- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed
15 Chwefror 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
18 Chwefror 2011
Yn dod i rym
1 Ebrill 2011
Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2).
Mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu Dyfed Powys yn unol â gofynion paragraffau 8(3) o Atodlen 8 a 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn.
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Sir Powys) 2011 a daw i rym ar 1 Ebrill 2011.
2. Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a)ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b)ardal gorfodi arbennig.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
15 Chwefror 2011
Erthygl 2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o Sir Powys ac eithrio'r darn o ffordd sydd wedi ei adeiladu o fewn Ardal Hyfforddi Pontsenni, Pontsenni yn Sir Powys sy'n rhedeg o gyffordd ffyrdd C45 ac L167 wrth bwynt tua 0.6 cilometr i'r dwyrain o Dirabad ac yn croesi Mynydd Bwlch-y-Groes mewn cyfeiriad de-orllewinol cyffredinol hyd at ei chyffordd â'r ffordd ddosbarth C49 wrth Church Hill wrth bwynt tua 1.85 cilometr i'r gogledd-orllewin o Lywel, pellter o tua 11.7 o gilometrau i gyd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Sir Powys i orfodi'r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, yn hytrach na gorfodi'r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun cyfraith trosedd.
Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac yn unol â hynny Gweinidogion Cymru yw'r 'appropriate national authority' o ran Cymru o dan adran 92(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: