- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
10.—(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys i gaen cellwlos atgynyrchiedig—
(a)sydd ynddo'i hun yn ffurfio cynnyrch gorffenedig; neu
(b)sy'n rhan o gynnyrch gorffenedig sy'n cynnwys deunyddiau eraill,
ac y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, neu sydd, drwy gael ei ddefnyddio at y diben hwnnw, yn dod i gysylltiad â bwyd.
(2) Ac eithrio ym mharagraff (4), mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at Atodiad II yn gyfeiriad at Atodiad II i Gyfarwyddeb 2007/42/EC.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 12, ni chaiff unrhyw berson, wrth weithgynhyrchu unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig y bwriedir iddo ddod i gysylltiad â bwyd, ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grŵp o sylweddau heblaw'r sylweddau a enwir neu a ddisgrifir—
(a)yng ngholofn gyntaf (enwau) Atodiad II (rhestr o sylweddau a awdurdodwyd wrth weithgynhyrchu caen cellwlos atgynyrchiedig) yn achos—
(i)caen heb ei araenu; neu
(ii)caen wedi ei araenu os yw'r araen yn deillio o gellwlos;
(b)yng ngholofn gyntaf Rhan Gyntaf Atodiad II (caen cellwlos atgynyrchiedig heb araen) yn achos caen sydd i'w araenu, pan fydd yr araen yn cynnwys plastigion,
ac ym mhob achos, mewn unrhyw fodd nad yw'n unol â'r amodau a'r cyfyngiadau a nodir yn y cofnod cyfatebol yn ail golofn y Rhan briodol o Atodiad II, fel y'i darllenir gyda'r rhaglith i'r Atodiad hwnnw.
(4) Yn ddarostyngedig i reoliad 12, ni chaiff unrhyw berson, wrth weithgynhyrchu unrhyw araen sydd i'w rhoi ar gaen y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), ddefnyddio unrhyw sylwedd neu grŵp o sylweddau ar wahân i'r rhai a restrir yn Atodiad II, III neu IV i Gyfarwyddeb 2002/72/EC, ac ni chaiff eu defnyddio mewn unrhyw ddull nad yw'n unol â'r gofynion, y cyfyngiadau a'r manylion priodol a gynhwysir yn yr Atodiadau hynny ac yn Rheoliadau 2009.
(5) Caniateir defnyddio sylweddau heblaw'r rhai a restrir yn Atodiad II fel lliwyddion neu adlynion wrth weithgynhyrchu unrhyw gaen y mae paragraff (3)(a) yn gymwys iddo, ar yr amod bod caen o'r fath yn cael ei weithgynhyrchu yn y fath fodd ag i beidio â throsglwyddo unrhyw liwydd neu adlyn i fwyd mewn unrhyw faint canfyddadwy.
(6) Yn ddarostyngedig i reoliad 12 ni chaiff neb—
(a)gwerthu;
(b)mewnforio; na
(c)defnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd,
unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraffau (3) neu (4), neu sy'n methu â chydymffurfio â pharagraff (8).
(7) Ni chaiff neb, wrth gynnal busnes, ddefnyddio mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd—
(a)pan fo'r bwyd yn cynnwys dŵr sydd yn ffisegol rydd ar yr wyneb, unrhyw gaen cellwlos atgynyrchiedig sy'n cynnwys ether bis(2-hydrocsiethyl) neu ethanedïol; neu
(b)unrhyw gaen gellwlos atgynyrchiedig yn y fath fodd fel y bydd unrhyw wyneb printiedig o'r caen hwnnw'n dod i gysylltiad â'r bwyd.
(8) Yn ystod unrhyw gam marchnata heblaw'r cam adwerthu, rhaid i unrhyw ddeunydd neu eitem sydd wedi ei wneud o gaen cellwlos atgynyrchiedig, oni bai ei fod wedi ei fwriadu o ran natur i ddod i gysylltiad â bwyd, ddod gyda datganiad ysgrifenedig sydd yn ardystio ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys iddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: