- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
16.—(1) Rhaid i awdurdod, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, gyhoeddi adroddiad heb fod yn hwyrach na'r dyddiad perthnasol yn y flwyddyn yn dilyn y flwyddyn y mae'r cyfnod adrodd hwnnw'n diweddu ynddi.
(2) Rhaid i'r adroddiad nodi—
(a)y camau y mae'r awdurdod wedi eu cymryd i nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol;
(b)mewn cysylltiad â gwybodaeth berthnasol y mae'n ei dal, sut y mae'r awdurdod wedi defnyddio'r wybodaeth honno er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn;
(c)rhesymau'r awdurdod dros beidio â chasglu unrhyw wybodaeth berthnasol y mae wedi ei nodi ond nad yw'n ei dal;
(ch)y cynnydd y mae'r awdurdod wedi ei wneud er mwyn cyflawni pob un o'i amcanion cydraddoldeb.
(d)datganiad gan yr awdurdod ar effeithiolrwydd y canlynol—
(i)ei drefniadau er gyfer nodi a chasglu gwybodaeth berthnasol; a
(ii)y camau y mae wedi eu cymryd er mwyn cyflawni pob un o'i amcanion cydraddoldeb; ac
(dd)yr wybodaeth y mae'n ofynnol i'r awdurdod ei chyhoeddi o dan reoliad 9(4) oni bai bod yr awdurdod eisoes wedi cyhoeddi'r wybodaeth honno.
(3) Caiff yr awdurdod, os yw'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny, gynnwys mewn adroddiad unrhyw fater arall sy'n berthnasol ar gyfer cydymffurfiaeth yr awdurdod â'r ddyletswydd gyffredinol a'r dyletswyddau yn y Rheoliadau hyn.
(4) Caiff yr awdurdod gydymffurfio â'r ddyletswydd i gyhoeddi adroddiad o dan baragraff (1) drwy osod ei adroddiad (gan gynnwys unrhyw fater y cyfeirir ato ym mharagraff (3)) fel rhan o ddogfen gyhoeddedig arall neu o fewn nifer o ddogfennau cyhoeddedig eraill.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: