Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rhan 1 —Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 6 Mehefin 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol cyfrifol” yr ystyr a roddir i “responsible Local Social Services Authority” gan adran 34(3) o Ddeddf 1983;

mae i “awdurdod rheoli” o ran un o ysbytai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yr ystyr a roddir i “managing authority” gan baragraff 176 (ysbytai a'u hawdurdodau rheoli) o Atodlen A1 (preswylwyr ysbytai a chartrefi gofal: eu hamddifadu o'u rhyddid) i Ddeddf 2005, o ran ysbyty annibynnol mae iddo'r ystyr a roddir gan baragraff 177(b) (ysbytai a'u hawdurdodau rheoli) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, ac o ran cartref gofal mae iddo'r ystyr a roddir gan baragraff 179(b) (cartrefi gofal a'u hawdurdodau rheoli) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005;

mae i “clinigydd cyfrifol” yr ystyr a roddir i “responsible clinician” yn adran 34(1) (dehongli Rhan II) o Ddeddf 1983;

dynodir “corff goruchwylio” (“supervisory body”) o ran ysbyty gan baragraff 181 (cyrff goruchwylio: ysbytai) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, ac o ran cartref gofal gan baragraff 182 (cyrff goruchwylio: cartrefi gofal) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005;

ystyr “cyfnod rhyddhau perthnasol” (“relevant discharge period”) yw'r cyfnod y caniateir i oedolyn wneud cais ynddo am i asesiad iechyd meddwl gael ei gynnal yn sgil ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd(1);

mae i “cyfrifioldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 (ystyr “cyfrifoldeb rhiant”) o Ddeddf 1989;

ystyr “cynllun gofal a thriniaeth” (“care and treatment plan”) yw cynllun a baratoir er mwyn sicrhau'r canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i glaf perthnasol(2) eu sicrhau, fel y darperir yn adran 18(1)(b) (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) o'r Mesur;

ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol” (“relevant mental health service provider”) yw'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd a ddynodir yn ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol yn unol ag adran 15 (dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol) o'r Mesur neu reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983(3);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(4);

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005(5);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(6);

ystyr “gofalwr” (“carer”), o ran claf perthnasol, yw unigolyn sy'n darparu neu sy'n bwriadu darparu swm sylweddol o ofal yn rheolaidd i'r claf hwnnw, ond nid yw'n cynnwys unigolyn sy'n darparu, neu sy'n bwriadu darparu, gofal i'r claf hwnnw yn rhinwedd contract cyflogaeth neu gontract arall gydag unrhyw berson neu fel gwirfoddolwr i gorff (corfforedig ynteu anghorfforedig);

ystyr “gofalwr lleoliad oedolyn” (“adult placement carer”) yw person y darperir neu y caniateir darparu llety a gofal personol i oedolyn yn ei gartref o dan gytundeb lleoliad oedolyn a wnaed neu y bwriedir ei wneud gan y gofalwr;

ystyr “gwarcheidwad” (“guardian”) yw'r person a enwyd yn warcheidwad mewn cais am warcheidiaeth a wnaed o dan adran 7 (cais am warcheidiaeth) o Ddeddf 1983 neu mewn gorchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 (pwerau llysoedd i orchymyn derbyn i'r ysbyty neu i orchymyn gwarcheidiaeth) o Ddeddf 1983;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010(7);

ystyr “wedi'i gyflogi” (“employed”) yw wedi'i gyflogi o dan gontract gwasanaeth neu wedi'i gymryd ymlaen o dan gontract ynglŷn â gwasanaethau; ac

ystyr “ymarferydd meddygol claf perthnasol” (“relevant patient’s medical practitioner”), o ran claf perthnasol, yw'r ymarferydd meddygol cofrestredig y mae'r claf wedi'i gofrestru gydag ef ac unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig nad yw claf wedi'i gofrestru gydag ef ond y mae'r claf hwnnw wedi'i atgyfeirio ato i gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol o dan Ran 1 (gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol) o'r Mesur.

(1)

Gweler rheoliad 3 (cyfnod rhyddhau perthnasol) o Reoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2500 (Cy.272)).

(2)

Gweler adran 12 (ystyr “claf perthnasol”) o'r Mesur i gael y diffinaid o glaf perthnasol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources