- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (“y Ddeddf”) yn darparu y gellir yn gyfreithlon amddifadu pobl o'u rhyddid os nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio i drefniadau a gynigir iddynt ar gyfer eu gofal neu driniaeth mewn cartrefi gofal ac ysbytai ar yr amod bod hynny'n cael ei awdurdodi'n unol â'r Ddeddf. Y cyrff goruchwylio sydd i roi'r awdurdodiad. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi swyddogaethau goruchwylio mewn perthynas ag ysbytai i Fyrddau Iechyd Lleol.
2. Os rhoddir awdurdodiad i amddifadu unrhyw berson o'i ryddid, mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i'r corff goruchwylio benodi cynrychiolydd ar gyfer y person hwnnw. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dethol a phenodi cynrychiolwyr.
3. Mae'r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhoi swyddogaethau goruchwylio mewn perthynas ag ysbytai i Fyrddau Iechyd Lleol ac yn darparu ar gyfer trefniadau cydweithio (rheoliad 3);
(b)yn gwneud darpariaethau ynghylch yr amgylchiadau pan fydd person yn gymwys i fod yn gynrychiolydd (rheoliad 6);
(c)yn darparu i berson perthnasol ddethol person yn gynrychiolydd iddo (rheoliad 7);
(ch)yn darparu os oes gan berson perthnasol roddai i Atwrneiaeth Arhosol neu os yw'r llys wedi penodi dirprwy, caiff y rhoddai hwnnw neu'r dirprwy hwnnw ddethol cynrychiolydd ar yr amod bod hynny o fewn cwmpas ei awdurdod (rheoliad 8);
(d)yn darparu i asesydd lles pennaf i gymeradwyo cynrychiolydd a ddetholir gan y person perthnasol, y rhoddai neu'r dirprwy neu ddethol cynrychiolydd ei hunan (rheoliadau 9 a 10);
(dd)yn darparu i'r corff goruchwylio ddethol cynrychiolydd os na ellir dethol un drwy ddulliau eraill (rheoliad 11);
(e)yn darparu i'r corff goruchwylio benodi cynrychiolydd a ddetholwyd ac i hysbysiad o'r penodiad gael ei roi i'r personau sydd â buddiant (rheoliadau 12 a 13);
(f)yn darparu ar gyfer terfynu penodiad y cynrychiolydd (rheoliad 14);
(ff)yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod rheoli hysbysu'r corff goruchwylio os nad yw'r cynrychiolydd yn gweithredu er lles pennaf y person perthnasol neu os nad yw'n cadw mewn cysylltiad rheolaidd (rheoliad 15);
(g)yn darparu i gynrychiolwyr gael eu talu (rheoliad 17).
4. Darpariaethau trosiannol yw rheoliadau 18 a 19 sy'n diwygio Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/852 (Cy.77)). Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Byrddau Iechyd Lleol yn gyfrifol hefyd am wneud trefniadau i Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol fod ar gael i weithredu pan fo'r person perthnasol, neu pan fo'n bosibl ei fod, yn ddarostyngedig i awdurdodiad safonol ac nad oes gan y person hwnnw unrhyw berson arall y gellir ymgynghori ag ef ynglyn â'r hyn sydd er ei les pennaf (rheoliadau 18 a 19).
5. Ni chafodd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir unrhyw effaith arwyddocaol ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: