Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) (Diwygio) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) (Diwygio) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Mehefin 2009.

Diwygio

2.  Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008(1) fel a nodir yn y Rheoliadau hyn.

3.  Yn rheoliad 2 (Dehongli cyffredinol)—

(a)mewnosoder, yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—

  • ystyr “y farchnad ddomestig” (“domestic market”) yw'r farchnad ar gyfer gwerthu cig dofednod yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon;;

(b)hepgorer y diffiniad o “dyddiad perthnasol”;

(c)yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor mewnosoder—

  • ystyr “cig moch seropositif” (“seropositive pig meat”) yw cig sy'n dod o fochyn seropositif—

    (a)

    nad yw'n gig dan gyfyngiadau, a

    (b)

    na chafodd ei drin yn unol ag Atodlen 2 mewn canolfan driniaeth ddynodedig;; ac

  • ystyr “mochyn seropositif” (“seropositive pig”) yw mochyn nad yw'n anifail dan gyfyngiadau ond yn un y mae Gweinidogion Cymru'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei gigydda mewn lladd-dy oherwydd bod gwrthgorffynnau yn erbyn feirws clefyd pothellog y moch wedi cael eu canfod yn y mochyn hwnnw;.

4.  Yn rheoliad 3 (Anifail, dofednod a chig dan gyfyngiadau: diffiniadau)—

(a)yn lle paragraff (8) rhodder—

(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9) “cig dan gyfyngiadau” (“restricted meat”) yw cig—

(a)a gynhyrchwyd ar neu ar ôl y dyddiad y datganwyd y parth gwarchod neu'r parth gwyliadwriaeth, neu ddyddiad cynharach os bydd Gweinidogion Cymru yn pennu'r dyddiad hwnnw at ddibenion rheoli clefydau;

(b)sy'n dod o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau o ardal heintiedig, parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth; ac

(c)sy'n cynnwys cig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig.;

(b)ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(9) Os yw cig dan gyfyngiadau wedi cael ei drin yn unol ag Atodlen 2 mewn canolfan driniaeth mae'n peidio â chael ei ganfod fel cig dan gyfyngiadau..

5.  Yn rheoliad 7 (Cig o fangre dan amheuaeth neu fangre heintiedig) mewnosoder ar ôl paragraff (3)—

(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “y dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y daeth y fangre dan amheuaeth neu'r fangre heintiedig yn destun cyfyngiadau oherwydd clefyd, neu unrhyw ddyddiad cynharach os bydd Gweinidogion Cymru yn pennu'r dyddiad hwnnw at ddibenion rheoli clefydau..

6.  Yn rheoliad 9 (Gwahardd cyflenwi ac allforio cig)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)hepgorer y gair “neu” sy'n dod yn union o flaen is-baragraff (b);

(ii)ar ddiwedd is-baragraff (b), hepgorer yr atalnod llawn ac ychwaneger—

  • ; neu

    (c)

    allforio cig moch seropositif.;

(b)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Nid yw'r gwaharddiad ym mharagraff 1(a) yn gymwys i gig dan gyfyngiadau o ddofednod dan gyfyngiadau a fwriedir ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig.;

(c)hepgorer paragraff (3).

7.  Yn rheoliad 10 (Lladd-dai)—

(a)ym mharagraff (1) ar ôl y geiriau “anifeiliaid dan gyfyngiadau” mewnosoder “, moch seropositif”;

(b)ym mharagraff (2) ar ôl is-baragraff (ch) hepgorer yr atalnod llawn a mewnosoder—

  • ;

    (d)

    bod moch seropositif yn cael eu cadw ar wahân i foch eraill; a

    (dd)

    bod moch seropositif yn cael eu cigydda ar wahân i foch eraill.;

(c)ar ôl paragraff (5) mewnosoder—

(6) Os nad yw meddiannydd lladd-dy wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (2)(d) neu (2)(dd) pan gaiff hysbysiad gan arolygydd milfeddygol, rhaid i'r meddiannydd drin y moch eraill hynny fel moch seropositif.

(7) Dim ond os yw'r lladd-dy yn un dynodedig y caiff meddiannydd lladd-dy dderbyn cig dan gyfyngiadau..

8.  Yn rheoliad 12 (Derbyn a meddu ar gig dan gyfyngiadau)—

(a)ym mharagraff (1) hepgorer y cyfeiriad at y geiriau “neu sefydliad” a'r geiriau “neu'r sefydliad hwnnw”;

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r cig cyfyngedig yn dod o ddofednod cyfyngedig a fwriedir ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig yn unig..

9.  Yn rheoliad 13 (Marcio cig) ym mharagraffau (1), (2) a (3) ar ôl y geiriau “dan gyfyngiadau” ym mhob un o'r paragraffau hynny mewnosoder “neu gig moch seropositif”.

10.  Yn lle rheoliad 14 (Symud cig dan gyfyngiadau) rhodder—

14.(1) Ni chaiff neb gludo na threfnu i gludo cig dan gyfyngiadau i fangre neu sefydliad oni bai bod y fangre honno neu'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw'r cig cyfyngedig yn dod o ddofednod cyfyngedig a fwriedir ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig yn unig..

11.  Yn rheoliad 15 (Cadw cofnodion)—

(a)ym mharagraff (1) ar ôl y geiriau “anifail dan gyfyngiadau” mewnosoder “, mochyn seropositif”;

(b)yn lle paragraff (1)(a) rhodder—

(a)y nifer a'r math o anifeiliaid dan gyfyngiadau, moch seropositif neu ddofednod dan gyfyngiadau sydd wedi eu cigydda;;

(c)ym mharagraff (2) ar ôl “chig dan gyfyngiadau” mewnosoder “neu gig moch seropositif”;

(ch)yn is-baragraffau (a) ac (c) o baragraff (2) yn lle'r geiriau “o gig dan gyfyngiadau” rhodder “o'r cyfryw gig”;

(d)yn lle is-baragraff (d) o baragraff (2) rhodder—

(d)pa faint o'r cyfryw gig nas bwriedir bellach ei fwyta gan bobl.;

(dd)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Nid yw paragraff (2) yn gymwys i unrhyw ddosbarthwr cyfanwerthu, dosbarthwr manwerthu, manwerthwr neu ddefnyddiwr—

(a)os yw'r cig dan gyfyngiadau yn dod o ddofednod dan gyfyngiadau ac a fwriedir yn unig ar gyfer ei gyflenwi i'r farchnad ddomestig; neu

(b)os yw'r cig yn gig moch seropositif..

12.  Yn Atodlen 3 (Marc adnabod arbennig) mewnosoder ar ôl paragraff 3—

3A.  Rhaid i gig moch seropositif gynnwys marc adnabod fel bod y Rhif o a'r llythrennau yn cael eu gosod mewn cylch sy'n ddarllenadwy, a'u bod yn annileadwy gyda llythrennau deongladwy ac yn cynnwys y priflythrennau “UK” a ddilynir gan rif cymeradwyo'r sefydliad..

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources