Search Legislation

Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cyrsiau a Phersonau Cymhwysol) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon—

  • ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw—

    (a)

    mewn perthynas â gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol ffin yr AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE yw—

    (i)

    priod neu bartner sifil y person hwnnw;

    (ii)

    disgynyddion uniongyrchol y person neu briod neu bartner sifil y person—

    (aa)

    sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

    (bb)

    sy'n ddibynyddion y person neu briod neu bartner sifil y person; neu

    (iii)

    perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;

    (b)

    mewn perthynas â pherson cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

    (i)

    priod neu bartner sifil y person; neu

    (ii)

    plentyn y person neu blentyn i briod neu bartner sifil y person;

    (c)

    o ran gwladolyn o'r UE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—

    (i)

    priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

    (ii)

    disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn—

    (aa)

    sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

    (bb)

    sy'n ddibynyddion y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn;

    (ch)

    mewn perthynas â gwladolyn o'r UE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—

    (i)

    priod neu bartner sifil y gwladolyn;

    (ii)

    disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn—

    (aa)

    sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

    (bb)

    sy'n ddibynyddion y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

    (iii)

    perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y gwladolyn neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y gwladolyn;

    (d)

    o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—

    (i)

    priod neu bartner sifil y gwladolyn; neu

    (ii)

    disgynyddion uniongyrchol y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn—

    (aa)

    sydd o dan 21 mlwydd oed; neu

    (bb)

    sy'n ddibynyddion y gwladolyn neu briod neu bartner sifil y gwladolyn;

  • ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;

  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw'r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud a phreswylio'n rhydd yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau(1);

  • ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth lawnamser neu ran-amser;

  • ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill barti, a Chydffederasiwn y Swistir, o'r llall, ar Rydd Symudiad Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(2) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

  • ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi yn ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(3) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(4);

  • ystyr “gweithiwr” (“worker”) yw gweithiwr o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu ystyr Cytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

  • ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—

    (a)

    sy'n weithiwr yn y Deyrnas Unedig; a

    (b)

    sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, heblaw gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd—

    (a)

    sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig; a

    (b)

    sydd, neu sydd wedi bod mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gwladolyn o'r UE” (“EU national”) yw gwladolyn o Aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd;

  • ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

  • ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

    (a)

    sy'n berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

    (b)

    sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd yn berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

    (a)

    o ran gwladolyn AEE, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu ystyr Cytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

    (b)

    o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Atodlen 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd—

    (a)

    sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

    (b)

    sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE—

    (a)

    sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig; a

    (b)

    sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE(5) ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno bob dydd neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, heblaw person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n weithiwr hunangyflogedig, ac eithrio gweithiwr hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person” (“P”)—

    (a)

    a gafodd ei hysbysu gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu i P ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur;

    (b)

    a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

    (c)

    nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben neu fod y cyfnod wedi cael ei adnewyddu ac nad yw'r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu o ran y caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros bod apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(6); ac

    (ch)

    sydd wedi bob yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers pan gafodd P ganiatâd i ddod i mewn neu i aros;

  • ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Aruba; Bermuda; Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalallit Nunaat (Greenland); Montserrat; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius a Sint Maarten); Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha); St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Ynysoedd Turks a Caicos a Wallis a Futuna;

  • mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(7);

  • ystyr “yr Undeb Ewropeaidd” (“European Union”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o bryd i'w gilydd; ac

  • ystyr “yr Ynysoedd” (“the Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson a chanddo ofal am blentyn a rhaid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.

(3At ddibenion yr Atodlen hon, mae person (“P” yn y diffiniad hwn) i gael ei drin fel petai'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor pe byddai P wedi bod yn preswylio felly oni bai—

(a)bod P;

(b)bod priod neu bartner sifil P;

(c)bod rhiant P; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinell esgynnol, bod plentyn P neu briod neu bartner sifil plentyn P,

mewn cyflogaeth dros dro neu wedi bod mewn cyflogaeth dros dro y tu allan i'r ardal o dan sylw.

(4At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir; ac

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

(5At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd neu o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym neu wedi hynny wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn neu o'r ddwy ohonynt,

i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

(6At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, am ei fod wedi symud o un o'r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—

(a)y cwrs presennol; neu

(b)a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y person ag ef yn syth cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,

i'w ystyried yn berson sy'n preswylio fel arfer yn y lle y mae'r person wedi symud ohono.

(1)

OJ L158, 30.04.2004, tt.77-123.

(2)

Cm. 4904 ac OJ Rhif L114, 30.04.02, t.6.

(3)

Cmnd. 9171.

(4)

Cmnd. 3906, (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(5)

Diffinir “EEA State” yn Neddf Dehongli 1978 (p.30).

(6)

2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc) 2004 (p.19), Atodlenni 2 a 4; gan Ddeddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), a chan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlys Lloches a Mewnfudo 2010 (O.S. 2010/21), Atodlen 1.

(7)

1971 p.77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources