- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) (Diwygio) 2010.
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Mawrth 2010.
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys pan fo, yn rhinwedd cytundeb yr ymrwymwyd ynddo eisoes, ac sy'n parhau mewn grym hyd at neu ar ôl y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn, rhwng corff llywodraeth leol a'r canlynol—
(a)cyflogai hŷn; neu
(b)swyddog heddlu perthnasol,
mae dyletswydd o gyfrinachedd yn ddyledus gan y corff o ran y tâl a delir i'r cyflogai hŷn neu'r swyddog heddlu perthnasol neu'r tâl a dderbynnir ganddynt.
(3) Pan fo'r paragraff hwn yn gymwys, nid yw'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 6 a 7 o'r Rheoliadau hyn i reoliad 7 o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005(1) (“Rheoliadau 2005”) yn dod i rym tan 1 Ebrill 2010, i'r graddau y byddai'r diwygiadau hynny yn ei gwneud yn ofynnol i dorri dyletswydd cyfrinachedd sy'n ddyledus gan y corff llywodraeth leol, o dan y cytundeb yn rhinwedd yr hwn y mae'r paragraff hwn yn gymwys, mewn perthynas â thâl sydd i'w gynnwys yng nghyfrifon y corff llywodraeth leol.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a)mae i “corff llywodraeth leol” yr un ystyr ag a roddir iddo yn Rheoliadau 2005; a
(b)mae i “cyflogai hŷn”, “swyddog heddlu perthnasol” a “tâl” yr ystyr a roddir i'r ymadroddion hynny gan reoliad 7A(4) a fewnosodir yn Rheoliadau 2005 gan reoliad 7 o'r Rheoliadau hyn.
3. Diwygir Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 yn unol â rheoliadau 4 i 18.
4.—(1) Yn rheoliad 2(1) (dehongli a chymhwyso), mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y mannau priodol—
“ystyr “cyd-bwyllgor” (“joint committee”) yw cyd-bwyllgor o ddau neu fwy o awdurdodau lleol;”, ac
“ystyr “is-gydbwyllgor” (“minor joint committee”) yw cyd-bwyllgor y mae ei incwm neu wariant gros (p'un bynnag yw'r uchaf) ar gyfer y flwyddyn ac ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny yn llai na £1,000,000;”.
(2) Ar ôl rheoliad 2(2), mewnosoder—
“(2A) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at arfer priodol(2) o ran bwrdd draenio mewnol, yn golygu'r arferion cyfrifyddu a geir yn “Governance and Accountability in Internal Drainage Boards in England: A Practitioners Guide 2006” (fel y'i diwygiwyd yn Nhachwedd 2007) a ddyroddwyd ar y cyd gan Gymdeithas yr Awdurdodau Draenio ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (ac mae'r cyfryw ddogfen, drwy'r Rheoliadau hyn, i'w chymhwyso i fwrdd draenio mewnol yng Nghymru fel y mae'n gymwys i fwrdd draenio mewnol yn Lloegr).”.
5. Yn rheoliad 5(3)(c) (cofnodion cyfrifyddu a systemau rheoli), yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru” ac yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
6. Yn lle rheoliad 7 rhodder—
“7.—(1) Rhaid i gorff y mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys iddo baratoi yn unol ag arferion priodol o ran cyfrifon ddatganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn, gyda rhagair esboniadol, y mae'n rhaid iddo gynnwys y datganiadau cyfrifyddu canlynol hynny sy'n berthnasol i swyddogaethau'r corff—
(a)cyfrif refeniw tai;
(b)cronfa bensiwn diffoddwyr tân, os oes un;
(c)unrhyw ddatganiadau eraill sy'n ymwneud â phob cronfa arall y mae'n ofynnol i'r corff o dan unrhyw ddarpariaeth statudol gadw cyfrif ar wahân ynglŷn â hi.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r cyrff canlynol—
(a)cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
(b)cyd-awdurdod;
(c)pwyllgor awdurdod lleol (gan gynnwys cyd-bwyllgor nad yw'n is-gydbwyllgor);
(ch)awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol;
(d)awdurdod heddlu ar gyfer ardal heddlu;
(dd)awdurdod tân ac achub.
(3) O ran cyngor cymuned, os yw'r incwm neu'r gwariant gros (p'un bynnag yw'r uchaf) ar gyfer y flwyddyn yn £1,000,000 neu fwy, ac os oedd felly ar gyfer pob un o'r ddwy flynedd yn union cyn hynny, bydd gofynion paragraff (1) uchod a rheoliad 7A yn gymwys i'r cyngor hwnnw mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw.
(4) Os yw'n ofynnol i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol gan adran 74 o Ddeddf 1989 gynnal Cyfrif Refeniw Tai, rhaid i'r datganiad o gyfrifon sy'n ofynnol gan baragraff (1) gynnwys nodyn a baratowyd yn unol ag arferion priodol mewn perthynas ag unrhyw Lwfans Atgyweiriadau Mawr a dalwyd i'r cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol o dan adran 31 o Ddeddf 2003 yn rhoi manylion incwm a gwariant ac unrhyw falans ar unrhyw gyfrif a ddefnyddiwyd i gofnodi'r grant.”.
7. Ar ôl rheoliad 7, mewnosoder—
7A.—(1) Rhaid bod nodyn yn mynd gyda'r datganiad o gyfrifon sy'n ofynnol gan reoliad 7(1) sy'n nodi—
(a)ac eithrio mewn perthynas â phersonau y mae paragraff (b) yn gymwys iddynt, nifer y cyflogeion neu swyddogion heddlu yn y flwyddyn y mae'r cyfrifon yn ymwneud â hi yr oedd eu tâl yn dod o fewn pob un o'r bachau graddfa mewn lluosrifau o £5,000 gan ddechrau gyda £60,000;
(b)y tâl, a osodir yn unol â'r categorïau a restrir ym mharagraff (3), gan gorff llywodraeth leol yn ystod y flwyddyn ariannol berthnasol ar gyfer—
(i)cyflogeion hŷn, neu
(ii)swyddogion heddlu perthnasol,
o ran eu cyflogaeth gan y corff llywodraeth leol neu yn rhinwedd eu swydd fel swyddog heddlu, p'un ai ar sail barhaol neu dros dro.
(2) Rhaid dynodi pwy yw'r personau y mae eu tâl i gael ei nodi o dan baragraff (1)(b) drwy enw'r swydd yn unig, ac eithrio bod yn rhaid dynodi'r personau hynny y mae eu cyflog yn £150,000 y flwyddyn neu fwy wrth eu henw.
(3) Y categorïau yw:
(a)cyfanswm y cyflog, ffioedd neu lwfansau a delir i'r person neu a dderbynnir ganddo;
(b)cyfanswm y bonysau a delir i'r person neu a dderbynnir ganddo;
(c)cyfanswm y symiau a delir fel lwfans treuliau y mae modd codi treth incwm arnynt yn y Deyrnas Unedig ac a dalwyd i'r person neu y gallai'r person eu derbyn;
(ch)cyfanswm unrhyw iawndal am golli cyflogaeth a dalwyd i'r person neu y gallai'r person ei dderbyn, ac unrhyw daliadau eraill a dalwyd i'r person neu y gallai'r person eu derbyn mewn cysylltiad â therfynu ei gyflogaeth gan y corff llywodraeth leol, neu, yn achos swyddog heddlu perthnasol, cyfanswm unrhyw daliad a wnaed i swyddog heddlu perthnasol sy'n peidio â dal swydd cyn diwedd penodiad am dymor penodol;
(d)cyfraniad y corff perthnasol at bensiwn y person;
(dd)cyfanswm gwerth unrhyw fuddiannau yr amcangyfrifir bod y person wedi ei dderbyn ac eithrio mewn arian nad yw'n dod o fewn (a) i (ch) uchod, yw enillion y person, ac a dderbynnir gan y person o ran ei gyflogaeth gan y corff llywodraeth leol neu yn rhinwedd ei swydd fel swyddog heddlu; ac
(e)o ran swyddogion heddlu perthnasol, unrhyw daliadau, p'un a chawsant eu gwneud o dan Reoliadau'r Heddlu 2003(3) neu fel arall, nad ydynt yn dod o fewn (a) i (dd) uchod.
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfraniad at bensiwn y person” yw swm sydd i'w gyfrifo fel a ganlyn—
o ran cyfraniadau i gynllun pensiwn llywodraeth leol a sefydlwyd o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972(4), cyfanswm—
graddfa gyffredin cyfraniad cyflogwr wedi'i phennu mewn tystysgrif graddfeydd ac addasiadau a baratowyd o dan reoliad 36 (prisiadau actiwaraidd a thystysgrifau) o Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Gweinyddu) 2008(5), sef y swm sy'n briodol i'r corff hwnnw wedi'i gyfrifo yn unol â'r dystysgrif a rheoliad 39(4) (cyfraniadau cyflogwr) o'r Rheoliadau hynny, wedi'i luosi â chyflog pensiynadwy'r person; a
os yw'n gymwys, y swm priodol o fewn ystyr rheoliad 40(6) (taliad cyflogwr yn dilyn penderfyniad i gynyddu aelodaeth neu ddyfarnu pensiwn ychwanegol) o'r Rheoliadau hynny;
o ran cyfraniadau i gynllun pensiwn y diffoddwyr tân a sefydlwyd o dan y Deddfau Gwasanaethau Tân 1947 a 1959(7), canran cyfanswm y cyflog pensiynadwy wedi'i gyfrifo at ddibenion paragraff G2(3) a (4) o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992(8), wedi'i luosi â chyflog pensiynadwy'r person;
o ran cyfraniadau i gynllun pensiwn y diffoddwyr tân a sefydlwyd o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(9), canran cyfanswm y cyflog pensiynadwy wedi'i gyfrifo at ddibenion paragraffau (2) a (3) o Reol 2 o Ran 13 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(10), wedi'i luosi â chyflog pensiynadwy'r person;
o ran cyfraniadau i gynlluniau pensiwn yr heddlu a sefydlwyd o dan Reoliadau Pensiynau'r Heddlu 1987(11) neu Reoliadau Pensiynau'r Heddlu 2006(12), canran o'r cyflog pensiynadwy a bennwyd yn rheoliad 5(1) o Reoliadau Cronfa Bensiwn yr Heddlu 2007(13), wedi'i luosi â chyflog pensiynadwy'r person;
mae “cyflogai” yn cynnwys deiliad swydd o dan y corff llywodraeth leol, ond nid yw'n cynnwys person sy'n gynghorydd etholedig, ac mae “cyflogaeth” i'w ddehongli yn unol â hynny;
ystyr “swyddog heddlu perthnasol” yw—
o ran heddlu a gynhelir o dan adran 2 o Ddeddf yr Heddlu 1996(14), y prif gwnstabl, a
unrhyw swyddog heddlu hŷn arall y mae ei gyflog yn £150,000 y flwyddyn neu'n fwy;
ystyr “tâl” yw pob swm a dalwyd i berson neu a dderbyniwyd ganddo, ac mae'n cynnwys symiau sy'n ddyledus fel lwfansau treuliau (i'r graddau y mae modd codi treth incwm ar y symiau hynny yn y Deyrnas Unedig), ac amcangyfrif o werth ariannol unrhyw fuddiannau eraill a gafodd cyflogai heblaw mewn arian;
ystyr “cyflogai hŷn” yw cyflogai y mae ei gyflog yn £150,000 neu fwy y flwyddyn, neu gyflogai y mae ei gyflog yn £60,000 neu fwy y flwyddyn (i'w gyfrifo pro rata am bob cyflogai a gyflogir am lai o oriau nag oriau llawnamser arferol y corff llywodraeth leol o dan sylw) sy'n dod o fewn o leiaf un o'r categorïau canlynol–
person a gyflogir gan gorff llywodraeth leol y mae adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(15) yn gymwys iddo ac–
wedi'i ddynodi'n bennaeth gwasanaeth cyflogedig o dan adran 4 o'r Ddeddf honno;
mae'n brif swyddog statudol o fewn ystyr adran 2(6)(16) o'r Ddeddf honno; neu
mae'n brif swyddog anstatudol o fewn ystyr adran 2(7) o'r Ddeddf honno;
y person sy'n bennaeth staff dros unrhyw gorff llywodraeth leol nad yw adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn gymwys iddo; neu
person a chanddo gyfrifoldeb dros reoli corff llywodraeth leol i'r graddau bod pŵer gan y person i gyfarwyddo neu reoli prif weithgareddau'r corff (yn benodol y gweithgareddau sy'n ymwneud â gwario arian), p'un ai ar ei ben ei hun neu ynghyd â phersonau eraill; ac
ystyr “swyddog heddlu hŷn” yw aelod o'r heddlu sy'n dal rheng sy'n uwch na rheng uwcharolygydd.”.
8. Ar ôl rheoliad 7A (datganiad o dâl), mewnosoder—
7B. Rhaid i fwrdd draenio mewnol godi ar gyfrif refeniw swm sy'n hafal i daliadau buddiannau ymddeol a chyfraniadau i gronfeydd pensiwn sy'n daladwy am y flwyddyn honno ac yn unol â'r canlynol—
(a)Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Buddiannau, Aelodaeth a Chyfraniadau) 2007(17); a
(b)Rheoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal drwy Ddisgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2000(18) neu Reoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal drwy Ddisgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2006(19).”.
9.—(1) Diwygir rheoliad 8 (datganiadau cyfrifyddu eraill) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (2)—
(a)hepgorer is-baragraff (b);
(b)ar ddiwedd is-baragraff (c) mewnosoder—
“; ac
cyd-bwyllgor sydd yn is-gydbwyllgor”.
(3) Ym mharagraff (3)—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “£100,000” rhodder “£200,000”;
(b)yn is-baragraff (a), yn lle “a (2)” rhodder “a 7A”;
(c)yn is-baragraff (b), yn lle “£100,000” rhodder “£200,000”; ac
(ch)yn is-baragraff (c), yn lle “£100,000” rhodder “£200,000”;
(4) Hepgorer paragraff (4).
10. Ar ôl rheoliad 8, mewnosoder—
8A. Rhaid i gorff llywodraeth leol sicrhau bod—
(a)y datganiad o gyfrifon, neu
(b)os nad yw'n ofynnol i ddatganiad o gyfrifon gael ei baratoi, y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau, neu
(c)os nad yw'n ofynnol i gyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau gael eu paratoi, y cofnod o dderbyniadau a thaliadau'r corff,
yn cael ei baratoi yn unol â'r Rheoliadau hyn.
8B.—(1) Rhaid i swyddog ariannol cyfrifol corff llywodraeth leol—
(a)yn achos corff sydd wedi paratoi cofnod o dderbyniadau a thaliadau, lofnodi a dyddio'r cofnod hwnnw, ac ardystio ei fod yn cyflwyno'n briodol dderbyniadau a thaliadau'r corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn y mae'r cofnod yn ymwneud â hi;
(b)yn achos corff sydd wedi paratoi cyfrif incwm a gwariant a datganiad o falansau, lofnodi a dyddio'r cyfrif a'r datganiad, ac ardystio eu bod yn cyflwyno'n deg sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y maent yn ymwneud â hi ac incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno;
(c)yn achos cyngor cymuned y mae rheoliad 7(3) yn gymwys iddo, neu gyngor cymuned sydd wedi dod i benderfyniad yn unol â rheoliad 8(3)(a), lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon ac ardystio ei fod yn cyflwyno'n deg sefyllfa ariannol y cyngor ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi ac incwm a gwariant y cyngor hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno;
(ch)yn achos unrhyw gorff arall, lofnodi a dyddio'r datganiad o gyfrifon, ac ardystio ei fod yn cyflwyno golwg deg a chywir o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n ymwneud â hi ac incwm a gwariant y corff hwnnw ar gyfer y flwyddyn honno.
(2) Rhaid i'r swyddog ariannol cyfrifol gydymffurfio â pharagraff (1)—
(a)cyn y 30 Mehefin sy'n dilyn diwedd blwyddyn; a
(b)yn union cyn bod y gymeradwyaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 9(3) yn cael ei rhoi.
(3) Rhaid i'r swyddog ariannol cyfrifol hefyd gydymffurfio â pharagraff (1) yn union cyn bod unrhyw gymeradwyaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 9(4) yn cael ei rhoi.
(4) Os na fydd y swyddog ariannol cyfrifol yn cydymffurfio â pharagraff (2) neu (3), rhaid i'r corff llywodraeth leol:
(a)cyhoeddi datganiad ar unwaith yn nodi'r rhesymau am ei fethiant i gydymffurfio; a
(b)cytuno ar gwrs gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth cyn gynted ag y bo'n ymarferol.”.
11. Yn lle rheoliad 9 rhodder—
9.—(1) Yn y rheoliad hwn ystyr “cyfrifon” yw'r datganiad o gyfrifon, y cyfrif incwm a gwariant a'r datganiad o falansau, neu'r cofnod o dderbyniadau a thaliadau fel sy'n ofynnol gan reoliad 7(1) neu 8(1) neu (3).
(2) Rhaid i gorff llywodraeth leol gymeradwyo'r cyfrifon yn unol â'r rheoliad hwn.
(3) Rhaid i gymeradwyaeth yn unol â pharagraff (2) ddigwydd cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a beth bynnag cyn 30 Medi yn dilyn yn union ar ôl diwedd blwyddyn.
(4) Os cymeradwywyd y cyfrifon yn unol â pharagraff (3) cyn gorffen archwiliad o'r cyfrifon hynny, rhaid cymeradwyo'r cyfrifon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl derbyn unrhyw adroddiad oddi wrth yr archwilydd sy'n cynnwys casgliadau terfynol yr archwilydd ac a ddyroddwyd cyn gorffen yr archwiliad.
(5) Mae'r gymeradwyaeth sy'n ofynnol gan baragraff (4) yn ychwanegol at gymeradwyaeth sy'n unol â pharagraff (3).
(6) Rhaid i'r gymeradwyaeth sy'n ofynnol gan baragraffau (3) a (4) ddod drwy benderfyniad pwyllgor corff llywodraeth leol neu fel arall drwy benderfyniad y corff sy'n cyfarfod fel corff cyflawn.
(7) Ar ôl cael cymeradwyaeth yn unol â pharagraff (3) a (4), rhaid i'r cyfrifon gael eu llofnodi a'u dyddio gan y person a lywyddodd yn y pwyllgor neu'r cyfarfod y rhoddwyd y gymeradwyaeth ynddo.
(8) Pan fo unrhyw ddiwygiad sylweddol yn cael ei wneud i'r cyfrifon, rhaid i'r swyddog ariannol cyfrifol roi adroddiad o'r diwygiad hwnnw i'r corff llywodraeth leol neu i bwyllgor y corff hwnnw yn union cyn i'r corff neu'r pwyllgor gymeradwyo'r cyfrifon yn unol â rheoliad 9(3) neu (4).”.
12. Yn rheoliad 10 (cyhoeddi datganiad o gyfrifon etc)—
(a)ym mharagraff (1), hepgorer y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (3),”;
(b)ym mharagraff (2)(a) yn lle “(7)(3)” rhodder “7(2)”;
(c)ym mharagraff (2)(b), yn lle “7(4)” rhodder “7(3)”;
(ch)hepgorer paragraff (3).
13. Yn rheoliad 11(1) a (3) (cyhoeddi cyfrif incwm a gwariant a derbyniadau a thaliadau), ym mhob achos, yn lle “31 Rhagfyr” rhodder “30 Medi”.
14. Yn rheoliad 16 (hysbysiad ysgrifenedig o wrthwynebiad arfaethedig)—
(a)hepgorer “arfaethedig” o'r pennawd;
(b)ym mharagraff (1)—
(i)dileer “arfaethedig”;
(ii)yn lle “bwriadu dibynnu” rhodder “dibynnu”; ac
(c)hepgorer paragraff (2).
15. Yn rheoliad 17 (hysbysiad o orffen yr archwiliad), hepgorer paragraffau (3) a (4).
16. Yn rheoliad 19 (cyd-bwyllgorau etc)—
(a)ym mharagraff (1)(b) yn lle “rheoliad 7(3)” rhodder “rheoliad 7(2)”; a
(b)ym mharagraff (2), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Gweinidogion Cymru”.
17. Yn rheoliad 21(2) (tramgwyddau), ar ôl “7,” mewnosoder “7A,”.
18. Ar ôl rheoliad 22 mewnosoder—
23.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i'r cyrff y cyfeirir atynt yn rheoliad 8(2)(a) i (c) a (3).
(2) O ran y blynyddoedd sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2010 a 2011—
(a)rhaid darllen y cyfeiriadau at 30 Mehefin yn rheoliad 8B fel cyfeiriadau at 30 Medi; a
(b)rhaid darllen y cyfeiriadau at 30 Medi yn rheoliadau 9 a 11 fel cyfeiriadau at 31 Rhagfyr.”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2010
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: