- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
17.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn unrhyw achos—
(a)pan fo'r person sy'n hysbysu pryder wedi codi materion sy'n ymwneud â'r modd yr arferir swyddogaethau mwy nag un corff cyfrifol; neu
(b)pan yw'n ymddangos i gorff cyfrifol (“y corff cyntaf”) bod, neu y gall fod, pryder a hysbyswyd iddo yn bryder sy'n ymwneud ag arfer swyddogaethau corff cyfrifol arall (“yr ail gorff”).
(2) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, os yw'r pryder wedi ei hysbysu gan glaf neu, yn unol â rheoliad 12, gan gynrychiolydd y claf, rhaid i'r corff cyntaf—
(a)o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl cael y hysbysiad o bryder, gofyn am ganiatâd y person a hysbysodd y pryder i hysbysu'r ail gorff neu gyrff sy'n gysylltiedig; a
(b)hysbysu'r ail gorff neu gyrff sy'n gysylltiedig o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl cael y caniatâd a grybwyllir yn is-baragraff (a).
(3) Rhaid i'r corff cyntaf a'r ail gorff neu gyrff gydweithredu at y diben o—
(a)cydgysylltu'r gwaith o drin ac ystyried y pryder; a
(b)sicrhau bod y person a hysbysodd y pryder yn cael ymateb cydgysylltiedig i'r pryder neu bryderon a hysbyswyd ganddo.
(4) Mae'r ddyletswydd i gydweithredu o dan baragraff (3) yn cynnwys, yn benodol, dyletswydd ar bob corff—
(a)i geisio cytuno ar ba un o'r cyrff cysylltiedig a ddylai arwain o ran—
(i)cydgysylltu'r gwaith o drin ac ystyried y pryder; a
(ii)cyfathrebu â'r person a hysbysodd y pryder;
(b)ar yr amod y caniateir y caniatadau priodol, i ddarparu gwybodaeth berthnasol i'r corff neu gyrff eraill ar gyfer trin ac ystyried y pryder, pan fo corff arall yn gofyn yn rhesymol am yr wybodaeth; ac
(c)i sicrhau y caiff ei gynrychioli mewn unrhyw gyfarfod y gofynnir amdano yn rhesymol mewn cysylltiad â thrin ac ystyried y pryder.
18. Mae'r rheoliad hwn a rheoliadau 19, 20 a 21 yn gymwys i bryder—
(a)a hysbysir i Fwrdd Iechyd Lleol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2011 yn unol â threfniadau i ymdrin â phryderon, a wnaed o dan y Rheoliadau hyn;
(b)ynghylch y gwasanaethau a ddarperir gan ddarparwr gofal sylfaenol o dan gontract neu drefniadau gyda Bwrdd Iechyd Lleol; ac
(c)nad yw wedi ei eithrio yn unol â rheoliad 14 rhag ei ystyried.
19.—(1) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael hysbysiad o bryder gan neu ar ran person sy'n cael neu sydd wedi cael gwasanaethau gan ddarparwr gofal sylfaenol, rhaid iddo benderfynu a yw'r pryder, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, yn un priodol i'r Bwrdd Iechyd Lleol ei ystyried, ynteu a fyddai'n fwy priodol iddo gael ei ystyried gan y darparwr gofal sylfaenol sy'n destun y pryder.
(2) Cyn gwneud penderfyniad rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol ganfod gan y person a hysbysodd y pryder—
(a)pa un a ystyriwyd y pryder gan y darparwr gofal sylfaenol ai peidio, ac os do, pa un a ddyroddwyd ymateb gan y darparwr yn unol â rheoliad 24; a
(b)pa un a yw'r person a hysbysodd y pryder yn rhoi caniatâd ai peidio ag anfon manylion o'r pryder at y darparwr gofal sylfaenol sy'n destun y pryder.
(3) Os dyroddwyd ymateb gan y darparwr gofal sylfaenol yn unol â rheoliad 24, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio ag ystyried y pryder.
(4) Os nad yw'r person sy'n hysbysu'r pryder yn rhoi caniatâd i'r Bwrdd Iechyd Lleol anfon manylion o'r pryder at y darparwr gofal sylfaenol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio ag ymchwilio i'r pryder, oni fyddai hysbysu'r darparwr gofal sylfaenol o'r pryder, ym marn resymol y Bwrdd Iechyd Lleol, yn rhagfarnu ei ystyriaeth o'r pryder.
20.—(1) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn cael hysbysiad o bryder gan ddarparwr gofal sylfaenol, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu a yw'r pryder, ym marn y Bwrdd Iechyd Lleol, yn un priodol i'r Bwrdd Iechyd Lleol ei ystyried, ynteu a fyddai'n fwy priodol i'r pryder gael ei ystyried gan y darparwr gofal sylfaenol sy'n destun y pryder.
(2) Cyn gwneud penderfyniad rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—
(a)canfod a yw'r pryder wedi ei ystyried gan y darparwr gofal sylfaenol ai peidio, ac os ydyw, a ddyroddwyd ymateb gan y darparwr yn unol â rheoliad 24; a
(b)canfod a yw'r person a hysbysodd y pryder yn rhoi caniatâd i'r Bwrdd Iechyd Lleol ystyried y pryder ai peidio, os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu, yn unol â pharagraff (2), y byddai'n briodol i'r Bwrdd Iechyd Lleol wneud hynny.
(3) Os dyroddwyd ymateb gan y darparwr yn unol â rheoliad 24, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio ag ystyried y pryder.
(4) Os nad yw'r person a hysbysodd y pryder yn rhoi caniatâd i'r Bwrdd Iechyd Lleol ymdrin â'r pryder, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio ag ystyried y pryder.
21.—(1) Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu, yn unol â rheoliad 19(1) neu 20(1) ei fod yn briodol iddo ymdrin â phryder, rhaid iddo—
(a)hysbysu'r person a hysbysodd y pryder a'r darparwr gofal sylfaenol o'i benderfyniad; a
(b)parhau i ymdrin â'r pryder yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu, yn unol â rheoliad 19(1) neu 20(1) y byddai'n fwy priodol i'r darparwr gofal sylfaenol ymdrin â'r pryder, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r person a hysbysodd y pryder a'r darparwr gofal sylfaenol o'i benderfyniad.
(3) Pan fo'r darparwr gofal sylfaenol yn cael yr hysbysiad o'r penderfyniad a ddyroddir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2)—
(a)rhaid i'r darparwr gofal sylfaenol ymdrin â'r pryder yn unol â'r Rheoliadau hyn; a
(b)ystyrir bod y person a hysbysodd y pryder wedi hysbysu'r pryder i'r darparwr gofal sylfaenol yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(4) Y terfyn amser ar gyfer hysbysu ynghylch penderfyniad a wneir o dan reoliad 19(1) neu 20(1) yw pum niwrnod gwaith ar ôl i'r Bwrdd Iechyd Lleol benderfynu'r materion a amlinellir yn rheoliad 19(2) neu 20(2).
(5) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol roi rhesymau am ei benderfyniad o dan reoliad 19(1) neu 20(1).
(6) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol wedi cael hysbysiad o bryder gan neu ar ran person sy'n cael neu sydd wedi cael gwasanaethau gan ddarparwr gofal sylfaenol, a'r Bwrdd Iechyd Lleol wedi penderfynu y byddai'n fwy priodol i'r pryder gael ei drin gan y darparwr gofal sylfaenol sy'n destun y pryder, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol hysbysu'r person a hysbysodd y pryder o'i hawl i hysbysu pryder ynghylch penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
(7) Rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â hysbysu'r darparwr gofal sylfaenol ei fod yn ymchwilio i bryder yn unol â'r Rheoliadau hyn pan fo rheoliad 19(4) yn gymwys.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: