- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Os oes Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd(1) i glaf perthnasol a bod awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth o'r fath, yna mae darpariaethau'r rheoliad hwn yn gymwys.
(2) Y Bwrdd Iechyd Lleol yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol oni bai bod paragraffau (3) neu (4) yn gymwys.
(3) Awdurdod lleol yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol os yw'r claf hwnnw'n destun—
(a)cais am warcheidiaeth a wnaed o dan adran 7 o Ddeddf 1983; neu
(b)gorchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 o Ddeddf 1983.
(4) Awdurdod lleol yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol os yw'r claf hwnnw o dan ddeunaw oed a hefyd—
(a)yn derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22(1) (dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol o ran plant sy'n derbyn gofal ganddynt) o Ddeddf 1989;
(b)yn blentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A (yr awdurdod cyfrifol a phlant perthnasol) o Ddeddf 1989;
(c)yn gymwys i gael cyngor a chymorth o dan adran 24(1A) (personau sy'n gymwys i gael cyngor neu gymorth) neu adran 24(1B) o Ddeddf 1989; neu
(ch)yn cael ei dderbyn i ysgol yn unol â datganiad o anghenion addysgol arbennig a wneir o dan adran 324 (datganiad o anghenion addysgol arbennig) o Deddf Addysg 1996(2) sy'n enwi'r ysgol.
Gweler adran 49 o'r Mesur (ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) i gael y diffiniad o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: