- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
13. Mae'r Rhan hon yn gymwys i bob anifail a gafodd ei adnabod o dan Ran 3.
14.—(1) Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 4(6) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor na methu â chydymffurfio â hi.
(2) Ond rhaid i geidwad amnewid modd adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy, yn unol ag erthyglau 15 neu 16 yn ôl gofynion yr achos, cyn gynted â phosibl ar ôl gweld bod y modd adnabod gwreiddiol ar goll neu'n annarllenadwy, ond beth bynnag—
(a)dim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl gweld ei fod ar goll neu'n annarllenadwy, a
(b)cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.
(3) Pan amnewidir marc adnabod â marc adnabod sy'n dwyn cod adnabod gwahanol a bod yr hen god adnabod yn hysbys rhaid i'r ceidwad groesgyfeirio'r hen god adnabod a'r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad onis yw'r anifail ar eu daliad genedigol a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009.
(4) Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir o dramgwydd o fynd yn groes i baragraffau (1) neu (2) neu o fethu â chydymffurfio â hwy brofi —
(a)bod y modd adnabod wedi'i dynnu i atal poen neu ddioddefaint diangen i anifail; a
(b)bod modd adnabod amnewid sy'n dwyn yr un cod adnabod wedi'i osod ar yr anifail cyn gynted ag y gellid.
15.—(1) Pan fo anifail a gafodd ei adnabod yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11 yn colli un modd adnabod, neu pan fo'r modd adnabod hwnnw'n annarllenadwy, mae'r modd adnabod yn cael ei amnewid yn unol â'r erthygl hon os yw'n cael ei amnewid ag un sy'n dwyn yr un Rhif 12 digid neu os tynnir y ddyfais adnabod sydd ar ôl a bod yr anifail yn cael ei ailadnabod yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11.
(2) Pan fo anifail a gafodd ei adnabod yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11 yn colli'r ddau fodd adnabod, neu pan fo'r ddau fodd adnabod yn annarllenadwy mae'n cael ei ailadnabod yn unol â'r erthygl hon os yw'n cael ei ailadnabod yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11.
16.—(1) Pan fo anifail a gafodd ei adnabod yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 12 yn colli ei dag clust neu pan fo'r tag clust hwnnw'n annarllenadwy a'i fod ar ei ddaliad genedigol mae'n cael ei ailadnabod yn unol â'r erthygl hon os caiff y tag clust ei amnewid â thag clust sy'n dwyn yr un nod diadell neu'r un nod geifre.
(2) Pan fo anifail a gafodd ei adnabod yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 12 yn colli ei dag clust neu pan fo'r tag clust hwnnw'n annarllenadwy ac nad yw ar ei ddaliad genedigol, neu os nad yw'r ceidwad yn gwybod a yw ar ei ddaliad genedigol, mae'n cael ei ailadnabod yn unol â'r erthygl hon os caiff y tag clust ei amnewid â thag clust coch sy'n dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y daliad y mae'r anifail arno bellach.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: