Search Legislation

Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2011

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 4Symudiadau

Symud moch, ac eithrio symudiadau i farchnadoedd neu ganolfannau casglu

12.—(1Yn ddarostyngedig i erthyglau 13, 14, 15 ac 16(2) rhaid i geidwaid, ac eithrio marchnadoedd, hysbysu BPEX ynghylch pob symudiad moch o'u daliadau, cyn bo'r symudiadau hynny'n digwydd.

(2Caiff ceidwaid hysbysu BPEX yn electronig drwy gofnodi'r wybodaeth ganlynol yn system gofnodi symudiadau BPEX—

(a)cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH, y daliad y symudir y mochyn ohono a'r daliad y'i symudir iddo;

(b)dyddiad y symudiad;

(c)nifer y moch a symudir;

(ch)marc adnabod pob mochyn a symudir, ac yn achos symudiad a bennir yn erthygl 9 neu 10 rhaid i'r marc adnabod hwnnw gynnwys y rhif adnabod unigol unigryw sy'n ofynnol gan yr erthyglau hynny.

(3Os nad yw ceidwad yn hysbysu BPEX yn electronig, rhaid iddo ddarparu'r wybodaeth a restrir ym mharagraff (2) i MLCSL dros y teleffon neu mewn ysgrifen, ac ni chaiff symud y moch hynny cyn cael dogfen oddi wrth MLCSL sy'n cofnodi'r wybodaeth honno.

(4Pan fo MLCSL yn cael hysbysiad o wybodaeth symudiad o dan baragraff (3), rhaid i MLCSL, o fewn un diwrnod gwaith ac eithrio penwythnosau ar ôl cael yr hysbysiad, anfon at y ceidwad nifer digonol o gopïau o ddogfen sy'n cofnodi'r wybodaeth honno, er mwyn galluogi'r ceidwad ac unrhyw gludydd a'r ceidwad yn naliad y gyrchfan i gyflawni eu rhwymedigaethau cofnodi.

(5Pan symudir moch o farchnad, rhaid i'r farchnad hysbysu BPEX o'r wybodaeth ym mharagraff (2) mewn perthynas â'r moch hynny, yn electronig ar y diwrnod y'u symudir.

(6Yn yr erthygl hon, ystyr “system gofnodi symudiadau BPEX” (“BPEX movement recording system”) yw'r system gofnodi symudiadau electronig a gynhelir gan BPEX at ddiben hysbysiadau o dan y Gorchymyn hwn, ac ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn neu'n ddydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1).

Darpariaethau trosiannol

13.—(1Tan 1 Ionawr 2012, os na all y farchnad hysbysu BPEX yn electronig yn unol ag erthygl 12(5), rhaid iddi ddarparu'r wybodaeth a restrir yn erthygl 12(2) i MLCSL dros y teleffon neu mewn ysgrifen ar ddiwrnod y gwerthiant

(2Tan 1 Ebrill 2012 caiff ceidwad, ac eithrio marchnad, sy'n anfon moch i ddaliad arall, yn hytrach na hysbysu ynghylch y symudiad o dan erthygl 12, lenwi a llofnodi dogfen sy'n pennu—

(a)cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH, y daliad y symudir y mochyn ohono a'r daliad y'i symudir iddo;

(b)dyddiad y symudiad;

(c)nifer y moch a gynhwysir yn y ddogfen;

(ch)marc adnabod pob mochyn a symudir, ac yn achos symudiad a bennir yn erthygl 9 neu 10 rhaid i'r marc adnabod hwnnw gynnwys y rhif adnabod unigol unigryw sy'n ofynnol gan yr erthyglau hynny.

(3Rhaid i'r ceidwad roi copi o'r ddogfen hon i'r person sy'n cludo'r moch.

(4Rhaid i'r cludydd roi copi o'r ddogfen hon i'r ceidwad sy'n derbyn y moch.

(5Rhaid i'r ceidwad y rhoddir copi iddo o'r ddogfen hon wrth iddo dderbyn y moch anfon y ddogfen at MLCSL o fewn 3 diwrnod.

Symud moch i farchnadoedd neu ganolfannau casglu

14.—(1Nid oes raid i geidwad sy'n symud moch i farchnad roi hysbysiad ymlaen llaw ynglŷn â'r symudiad os yw'r farchnad yn hysbysu BPEX o'r wybodaeth a restrir yn erthygl 12(2), yn electronig ar y diwrnod y mae'r moch yn cyrraedd y farchnad.

(2Nid oes raid i geidwad sy'n symud moch i ganolfan gasglu roi hysbysiad ymlaen llaw ynglŷn â'r symudiad os yw'r ganolfan gasglu wedi cytuno gyda'r ceidwad i hysbysu BPEX o'r wybodaeth a restrir yn erthygl 12(2), yn electronig ar y diwrnod y mae'r moch yn cyrraedd y ganolfan gasglu.

Symud moch i bractisiau milfeddygol ar gyfer triniaeth frys

15.  Nid oes raid i geidwad sy'n symud mochyn i bractis milfeddygol ar gyfer triniaeth frys roi hysbysiad ynglŷn â'r symudiad.

Symud moch o sioeau

16.—(1Pan fo ceidwad yn bwriadu symud mochyn o'i ddaliad i sioe, ac yntau'n gwybod i ba ddaliad y mae'n bwriadu symud y mochyn ar ôl y sioe, rhaid iddo roi hysbysiad yn unol ag erthygl 12, o'r symudiad i'r sioe yn ogystal â'r symudiad oddi yno, cyn symud y mochyn i'r sioe.

(2Pan fo ceidwad yn symud mochyn i sioe, ac yntau ddim yn gwybod i ba ddaliad y bwriada symud y mochyn ar ôl y sioe, rhaid iddo ddarparu i BPEX mewn perthynas â'r symudiad o'r sioe, yr wybodaeth yn erthygl 12(2), neu adrodd hynny wrth MLCSL, o fewn 3 diwrnod ar ôl y symudiad o'r sioe.

Cludo moch

17.—(1Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo moch gario dogfen sy'n pennu—

(a)cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH, y daliad y symudir y mochyn ohono a'r daliad y'i symudir iddo;

(b)dyddiad y symudiad;

(c)nifer y moch a gynhwysir yn y ddogfen;

(ch)marc adnabod pob mochyn a symudir, ac yn achos symudiad a bennir yn erthygl 9 neu 10 rhaid i'r marc adnabod hwnnw gynnwys y rhif adnabod unigol unigryw sy'n ofynnol gan yr erthyglau hynny; a

(d)yn achos symudiad o farchnad, rhifau lot y moch a symudir,

ac os nad adroddir am y symudiad yn electronig, llofnodir y ddogfen honno gan y ceidwad.

(2Rhaid i'r cludydd roi dau gopi o'r ddogfen i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan os na all y ceidwad newydd hwnnw hysbysu BPEX, yn electronig, bod y ceidwad newydd wedi cael yr anifeiliaid hynny.

Dyfodiad moch i ddaliad

18.—(1Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan gadw'r ddogfen y cyfeirir ati yn erthygl 17(1) am 6 mis o leiaf, oni fydd y ceidwad yn rhoi hysbysiad o'r symudiad o dan baragraff (2)(a).

(2Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan, o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r moch gyrraedd, naill ai—

(a)cofnodi ar system gofnodi symudiadau BPEX y nifer o foch sy'n cyrraedd yn ei ddaliad; neu

(b)cyflwyno'r un wybodaeth i MLCSL dros y teleffon, drwy ffacs neu mewn ysgrifen.

Allforio moch

19.  Yn achos mochyn a symudir o ddaliad i borthladd ac y bwriedir ei gludo allan o Brydain Fawr, rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw adrodd am y symudiad drwy BPEX neu anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati yn erthygl 17 at MLCSL o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail adael y daliad.

Trwyddedau cerdded ar gyfer moch anwes

20.  Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded gerdded i geidwad mochyn anwes i ganiatáu iddo fynd â'r mochyn am dro oddi ar y daliad heb gydymffurfio ag erthygl 5 neu 12, ond rhaid i'r person sy'n mynd â'r mochyn am dro gario copi o'r drwydded tra bydd allan am dro gyda'r mochyn.

Daliadau cymeradwy

21.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo daliad at ddibenion symud moch a fwriedir ar gyfer bridio neu besgi.

(2Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu pa ddaliadau y caniateir symud moch ohonynt a pha ddaliadau y caniateir eu symud iddynt.

(3Nid yw symud moch rhwng daliadau sydd wedi eu cymeradwyo o dan yr erthygl hon yn sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003.

(1)

1971 p.80, y gwnaed diwygiadau iddi, nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources