- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gwnaed
4 Mawrth 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Mawrth 2010
Yn dod i rym
1 Ebrill 2010
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anifeiliaid (Rheolwyr Milfeddygol Rhanbarthol) (Cymru) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 1 Ebrill 2010.
2.—(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) mae'r diffiniad o “Divisional Veterinary Manager” wedi ei ddirymu.
(3) Yn rheoliadau 13(5) a (6) a 16(8), yn lle'r geiriau “appropriate Divisional Veterinary Manager”, ym mhob man y maent yn ymddangos, rhodder “Welsh Ministers”.
3. Yn rheoliad 23(1) o Reoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006(4), yn lle “a'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol o Wasanaeth Milfeddygol y Llywodraeth” rhodder “a Gweinidogion Cymru”.
4. Yn rheoliad 13 o Reoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006(5), yn lle “ar unwaith y Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol a benodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer yr ardal lle mae'r aderyn hwnnw” rhodder “Gweinidogion Cymru ar unwaith”.
5. Yn lle rheoliad 11 o Reoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006(6) rhodder–
“11. Rhaid i unrhyw berson a ŵyr neu a dybia nad yw aderyn wedi ei frechu, fel sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru, eu hysbysu ar unwaith.”
6.—(1) Mae Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Mae rheoliad 8(3) wedi ei ddirymu.
(3) Yn rheoliadau 8(1)(a) a (2) ac 11(b) yn lle “hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” rhodder “hysbysu Gweinidogion Cymru”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli cyfeiriadau at “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” â chyfeiriadau at “Gweinidogion Cymru” ac, fel y bo'n briodol, yn disodli cyfeiriadau at “Divisional Veterinary Manager” â chyfeiriadau at “Welsh Ministers” yn—
(a)Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996;
(b)Rheoliadau Clwy'r Traed a'r Genau (Rheoli Brechu) (Cymru) 2006;
(c)Rheoliadau Ffliw Adar (Mesurau Atal) (Cymru) 2006;
(ch)Rheoliadau Ffliw Adar (Brechu) (Cymru) (Rhif 2) 2006; a
(d)Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008.
Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei lunio ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithio o gwbl ar y sector preifat, y sector cyhoeddus na'r sector gwirfoddol.
O.S 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.
O.S. 1996/3124 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: