- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
37.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), gweithredir swyddogaeth y Tribiwnlys Prisio o wrando neu benderfynu apêl gan banel o dri aelod o'r Tribiwnlys Prisio (“Panel Apêl”), y bydd yn rhaid iddo gynnwys o leiaf un Cadeirydd; a Chadeirydd fydd yn llywyddu.
(2) Pan fo pob parti sy'n ymddangos mewn apêl yn cytuno felly, ceir penderfynu'r apêl gan ddau aelod o'r Tribiwnlys Prisio, ac er gwaethaf absenoldeb Cadeirydd.
(3) Rhaid cynnal y gwrandawiad yn gyhoeddus, oni fydd y Panel Apêl yn gorchymyn fel arall ar gais un o'r partïon, wedi i'r Panel gael ei fodloni y byddai gwrandawiad cyhoeddus yn cael effaith niweidiol ar fuddiannau'r parti hwnnw.
(4) Os metha'r apelydd ag ymddangos yn y gwrandawiad, caiff y Panel Apêl wrthod yr apêl, ac os metha unrhyw barti arall ag ymddangos, caiff y Panel Apêl wrando a phenderfynu'r apêl yn absenoldeb y parti hwnnw.
(5) Caiff y Panel Apêl wneud yn ofynnol bod unrhyw dyst yn rhoi tystiolaeth ar lw neu gadarnhad, a bydd pŵer gan y Panel Apêl, at y diben hwnnw, i weinyddu llw neu gadarnhad yn y ffurf briodol.
(6) Caiff partïon yn y gwrandawiad eu clywed ym mha drefn bynnag a benderfynir gan y Panel Apêl, a chânt holi unrhyw dystion gerbron y Panel Apêl, a galw tystion.
(7) Caniateir gohirio gwrandawiad am ba gyfnod bynnag o amser, i ba le bynnag ac ar ba delerau bynnag (os bydd telerau) a ystyrir yn briodol gan y Panel Apêl; a rhaid rhoi cyfnod rhesymol o rybudd i bob un o'r partïon, o amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig.
(8) Os ystyria hynny'n briodol, caiff Panel Apêl, ar ôl hysbysu'r partïon a'u gwahodd i fod yn bresennol, archwilio unrhyw annedd sy'n destun apêl.
(9) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau yn y Rhan hon—
(a)rhaid i'r Panel Apêl gynnal y gwrandawiad yn y modd yr ystyria'n fwyaf priodol o ran egluro'r materion ger ei fron ac yn gyffredinol i ymdrin yn gyfiawn â'r achos;
(b)rhaid i'r Panel Apêl, cyn belled ag yr ymddengys yn briodol iddo, geisio osgoi ffurfioldeb yn ei drafodion; ac
(c)ni chaiff y Panel Apêl ei rwymo gan unrhyw ddeddfiad neu reol cyfraith sy'n ymwneud â derbynioldeb tystiolaeth gerbron llysoedd barn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: