- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
32.—(1) Ni chaiff neb dderbyn anifail o Aelod-wladwriaeth arall oni bai ei fod wedi'i adnabod yn unol â'r canlynol—
(a)Rheoliad y Cyngor, yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005; neu
(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.
(2) Mae'n dramgwydd tynnu neu amnewid dull adnabod gwreiddiol anifail sy'n tarddu o Aelod-wladwriaeth arall yn groes i Erthygl 4(5) o Reoliad y Cyngor.
33. Ni chaiff neb dderbyn anifail o Loegr, yr Alban. Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw oni bai bod yr anifail wedi'i adnabod a bod dogfen symud yn cyd-fynd ag ef yn unol â'r canl ynol—
(a)yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005, Rheoliad y Cyngor, gan gynnwys unrhyw randdirymiad a arferwyd o dan Reoliad y Cyngor; neu
(b)yn achos anifail o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005 y Gorchmynion blaenorol ac unrhyw ofynion ychwanegol a osodwyd mewn deddfwriaeth sy'n gorfodi Rheoliad y Cyngor mewn perthynas â'r anifeiliaid hynny; neu
(c)yn achos anifeiliaid o Diriogaethau Dibynnol y Goron a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005 Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC.
34.—(1) Mae'n dramgwydd i geidwad fethu â chydymffurfio ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon.
(2) At ddibenion Erthygl 4(4) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod ar gyfer adnabod anifail yw 14 diwrnod.
(3) Rhaid i fodd adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydedd wlad fod yr un fath â'r hyn a nodir yn Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor a'r cod adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad yw—
(a)y llythrennau “UK”;
(b)Rhif 12 digid yn unol â chynllun Rhif o a ragnodir gan Weinidogion Cymru.
(4) Pan gaiff anifail ei fewnforio o drydedd wlad a'i ailadnabod yn unol â'r erthygl hon, rhaid i'r ceidwad gofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd yn y gofrestr ynghyd â'r cod adnabod llawn ar y modd adnabod newydd a'r cod adnabod llawn ar y dull adnabod a osodwyd yn y drydedd wlad.
35. Pan gaiff anifail ei fewnforio o drydedd wlad a'i ailadnabod yn unol ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor, nid yw'n ofynnol i'r ceidwad amnewid dull adnabod a osodwyd yn y drydedd wlad os bydd hwnnw wedyn yn cael ei golli neu'n mynd yn annarllenadwy.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: