- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009 ac maent yn dod i rym ar 1 Ionawr 2010.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae “ardal awdurdodau lleol A” (“local authority area A”) yn cynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam;
mae “ardal awdurdodau lleol B” (“local authority area B”) yn cynnwys Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen;
mae “ardal awdurdodau lleol C” (“local authority area C”) yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Powys;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;
ystyr “cymhwyster sgil allweddol” (“key skill qualification”) yw cymhwyster a restrir yn y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwyedig yng Nghymru(1) a gynhelir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i'w gilydd;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 434 o Ddeddf Addysg 1996(2);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, nac yn ŵyl y banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3);
ystyr “NQF” (“NQF”) yw'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol sy'n cynnwys cymwysterau wedi'u hachredu gan Weinidogion Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu yng Ngogledd Iwerddon;
ystyr “lefel NQF” (“NQF level”) yw'r lefel neu lefelau yr achredir cymwysterau iddynt o fewn yr NQF;
ystyr “person perthnasol” (“relevant person”) yw'r disgybl ynghyd â rhiant iddo;
ystyr “pwyntiau” (“points”) yw'r pwyntiau a ddyrennir i gwrs neu gyrsiau astudio gan y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwyedig yng Nghymru;
ystyr “tymor y gwanwyn” (“spring term”) yw'r ail dymor ysgol yn y flwyddyn ysgol yn yr ysgol y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi ac sy'n digwydd yn y flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol pan fydd y disgybl yn mynd i gyfnod allweddol pedwar; ac
ystyr “tymor yr haf” (“summer term”) yw'r trydydd tymor ysgol yn y flwyddyn ysgol yn yr ysgol y mae'r disgybl yn ddisgybl cofrestredig ynddi ac sy'n digwydd yn y flwyddyn ysgol yn union o flaen y flwyddyn ysgol pan fydd y disgybl yn mynd i gyfnod allweddol pedwar.
3. Rhaid i awdurdod lleol lunio ar gyfer ei ardal un cwricwlwm lleol neu fwy yn unol ag adran 116A o Ddeddf 2002 a'r Rheoliadau hyn mewn da bryd cyn dechrau'r flwyddyn ysgol i alluogi disgyblion i ddewis dilyn cwrs astudio yn unol â rheoliad 8.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i'r cwricwlwm lleol ar gyfer pob ysgol uwchradd a gynhelir yn ardal awdurdodau lleol A ar gyfer y flwyddyn ysgol 2010 i 2011 a phob blwyddyn ysgol wedyn gynnwys lleiafswm o 30 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 5 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i'r cwricwlwm lleol ar gyfer pob ysgol uwchradd a gynhelir yn ardal awdurdodau lleol B gynnwys—
(a)ar gyfer y flwyddyn ysgol 2010 i 2011 lleiafswm o 28 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 4 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol; a
(b)ar gyfer pob blwyddyn ysgol wedyn lleiafswm o 30 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 5 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i'r cwricwlwm lleol ar gyfer pob ysgol uwchradd a gynhelir yn ardal awdurdodau lleol C gynnwys—
(a)ar gyfer y flwyddyn ysgol 2010 i 2011 lleiafswm o 26 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 4 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol;
(b)ar gyfer y flwyddyn ysgol 2011 i 2012 lleiafswm o 28 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 4 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol; ac
(c)am bob blwyddyn ysgol wedyn lleiafswm o 30 o gyrsiau astudio ar lefel 2 NQF, y mae'n rhaid i o leiaf 5 ohonynt fod yn rhai galwedigaethol.
(4) Caiff awdurdod lleol gynnwys cwrs astudio ar lefel 1 NQF yn hytrach na chwrs ar lefel 2 NQF yn y cwricwlwm lleol ar gyfer ysgol uwchradd a gynhelir o fewn ei ardal os nad yw'r cwrs hwnnw ar gael ar lefel 2 NQF i ddisgyblion yng nghyfnod allweddol pedwar.
(5) Rhaid i'r lleiafswm o gyrsiau astudio galwedigaethol sy'n ofynnol gan baragraffau (1), (2) a (3) ddod o fewn o leiaf 3 o'r meysydd dysgu.
5.—(1) Os bydd cwricwlwm lleol yn cynnwys 26 neu 27 o gyrsiau astudio rhaid bod gan y cyrsiau hynny werth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 680 o bwyntiau.
(2) Os bydd cwricwlwm lleol yn cynnwys 28 neu 29 o gyrsiau astudio rhaid bod gan y cyrsiau hynny werth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 720 o bwyntiau.
(3) Os bydd cwricwlwm lleol yn cynnwys 30 neu fwy o gyrsiau astudio rhaid bod gan y cyrsiau hynny werth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 780 o bwyntiau.
6.—(1) Os bydd cwricwlwm lleol yn cynnwys 4 o gyrsiau astudio galwedigaethol rhaid bod gan y cyrsiau hynny werth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 220 o bwyntiau.
(2) Os bydd cwricwlwm lleol yn cynnwys 5 o gyrsiau astudio galwedigaethol neu fwy rhaid bod gan y cyrsiau hynny werth pwyntiau cyfunol nad yw'n llai na 260 o bwyntiau.
7. Ni chaiff disgybl ddewis dilyn cwrs neu gyfuniad o gyrsiau astudio o fewn cwricwlwm lleol os yw cyfanswm pwyntiau'r cwrs hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o gyrsiau astudio yn fwy na 180 o bwyntiau heb gynnwys unrhyw bwyntiau a ddyrannwyd i gwrs neu gyrsiau astudio sy'n arwain at gymhwyster sgil allweddol y mae disgybl wedi dewis ei ddilyn.
8. Rhaid i ddisgybl ddewis dilyn cwrs neu gyrsiau astudio o fewn cwricwlwm lleol yn ystod tymor y gwanwyn.
9.—(1) Os bydd pennaeth yn penderfynu o dan adran 116F(1) o Ddeddf 2002 nad oes hawlogaeth gan ddisgybl i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio rhaid iddo wneud hynny o fewn 28 o ddiwrnodau gwaith ar ôl dechrau tymor yr haf.
(2) Os bydd pennaeth yn penderfynu hynny rhaid iddo o fewn 3 diwrnod gwaith o'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r person perthnasol yn ysgrifenedig o'r materion canlynol—
(a)y penderfyniad a'r rhesymau drosto;
(b)y caiff y person perthnasol wneud cais i'r pennaeth adolygu'r penderfyniad hwnnw;
(c)o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath; ac
(ch)y caiff y person perthnasol wneud sylwadau yn ysgrifenedig ynghylch y penderfyniad hwnnw i'r pennaeth.
(3) Rhaid i gais gan berson perthnasol o dan baragraff (2)(b) ac unrhyw sylwadau o dan baragraff (2)(ch) gael eu gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn hysbysiad y pennaeth o'i benderfyniad.
(4) Os bydd person perthnasol yn gwneud cais o dan baragraff (2)(b) i bennaeth adolygu ei benderfyniad rhaid i'r pennaeth wneud dyfarniad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn y cais ac wrth iddo wneud hynny rhaid iddo ystyried—
(a)o dan ba amgylchiadau y cafodd ei benderfyniad ei wneud;
(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan berson perthnasol ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw; ac
(c)unrhyw amgylchiadau eraill y mae o'r farn eu bod yn berthnasol.
(5) Rhaid i'r pennaeth o fewn 3 diwrnod gwaith o'i ddyfarniad yn unol â pharagraff (4), hysbysu'r person perthnasol yn ysgrifenedig ohono a'r rhesymau drosto.
(6) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys yn unig o ran y dewisiad cyntaf y mae disgybl yn ei wneud o dan adran 116D(1) o Ddeddf 2002 yn unol â rheoliad 7 (ac nid o ran unrhyw ddewisiad wedyn).
10.—(1) Os bydd pennaeth yn penderfynu o dan adran 116H(1) o Ddeddf 2002 nad oes bellach gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn cwrs neu gyrsiau astudio, rhaid iddo o fewn 3 diwrnod gwaith o'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r person perthnasol o'r materion canlynol—
(a)y penderfyniad a'r rhesymau drosto;
(b)y caiff y person perthnasol wneud cais i'r pennaeth adolygu'r penderfyniad hwnnw;
(c)o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath; ac
(ch)y caiff y person perthnasol wneud sylwadau yn ysgrifenedig ynghylch y penderfyniad hwnnw i'r pennaeth.
(2) Nid oes gan ddisgybl hawlogaeth i ddilyn y cwrs neu'r cyrsiau astudio ar ôl dyddiad penderfyniad y pennaeth o dan adran 116H(1) o Ddeddf 2002.
(3) Rhaid i gais gan berson perthnasol o dan baragraff (1)(b) ac unrhyw sylwadau o dan baragraff (1)(ch) gael eu gwneud o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn hysbysiad y pennaeth o'i benderfyniad.
(4) Os bydd person perthnasol yn gwneud cais o dan baragraff (1)(b) i bennaeth adolygu ei benderfyniad rhaid i'r pennaeth wneud dyfarniad o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl iddo dderbyn y cais ac wrth iddo wneud hynny rhaid iddo ystyried—
(a)o dan ba amgylchiadau y cafodd ei benderfyniad ei wneud;
(b)unrhyw sylwadau ysgrifenedig a wnaed gan berson perthnasol ynglŷn â'r penderfyniad hwnnw; ac
(c)unrhyw amgylchiadau eraill y mae o'r farn eu bod yn berthnasol.
(5) Rhaid i'r pennaeth o fewn 3 diwrnod gwaith o'i ddyfarniad yn unol â pharagraff (4), hysbysu'r person perthnasol yn ysgrifenedig ohono a'r rhesymau drosto.
11. At ddibenion cyfrifo'r cyfnodau y cyfeirir atynt yn rheoliadau 9(2), (3), (4) a (5) a 10(1), (3), (4) a (5), bernir bod yr hysbysiad wedi ei roi i'r person o dan sylw—
(a)os defnyddir y post dosbarth cyntaf, ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl dyddiad ei bostio;
(b)os caiff yr hysbysiad ei draddodi â llaw, ar ddyddiad ei draddodi;
(c)os defnyddir post electronig, ar y dyddiad y caiff ei anfon,
oni ddangosir i'r gwrthwyneb.
John Griffiths
Y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau, o dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2009
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: