- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;
ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”), o ran unrhyw ddosbarth iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1), yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer y dosbarth hwnnw a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation” ) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd(2);
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 629/2008” (“Commission Regulation 629/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 629/2008 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwyd(3);
ystyr “Rheoliad y Comisiwn 124/2009” (“Commission Regulation 124/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif XXX/2008 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer presenoldeb cocsidiostatau neu histomonostatau mewn bwyd sy'n ganlyniad i drosglwyddiad anochel y sylweddau hyn mewn bwyd anifeiliaid ar gyfer rhywogaethau nad ydynt yn darged(4);
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig, naill ai yn gyffredinol neu yn benodol, gan awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod iechyd porthladd i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y mae'r ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn cael ei ddefnyddio yn Rheoliad y Comisiwn neu yn Rheoliad y Comisiwn 124/2009, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.
(3) Oni nodir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad at yr Atodiad yn gyfeiriad at yr Atodiad i Reoliad y Comisiwn fel y gellir diwygio'r Atodiad hwnnw o bryd i gilydd, ac mae unrhyw gyfeiriad at Reoliad y Comisiwn i'w ddehongli'n unol â hynny.
OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5. Mae'r Rheoliad hwn wedi'i ddiwygio gan Reoliadau'r Comisiwn (EC) Rhif au 1126/2007 (OJ Rhif L255, 29.9.2007, t.14), 565/2008 (OJ Rhif L160, 19.6.2008, t.20) a 629/2008 (OJ Rhif L173, 3.7.2008, t.6).
OJ Rhif L173, 3.7.2008, t.6.
OJ Rhif L40, 11.2.2009, t.7.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: