Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 2 Rhagfyr 2009.

Diwygio

2.  Diwygier Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(1) fel a ganlyn.

3.  Yn Rhan CH o Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod), hepgorer paragraff 18.

4.  Yn Atodlen 2 (swyddogaethau y caniateir iddynt fod, ond nad oes angen iddynt fod, yn gyfrifoldeb gweithrediaeth awdurdod)—

(a)yn lle paragraff 18 rhodder—

18.  Unrhyw un neu unrhyw rai o'r swyddogaethau canlynol o ran priffyrdd—

(a)gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd(2);

(b)y swyddogaethau a geir yn narpariaethau canlynol Rhan III o Ddeddf Priffyrdd 1980(3) (creu priffyrdd)—

(i)adran 25 — creu llwybrau troed, llwybrau ceffylau neu gilffyrdd cyfyngedig drwy gytundeb;

(ii)adran 26 — pwerau gorfodol ar gyfer creu llwybrau troed, llwybrau ceffylau neu gilffyrdd cyfyngedig;

(c)y swyddogaethau a geir yn narpariaethau canlynol Rhan VIII o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cau priffyrdd a gwyro priffyrdd etc)(4)

(i)adran 116 — pŵer llysoedd ynadon i awdurdodi cau priffordd neu wyro priffordd;

(ii)adran117 — cais am orchymyn o dan adran 116 ar ran person arall;

(iii)adran 118 — cau llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig;

(iv)adran 118ZA — cais am orchymyn diddymu llwybr cyhoeddus;

(v)adran 118A — cau llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig sy'n croesi rheilffyrdd;

(vi)adran 118B — cau priffyrdd penodol at ddibenion atal troseddau etc;

(vii)adran 118C — cais gan berchennog ysgol am orchymyn diddymu arbennig;

(viii)adran 119 — gwyro llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig;

(ix)adran 119ZA — cais am orchymyn gwyro llwybr cyhoeddus;

(x)adran 119A — gwyro llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig sy'n croesi rheilffyrdd;

(xi)adran 119B — gwyro priffyrdd penodol at ddibenion atal troseddau etc;

(xii)adran 119C — cais gan berchennog ysgol am orchymyn gwyro arbennig;

(xiii)adran 119D — gwyro priffyrdd penodol ar gyfer gwarchod safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig;

(xiv)adran 120 — arfer pwerau i wneud gorchmynion diddymu a gwyro llwybrau cyhoeddus;

(xv)adran 121B — cofrestr ceisiadau;

(ch)y swyddogaethau a geir yn narpariaethau canlynol Rhan IX o Ddeddf Priffyrdd 1980 (ymyrraeth gyfreithlon ac anghyfreithlon â phriffyrdd a strydoedd)—

(i)adran 130 — amddiffyn hawliau cyhoeddus;

(ii)adran 139 — rheoli sgipiau adeiladwyr;

(iii)adran 140 — symud sgipiau adeiladwyr i ffwrdd;

(iv)adran 140A(5) — sgipiau adeiladwyr: ffioedd am feddiannu'r briffordd;

(v)adran 142 — trwydded i blannu coed, llwyni etc mewn priffordd;

(vi)adran 147 — pŵer i awdurdodi codi camfeydd etc ar lwybrau troed neu lwybrau ceffylau;

(vii)adran 147ZA(6) — cytundebau ynghylch gwelliannau er lles personau sydd â phroblemau symudedd;

(viii)adran 149 — symud pethau a adawyd ar briffyrdd sy'n peri niwsans etc;

(ix)adran 169 — rheoli sgaffaldiau ar briffyrdd;

(x)adran 171 — rheoli gosod deunyddiau adeiladu ar strydoedd a gwneud gwaith cloddio mewn strydoedd;

(xi)adran 171A(7) a rheoliadau a wneir o dan yr adran honno — gwaith o dan adran 169 neu adran 171: tâl am feddiannu'r briffordd;

(xii)adran 172 — palisau sydd i'w codi yn ystod adeiladu etc;

(xiii)adran 173 — palisau i'w codi'n ddiogel;

(xiv)adran 178 — cyfyngu ar osod rheiliau, trawstiau etc dros briffyrdd;

(xv)adran 179 — rheoli adeiladu selerydd etc o dan strydoedd;

(xvi)adran 180 — rheoli mynedfeydd i selerydd etc o dan strydoedd, a goleuadau palmentydd ac awyryddion;

(d)arfer swyddogaethau o dan adran 34 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(8) (gorchmynion calchbalmentydd); ac

(dd)arfer swyddogaethau o dan adran 53 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(9) (dyletswydd i adolygu mapiau a datganiadau diffiniol yn barhaus).;

(b)yn lle paragraff 24 rhodder—

24.  Swyddogaethau o ran gamblo o dan ddarpariaethau canlynol Deddf Gamblo 2005(10)

(a)adran 29 — gwybodaeth gan awdurdod trwyddedu;

(b)adran 30 — cyfnewid arall o wybodaeth;

(c)adran 166 — penderfyniad i beidio â dyroddi trwyddedau casino;

(ch)adran 212 a rheoliadau a wneir o dan yr adran honno — ffioedd;

(d)adran 284 — tynnu ymaith esemptiad;

(dd)adran 304 — personau awdurdodedig;

(e)adran 346 — erlyniadau gan awdurdod trwyddedu;

(f)adran 349 — polisi trwyddedu tair blynedd;

(ff)adran 350 — cyfnewid gwybodaeth;

(g)Rhan 5 o Atodlen 11— cofrestru gydag awdurdod lleol..

5.  Yn Atodlen 3 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig)—

(a)yng ngholofn (1) yn lle “Y Cynllun Addysg Sengl” rhodder “Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc”;

(b)yng ngholofn (2) yn lle “Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 (O.S. 2006/877 (Cy. 82))” rhodder “Rheoliadau a wnaed o dan adran 26 o Ddeddf Plant 2004(11)”;

(c)ar y diwedd—

(i)yng ngholofn (1), mewnosoder “Y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy”;

(ii)yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r cofnod hwnnw yng ngholofn (1), mewnosoder “Adran 60 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(12).”.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

10 Tachwedd 2009

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources