynol—
(a)cyfarwyddo arbenigwyr meddygol ar y cyd, gan gynnwys ceisio eglurhad gan y cyfryw arbenigwyr ar faterion sy'n codi o'u hadroddiadau;
(b)unrhyw gynnig a wneir yn unol â'r Rhan hon;
(c)unrhyw wrthodiad i wneud cynnig o'r fath; ac
(ch)unrhyw gytundeb setlo a gynigir.
(4) Yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau sydd gan gorff GIG Cymru i adennill gwariant o'r fath oddi ar gorff GIG Lloegr, rhaid i gost y cyfryw gyngor cyfreithiol a chostau sy'n codi o gyfarwyddo'r cyfryw arbenigwyr meddygol gael eu dwyn yn gyfan gwbl gan y corff GIG Cymru.
48. Pan fo corff GIG Cymru yn penderfynu gwneud cynnig o iawn ar ffurf digollediad ariannol neu ymuno mewn contract i ddarparu gofal neu driniaeth, neu'r ddau, neu'n penderfynu peidio â gwneud cynnig o iawn, ar y sail nad oes atebolrwydd cymwys, rhaid iddo—
(a)anfon y cynnig neu'r hysbysiad o'r penderfyniad i beidio â gwneud cynnig at y person a hysbysodd y pryder o fewn deuddeng mis o'r dyddiad y hysbyswyd y pryder i'r corff GIG Cymru. Os yw amgylchiadau eithriadol yn peri na ellir cadw at y cyfnod o ddeuddeng mis, rhaid i'r corff GIG Cymru hysbysu'r person a hysbysodd y pryder neu ei gynrychiolydd cyfreithiol o'r rhesymau am yr oedi a pha bryd y gwneir penderfyniad ynglŷn â'r cais am iawn;
(b)hysbysu'r person hwnnw neu ei gynrychiolydd cyfreithiol bod rhaid iddo ymateb i'r cynnig o setliad neu'r penderfyniad i beidio â gwneud cynnig o setliad o fewn chwe mis o'r dyddiad y gwneir y cynnig neu'r penderfyniad;
(c)yn ddarostyngedig i baragraff (ch), rhaid i'r corff GIG Cymru roi gwybod hefyd, os na fydd yn bosibl ymateb i'r cynnig o setliad neu'r penderfyniad i beidio â gwneud cynnig o setliad o fewn chwe mis, oherwydd amgylchiadau eithriadol, y bydd rhaid hysbysu'r corff GIG Cymru o'r rhesymau am yr oedi, a pha bryd y cyflwynir ymateb;
(ch)rhoi gwybod i berson neu ei gynrychiolydd cyfreithiol, os gofynnir am estyn yr amser a ganiateir i ymateb i gynnig o setliad neu benderfyniad i beidio â gwneud cynnig o setliad, y bydd yn ofynnol ymateb o fewn naw mis calendr o ddyddiad y cynnig, gan mai'r dyddiad hwnnw, yn unol â rheoliad 45(3) a (5) yw dyddiad cychwyn cyfnod y cyfyngiad;
(d)rhoi gwybod, os gwneir cynnig, y bydd y setliad a gynigir ar ffurf cytundeb ffurfiol, ac y bydd rhaid i'r cytundeb gynnwys ildiad o unrhyw hawl i ddwyn achos sifil mewn perthynas â'r atebolrwydd cymwys y mae'r setliad yn ymwneud ag ef;
(dd)rhoi gwybod, o dan amgylchiadau priodol, y byddai'r cytundeb setlo a gynigir yn ddarostyngedig i'w gymeradwyo gan lys, megis mewn achosion pan fo'r person y mae'r atebolrwydd cymwys yn ymwneud ag ef—
(i)yn blentyn; neu
(ii)heb alluedd yn yr ystyr a roddir i “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005(9); ac
(e)rhoi gwybod, os yw'n ofynnol cael cymeradwyaeth llys ar gyfer setliad, y byddai rhaid i'r corff GIG Cymru dalu'r costau cyfreithiol rhesymol a fyddai'n gysylltiedig â chael y cyfryw gymeradwyaeth.
Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn rhedeg cynllun achredu ar gyfer cyfreithwyr a Chymrodyr Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (ILEX) sy'n arbenigo mewn achosion o esgeuluster clinigol. Mae gan gyfreithwyr a Chymrodyr ILEX hawl i gael eu rhestru fel aelodau o Banel Esgeuluster Clinigol Cymdeithas y Cyfreithwyr os ydynt yn gallu dangos, yn unol â gweithdrefn gyhoeddedig Cymdeithas y Cyfreithwyr, fod ganddynt ddigon o arbenigedd mewn materion esgeuluster clinigol.
Elusen yw Gweithredu yn erbyn Damweiniau Meddygol (AVMA) a sefydlwyd i hybu diogelwch cleifion. Mae'n rhedeg cynllun achredu ar gyfer cyfreithwyr a Chymrodyr Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (ILEX). Gall cyfreithwyr a Chymrodyr ILEX sy'n gallu dangos eu bod yn bodloni meini prawf cyhoeddedig ar gyfer dangos arbenigedd ym maes esgeuluster clinigol ddod yn aelodau o Banel Esgeuluster Clinigol AVMA.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: