- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2009.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi ac yn dod i ben ar y 31 Awst nesaf;
ystyr “DSFfY 1998” (“the SSFA 1998”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg a Sgiliau 2008.
2. Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym ar 31 Mawrth 2009—
(a)adran 162(1), (2), (3)(a), (3)(b) a (4) i (10).
3. Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym, yn ddarostyngedig i erthygl 4, ar 31 Mawrth 2009—
(a)adrannau 150, 152 a 153;
(b)adran 169(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 1 a bennir isod;
(c)adran 169(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 2 a bennir isod;
(ch)yn Atodlen 1, paragraffau 54, 55, 59(7), 66 a 67, ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny, paragraff 53;
(d)yn Atodlen 2, y diddymiadau i'r graddau y maent yn ymwneud ag adrannau 86 a 94 o DSFfY 1998.
4. Er bod adran 150 yn dod i rym ac er gwaethaf y diwygiadau a'r diddymiadau i adrannau 86 a 94 o DSFfY 1998 a wneir gan adrannau 152 a 169 o'r Ddeddf ac Atodlenni 1 a 2 iddi, bydd adrannau 86 a 94 yn parhau i fod yn gymwys heb y diwygiadau a'r diddymiadau hynny o ran derbyn plant i'r flwyddyn ysgol 2009-2010.
5. Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym ar 31 Hydref 2009—
(a)adran 162(3)(c).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
24 Mawrth 2009
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: