- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
17 Tachwedd 2009
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2009
Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), dyddiedig Chwefror 2009 ar adolygiad a wnaed gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar ffiniau cymunedau, ynghyd â chynigion a luniwyd gan y Comisiwn gogyfer â'r rheiny.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i gynigion y Comisiwn heb addasiadau.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2):
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau Pentref Llaneirwg, Tredelerch a Trowbridge) 2009 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2009.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
Mae “Map A” (“Map A”),“Map B” (“Map B”) a “Map C” (“Map C”) yn golygu yn eu tro y mapiau sydd wedi'u marcio A, B ac C yng Ngorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau Pentref Llaneirwg, Tredelerch a Trowbridge) 2009, sydd wedi'u hadneuo yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3); ac
os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol gyffelyb, mae i'w thrin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3. Gwneir newidiadau i ardal llywodraeth leol Dinas a Sir Caerdydd yn unol â'r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
4.—(1) Trosglwyddir y rhannau o gymuned Trowbridge a ddisgrifir ym mharagraff (2) i gymuned Pentref Llaneirwg.
(2) Y rhannau hynny yw—
(i)y rhan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A;
(ii)y rhan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B;
(iii)y rhan a ddangosir fel rhan groeslinellog “a” ar Fap C.
5. Trosglwyddir y rhan honno o gymuned Tredelerch a ddangosir fel rhan groeslinellog “b” ar Fap C i gymuned Pentref Llaneirwg.
6. Mae'r rhan a drosglwyddir o dan erthyglau 4 a 5 yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentref Llaneirwg/Pontprennau.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Tachwedd 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi eu heffaith i gynigion gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”) a adroddodd ym mis Chwefror 2009 ar adolygiad o ffiniau a wnaed gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i'r ffiniau presennol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.
Mae printiau o fapiau yn dangos y ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn Neuadd y Sir, Glanfa Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol.
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol ond nad yw'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r offeryn statudol hwn).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: