Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Tachwedd 2009 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “a ariennir yn gyhoeddus” ac “a ariannwyd yn gyhoeddus” (“publicly-funded”) yw cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o'r cronfeydd cyhoeddus, ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hyn;

  • mae i “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” ac “athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(1);

  • ystyr “yr Athrofa” (“Institute”) yw Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis(2);

  • ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

  • ystyr “benthyciad” (“loan”), ac eithrio lle nodir fel arall, yw benthyciad yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf, gan gynnwys y llog sy'n crynhoi ar y benthyciad ac unrhyw gosbau neu daliadau sy'n codi mewn cysylltiad ag ef;

  • ystyr “benthyciad at ffioedd coleg” (“college fee loan”) yw benthyciad at ffioedd coleg sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

  • ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

  • ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person y mae benthyciad wedi'i roi iddo;

  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw'r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

  • ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”), oni nodir fel arall, yw blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig (ac eithrio blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus) a fyddai'n cael ei gymryd (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) gan berson nad yw'n ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs ar ôl 1 Medi 2006 ac sy'n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt â'r myfyriwr cymwys;

  • ystyr “blwyddyn bwrsari” (“bursary year”) yw blwyddyn academaidd cwrs—

    (a)

    y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd mewn perthynas â hi a hwnnw'n fwrsari y caiff ei swm ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; neu

    (b)

    y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan lwfans gofal iechyd yr Alban mewn perthynas â hi a hwnnw'n lwfans y caiff ei swm ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

  • ystyr “blwyddyn Erasmus” (“Erasmus year”) yw blwyddyn academaidd cwrs pryd y bydd myfyriwr yn cymryd rhan yng nghynllun gweithredu'r Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol a elwir ERASMUS(3) a phan fo cwrs y myfyriwr yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(d) a bod pob cyfnod astudio'r myfyriwr yn ystod y flwyddyn academaidd mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad

  • tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(4) neu Erthygl 44 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(5);

  • ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian sy'n cael ei ddarparu gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd sy'n cael eu darparu gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “cwrs addysg uwch” (“higher education course”) yw cwrs y cyfeirir ato yn Atodlen 2 neu gwrs i ôl-raddedigion neu gwrs arall y mae ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf;

  • mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf oni nodir yn wahanol ond nid yw'n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon sydd wedi'i seilio ar gyflogaeth;

  • ystyr “cwrs carlam” (“accelerated course”) yw cwrs y mae'r sefydliad sy'n ei ddarparu yn ei gwneud yn ofynnol fel rheol i'r personau sy'n ei gymryd fod yn bresennol (boed ar fangre'r sefydliad ynteu mewn man arall) am gyfnod o 40 wythnos o leiaf yn y flwyddyn derfynol, a hwnnw'n gwrs sy'n parhau am ddwy flwyddyn academaidd;

  • ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs dynodedig amser-llawn a ddarperir gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt a hwnnw'n gwrs—

    (a)

    sy'n arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer;

    (b)

    sy'n arwain, os yw wedi dechrau cyn 1 Medi 2009, at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref; neu

    (c)

    sy'n cynnwys o leiaf un flwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari;

  • ystyr “cwrs dwys” (“intensive course”) yw cwrs carlam neu gwrs gradd cywasgedig;

  • ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs a ddynodwyd gan reoliad 5 neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 5;

  • mae i “cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8);

  • ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig” (“designated distance learning course”) yw cwrs a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 70;

  • ystyr “cwrs dysgu o bell presennol” (“present learning distance course”) yw'r cwrs dysgu o bell dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef;

  • ystyr “cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree course”) yw cwrs y dyfernir, yn unol â pharagraff (2), ei fod yn gwrs gradd cywasgedig;

  • ystyr “cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion” (“flexible postgraduate ITT course”) yw cwrs ôl-radd o hyfforddiant cychwynnol athrawon, y mae ei hyd a'i batrwm yn cael eu pennu drwy gyfeirio at brofiad ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr cymwys a hwnnw'n gwrs sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion(6) neu Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(7), a'r cwrs naill ai—

    (a)

    wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

    (b)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

    (c)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

  • ystyr “cwrs ôl-radd dynodedig” (“designated postgraduate course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi o dan reoliad 110 neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 110;

  • ystyr “cwrs ôl-radd presennol” (“present postgraduate course”) yw'r cwrs ôl-radd dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef;

  • ystyr “cwrs penben” (“end-on course”) yw—

    (a)

    cwrs gradd gyntaf amser-llawn (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs amser-llawn sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2008 neu 2008 (Rhif 2) ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;

    (b)

    cwrs gradd anrhydedd amser-llawn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaenol amser-llawn ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2008 neu 2008 (Rhif 2) ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;

    (c)

    cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2006 nad yw'n parhau am fwy na dwy flynedd (gan fynegi hyd cwrs rhan-amser mewn modd sy'n gyfartal i hyd y cwrs amser-llawn sy'n cyfateb iddo) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd gyntaf ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005 2006, 2007 neu 2008 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;

  • ystyr “cwrs presennol” (“present course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef;

  • ystyr “cwrs rhagarweiniol” (“preliminary course”) yw cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd amser-llawn (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) neu gwrs gradd sylfaenol yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd anrhydedd amser-llawn, yn ôl y digwydd;

  • ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig” (“designated part-time course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi gan reoliad 86 neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 86;

  • ystyr “cwrs rhan-amser presennol” (“present part-time course”) yw'r cwrs rhan-amser dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef;

  • mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004(8) ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i fyw'n ddilyffethair yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

  • ystyr “cyfnod arferol” (“ordinary duration”), o ran cwrs dynodedig, yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac eithrio unrhyw flynyddoedd academaidd o'r cwrs sy'n flynyddoedd bwrsari neu'n flynyddoedd Erasmus;

  • ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—

    (a)

    cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy'n gysylltiedig ag astudiaethau amser-llawn mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i'r sefydliad hwnnw;

    (b)

    cyfnodau pryd y caiff myfyriwr ei gyflogi ac y bydd yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae'r myfyriwr yn ei hastudio at ei gwrs (ar yr amod bod y cyfnod o breswylio yn y wlad honno yn un o ofynion ei gwrs a bod astudio un neu fwy o ieithoedd modern yn cyfrif am nid llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

  • ystyr “cyfraniad” (“contribution”), o ran—

    (a)

    myfyriwr cymwys, yw cyfraniad y myfyriwr wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 59 ac Atodlen 5;

    (b)

    myfyriwr rhan-amser cymwys, yw cyfraniad y myfyriwr wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 97 ac Atodlen 6;

  • ystyr “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”) yw unrhyw un o'r cynghorau ymchwil canlynol—

    (a)

    Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau,

    (b)

    Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol,

    (c)

    Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol,

    (ch)

    Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol,

    (d)

    Y Cyngor Ymchwil Feddygol,

    (dd)

    Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol,

    (e)

    Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg;

  • ystyr “cymorth” (“support”) yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o'r Ddeddf;

  • ystyr “cymorth at ffioedd” (“fee support”) yw grantiau mewn perthynas â ffioedd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ac maent yn cynnwys grantiau mewn perthynas â ffioedd o dan Ran 4;

  • ystyr “cyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd” (“former Metropolitan Police District”) yw—

    (a)

    Llundain Fwyaf, heb gynnwys dinas Llundain, y Deml Fewnol a'r Deml Ganol;

    (b)

    yn swydd Essex, yn nosbarth Epping Forest—

    • ardal cyn ddosbarth trefol Chigwell,

    • plwyf Waltham Abbey;

    (c)

    yn swydd Hertford—

    • ym mwrdeistref Broxbourne, ardal cyn ddosbarth trefol Cheshunt,

    • dosbarth Hertsmere,

    • yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw; ac

    (ch)

    yn swydd Surrey—

    • ym mwrdeistref Elmbridge, ardal cyn ddosbarth trefol Esher,

    • bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne,

    • yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn ddosbarth trefol Banstead;

  • ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw—

    (a)

    cynllun a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(9) sy'n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo'n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion; neu

    (b)

    cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo'n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol, coleg dinas, Academi, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;

  • ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno—

    (a)

    sy'n dechrau ar 1 Ionawr ac sy'n diweddu ar 31 Mawrth;

    (b)

    sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac sy'n diweddu ar 30 Mehefin;

    (c)

    sy'n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy'n diweddu ar 31 Awst; neu

    (ch)

    sy'n dechrau ar 1 Medi ac sy'n diweddu ar 31 Rhagfyr;

  • ystyr “Deddf 1962” (“the 1962 Act”) yw Deddf Addysg 1962(10);

  • ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd y Ddeddf neu Ddeddf 1962, neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy'n cael ei dalu o'r cronfeydd cyhoeddus;

  • ystyr “dyfarniad trosiannol” (“transitional award”) yw dyfarniad a wnaed o dan Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 1998(11) ac eithrio hen ddyfarniad;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

  • ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(12), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(13), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed o dan y Deddfau hynny neu'r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(14) a rheoliadau a wnaed o dan y Gorchymyn hwnnw neu'r Ddeddf a rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf;

  • mae i “ffioedd” yr ystyr a roddir i “fees” yn adran 28(1) o'r Ddeddf ac eithrio mewn cyfeiriadau at ffioedd coleg;

  • ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(15) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(16);

  • ystyr “grant at gostau byw” (“grant for living costs”) (heb ddim mwy) yw grant o dan unrhyw rai o ddarpariaethau Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl” (“grant for disabled distance learning students' living costs”) yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 75;

  • ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr anabl” (“grant for disabled students' living costs”) yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 25;

  • ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl” (“grant for disabled part-time students' living costs”) yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 89;

  • ystyr “grant newydd at ffioedd” (“new fee grant”) yw grant a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 19;

  • ystyr “grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed” (“part-time adult dependants' grant”) yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 92;

  • ystyr “grant rhan-amser ar gyfer gofal plant” (“part-time childcare grant”) yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 93;

  • ystyr “grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion” (“part-time grants for dependants”) yw'r grantiau a'r lwfans a restrir yn rheoliad 91(1);

  • ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd—

    (a)

    sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; a

    (b)

    sydd, neu sydd wedi bod, mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gwladolyn o'r GE” (“EC national”) yw un o wladolion un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;

  • mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys dogfennau;

  • ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw tiriogaeth Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o bryd i'w gilydd;

  • ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

  • mae “hen ddyfarniad” (“old award”) yn ddyfarniad o fewn ystyr “award” yn Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(17);

  • ystyr “hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon” (“old flexible postgraduate course for the initial training of teachers”) yw cwrs HCA ôl-radd hyblyg y dechreuodd myfyriwr fod yn bresennol arno cyn 1 Medi 2008;

  • mae i'r ymadroddion “incwm yr aelwyd”, “incwm aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”)—

    (a)

    o ran myfyriwr cymwys, yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 5;

    (b)

    o ran myfyriwr rhan-amser cymwys, yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 6;

  • ystyr “lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni” (“part-time parents' learning allowance”) yw'r lwfans sy'n daladwy o dan reoliad 94;

  • ystyr “lwfans gofal iechyd yr Alban” (“Scottish healthcare allowance”) yw unrhyw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(18) a roddwyd mewn perthynas â pherson sy'n bresennol ar gwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd ac eithrio fel doctor meddygol neu ddeintydd;

  • ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

    (a)

    wedi'i ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi'i gysylltu yn rhesymegol â hwy; a

    (b)

    yn honni ei fod wedi'i ymgorffori neu wedi'i gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i gadarnhau bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau;

  • mae i “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010” (“2010 gap year student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (13);

  • ystyr “myfyriwr carfan 2010” (“2010 cohort student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010, ac eithrio—

    (a)

    myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010;

    (b)

    myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010 pan fo'r cwrs hwnnw'n gwrs penben, sy'n dilyn ymlaen o gwrs—

    (i)

    y cychwynnodd arno cyn 1 Medi 2010; neu

    (ii)

    y cychwynnodd arno cyn 1 Medi 2011, ac yntau'n fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs hwnnw; neu

    (c)

    myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ar ôl trosglwyddo'i statws fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, o gwrs dynodedig y dechreuodd arno—

    (i)

    cyn 1 Medi 2010; neu

    (ii)

    cyn 1 Medi 2011, ac yntau'n fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs hwnnw;

  • ystyr “myfyriwr cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree student”) yw myfyriwr cymwys—

    (a)

    sy'n ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig (y “cwrs”);

    (b)

    naill ai sydd—

    (i)

    wedi dechrau ar y cwrs ar neu ar ôl i Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2010; neu

    (ii)

    yn dechrau ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2010; ac

    (c)

    y mae naill ai—

    (i)

    yn ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am ran o'r flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer; neu

    (ii)

    yn fyfyriwr anabl nad yw'n ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am nad yw'n gallu bod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd;

  • ystyr “myfyriwr cymhwysol” (“qualifying student”) yw person sy'n bodloni'r meini prawf ym mharagraff 2 o Atodlen 4;

  • mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

  • ystyr “myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd” (“new system eligible student”) yw myfyriwr cymwys—

    (a)

    nad yw'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn; a

    (b)

    sydd naill ai—

    (i)

    wedi dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac yn parhau i fynychu'r cwrs ar ôl 31 Awst 2010; neu

    (ii)

    yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010;

  • ystyr “myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn” (“old system eligible student”) yw myfyriwr cymwys sydd—

    (a)

    wedi dechrau ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2010;

    (b)

    yn fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd mewn perthynas â'r cwrs presennol;

    (c)

    wedi dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 os yw'r cwrs hwnnw yn gwrs penben (ac eithrio cwrs o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (c) o'r diffiniad o'r ymadrodd “cwrs penben” yn y rheoliad hwn) sy'n dilyn ar ôl cwrs—

    (i)

    y dechreuodd arno cyn 1 Medi 2006; neu

    (ii)

    y dechreuodd arno cyn 1 Medi 2007 ac yr oedd, mewn perthynas â'r cwrs, yn fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd; neu

    (ch)

    wedi dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un, neu fwy nag un, trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno—

    (i)

    cyn 1 Medi 2006; neu,

    (ii)

    cyn 1 Medi 2007 ac yr oedd, mewn perthynas â'r cwrs, yn fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd;

  • mae i “myfyriwr dysgu o bell cymwys” (“eligible distance learning student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 68;

  • ystyr “myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 1 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos, pan fo'r cwrs naill ai—

    (a)

    wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

    (b)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

    (c)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

  • ystyr “myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 2 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn 10 wythnos neu fwy, pan fo'r cwrs naill ai—

    (a)

    wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

    (b)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

    (c)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

  • ystyr “myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 3 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos, pan fo'r cwrs naill ai—

    (a)

    wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

    (b)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

    (c)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

  • y mae i “myfyriwr ôl-raddedig cymwys” (“eligible postgraduate student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 109;

  • mae i “myfyriwr rhan-amser cymwys” (“eligible part-time student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 85;

  • mae “myfyriwr safonol” (“standard student”) yn fyfyriwr sydd i'w ystyried—

    (a)

    yn un sydd wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â'r myfyriwr cymwys o dan sylw;

    (b)

    yn un nad esgusodir unrhyw ran o'r cwrs iddo;

    (c)

    yn un na chaiff ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs; ac

    (ch)

    yn un na chaiff fod yn absennol o'r cwrs ac eithrio yn ystod gwyliau;

  • mae i “myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd” (“gap year student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (3);

  • ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—

    (a)

    a hysbyswyd gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur;

    (b)

    y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

    (c)

    y mae cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros heb ddod i ben nac wedi cael ei adnewyddu ac nad yw'r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu fod apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(19) mewn perthynas â'i hawl i ddod i mewn neu i aros; ac

    (ch)

    sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan roddwyd iddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros;

  • ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1998(20);

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1999(21);

  • ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000(22);

  • ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001(23);

  • ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2002(24);

  • ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002(25) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2003(26) a Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Chymorth i Fyfyrwyr) (Y Swistir) 2003(27);

  • ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau 2003 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2004(28), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 2) 2004(29), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 3) 2004(30), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 4) 2004(31)), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2005(32)), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) 2005(33)) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005(34));

  • ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(35));

  • ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006(36)) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006(37);

  • ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007(38) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2007(39), Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007(40) a Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2007(41);

  • ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008(42) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2008(43) a Rheoliadau (Rhif 2) 2008;

  • ystyr “Rheoliadau (Rhif 2) 2008” (“the 2008 (No. 2) Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008(44);

  • ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus;

  • ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; ac

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir.

(2Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu bod cwrs yn gwrs gradd cywasgedig os yw'r cwrs hwnnw, yn ei farn—

(a)yn gwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd sylfaen);

(b)yn gwrs amser-llawn a ddynodir o dan reoliad 5(1); ac

(c)yn parhau am ddwy flynedd academaidd.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae person yn “fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd” (“gap-year student”) mewn perthynas â chwrs a ddarparwyd gan neu ar ran sefydliad a oedd yn cael ei gyllido'n gyhoeddus ar 1 Awst 2005 os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (4) neu (6).

(4Yr amodau yw—

(a)bod y person, ar neu cyn 1 Awst 2005 wedi cael cynnig o le, pa un ai'n amodol ar ennill cymwysterau penodedig ai peidio, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg, a

(b)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(5Ym mharagraff (4) mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i'r cwrs presennol—

(a)os yw'n ymddangos i gorff llywodraethu'r sefydliad sy'n darparu'r cwrs presennol fod cynnwys y cwrs, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yr un fath â chynnwys y cwrs gwreiddiol, a

(b)ac eithrio pan nad yw'r cwrs gwreiddiol yn cael ei ddarparu mwyach, os yw'r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu'r cwrs gwreiddiol.

(6Yr amodau yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â'r cwrs presennol ai peidio) y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw wedi dechrau cyn 1 Medi 2006;

(b)na allai dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd iddo gymhwyster penodedig neu safon benodedig;

(c)ei fod wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio dyfarnu'r cymhwyster neu'r safon iddo;

(ch)bod yr apêl wedi'i chaniatáu ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai'r myfyriwr fod wedi derbyn y cynnig;

(d)o ganlyniad, ei fod wedi cael cynnig lle ar y cwrs presennol; ac

(dd)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs perthnasol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(7Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae cwrs yn “gwrs rhyngosod”(“sandwich course”)—

(i)os nad yw'n gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(ii)os yw'n cynnwys cyfnodau o astudio amser-llawn mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a

(iii)gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, os yw'r myfyriwr yn bresennol ar y cyfnodau o astudio amser-llawn am nid llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd;

(b)er mwyn cyfrifo presenoldeb y myfyriwr at ddibenion is-baragraff (a), trinnir y cwrs fel pe bai'n dechrau gyda'r cyfnod cyntaf o astudio amser-llawn ac yn diweddu gyda'r cyfnod olaf o'r fath; ac

(c)at ddibenion is-baragraff (a), os ceir cyfnodau o astudio amser-llawn am yn ail â phrofiad gwaith yn ystod unrhyw wythnos ar y cwrs, mae'r dyddiau o astudio amser-llawn yn cael eu hadio at ei gilydd ac at unrhyw wythnosau o astudio amser-llawn wrth bennu nifer yr wythnosau o astudio amser-llawn ym mhob blwyddyn.

(8Yn y Rheoliadau hyn ystyr y “cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yw'r cwrs presennol yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10).

(9Os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs presennol o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru oddi ar gwrs (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs cychwynnol yw'r cwrs dynodedig a bennir.

(10Os yw'r cwrs presennol yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef (“y cwrs blaenorol”). Os yw'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben mewn perthynas ag ef.

(11Yn y Rheoliadau hyn, mae'r ymadrodd “myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd” (“student who qualifies for a new fee grant”) mewn perthynas â chwrs dynodedig ac mae unrhyw gyfeiriad at fyfyriwr nad oes ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, i'w dehongli yn unol â rheoliad 19.

(12Yn y Rheoliadau hyn, mae i'r ymadrodd “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd, yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 19.

(13Yn y Rheoliadau hyn, mae person yn “fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010” (“2010 gap year student”) mewn perthynas â chwrs a ddarperir gan neu ar ran sefydliad a ariennid yn gyhoeddus ar 1 Awst 2009 os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (14) neu (16).

(14Yr amodau yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle, pa un ai'n amodol ai peidio, ar 1 Awst 2009 neu cyn hynny, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg; a

(b)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.

(15Ym mharagraff (14), mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i'r cwrs presennol—

(a)pan yw'n ymddangos i awdurdod academaidd y sefydliad sy'n darparu'r cwrs presennol mai yr un, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yw cynnwys y cwrs a chynnwys y cwrs gwreiddiol; a

(b)ac eithrio pan na ddarperir y cwrs gwreiddiol mwyach, pan yw'r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu'r cwrs gwreiddiol.

(16Yr amodau yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â'r cwrs presennol ai peidio) a bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)na allai'r person dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd iddo gymhwyster penodedig neu safon benodedig;

(c)ei fod wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio dyfarnu'r cymhwyster neu'r safon iddo;

(ch)bod yr apêl wedi'i chaniatáu ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai'r myfyriwr fod wedi derbyn y cynnig;

(d)o ganlyniad, ei fod wedi cael cynnig lle ar y cwrs presennol; ac

(dd)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.

Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (8), dirymir Rheoliadau (Rhif 2) 2008 mewn perthynas â Chymru ar 1 Medi 2010.

(2Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.

(3Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.

(4Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

(5Mae Rheoliadau 2006 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(6Mae Rheoliadau 2007 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.

(7Mae Rheoliadau 2008 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 ond cyn 1 Medi 2009.

(8Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2008 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009 ond cyn 1 Medi 2010.

(9At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i'w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at—

(a)Gweinidogion Cymru, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(45); neu

(b)Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004.

(10Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2010.

(11Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn—

(a)pan fo person yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu

(b)pan na fo person wedi cael dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â'r cwrs ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi'i roi iddo pe bai wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai ei adnoddau wedi bod yn fwy na'i anghenion,

mae'r person yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4 a 5 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond, oni bai bod paragraff (12) yn gymwys, dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cymorth o dan y Rhan honno y mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad at gostau byw o dan Ran 6.

(12Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, os cafodd unrhyw berson neu os oedd unrhyw berson yn gymwys i gael benthyciad o ran blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998 mae'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu unrhyw gwrs dynodedig dilynol y mae'n ei ddechrau (gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn union ar ôl gorffen y cwrs hwnnw, ond onid yw paragraff (11) yn gymwys, bydd ganddo hawl i gael cymorth at ffioedd o dan Ran 4 a chymorth ar ffurf grant at gostau byw o dan Ran 5 os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni'r amodau cymhwysol perthnasol i gael cymorth o dan Rannau 4 a 5.

(2)

Gynt yr enw ar Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis oedd y Sefydliad Prydeinig ym Mharis. Newidiodd y Sefydliad Prydeinig ym Mharis ei enw'n ffurfiol ar 1 Ionawr 2005.

(3)

Mae ERASMUS yn rhan o raglen gweithredu'r Gymuned Ewropeaidd SOCRATES; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t.1.

(4)

1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn (Rhif 2) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), O.S. 2004/288, erthygl 7; Deddf Plant 2004 (p.31), adran 55; O.S. 2004/957, yr Atodlen; Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43), Atodlen 1 ac O.S. 2007/961, yr Atodlen.

(5)

O.S. 1972/1265 (G.I. 14) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(6)

Sefydlwyd y corff hwn yn wreiddiol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994 (p. 30) fel yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon. Mae'n parhau mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ond ei enw fydd yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.

(7)

Gweler adrannau 85—90 o Ddeddf Addysg 2005 i weld swyddogaeth CCAUC ynghylch hyfforddi athrawon.

(8)

OJ L158, 30.04.2004, t.77—123.

(10)

1962 p. 12; amnewidiwyd adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 gan y darpariaethau a nodwyd yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p. 20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p. 11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodwyd yng Ngorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.

(11)

O.S. 1998/1166, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1972 ac a ddirymwyd gydag arbedion gan O.S. 1999/1494.

(12)

1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4.

(13)

O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a'r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddi-rymwyd, gydag arbedion, gan Rh. St. (GI) 1998 Rhif 306.

(14)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(15)

Gorch. 9171.

(16)

Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(18)

1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunanlywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(19)

2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr, etc) 2004 (p.19), Atodlenni 2 a 4 a Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), adran 9.

(21)

O.S. 1999/496, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2266 ac O.S. 2000/1120.

(45)

2004 p.8.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources