- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ymgymerydd sy'n cyflawni gwaith stryd ar briffordd y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o gychwyniad y gwaith hwnnw i'r awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd honno, gan nodi'r stryd y mae'r gwaith i'w gyflawni ynddi (“hysbysiad o gychwyniad gwirioneddol ar waith”), ddim hwyrach na diwedd y diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y cychwynnir y gwaith.
(2) Pan fo gwaith yn cael ei gyflawni o dan drwydded sydd wedi ei chaniatáu gan Awdurdod Trwyddedau mewn stryd sydd yn sensitif i draffig neu mewn stryd yng nghategori ffordd 0, 1 neu 2 nad yw'n stryd sydd yn sensitif i draffig, y cyfnod y mae'n rhaid i'r hysbysiad o gychwyniad gwirioneddol ar waith gael ei gyflwyno oddi mewn iddo yn unol â pharagraff (1) fydd y cyfnod sy'n gymwys yn rhinwedd paragraff 16.7 o'r Cod Ymarfer ar gyfer Trwyddedau dyddiedig Mehefin 2009.(1), fel y caiff ei ddiwygio neu ei ailgyhoeddi o bryd i'w gilydd.
(3) Pan fydd ymgymerydd—
(a)wedi cwblhau adferiad dros dro o briffordd;
(b)wedi symud ymaith—
(i)pob arwydd, golau ac eitem warchod, a
(ii)pob rwbel, defnyddiau nas defnyddiwyd ac offer arall sydd ar ôl; ac
(c)wedi adfer y briffordd yn llawn i ddefnydd cyhoeddus,
rhaid i'r ymgymerydd hwnnw hysbysu'r awdurdod priffyrdd fod hyn wedi ei wneud (“hysbysiad o fod yn glir o waith”) ddim hwyrach na diwedd y diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y cafodd y briffordd ei hadfer yn llawn i ddefnydd cyhoeddus.
(4) Pan fydd ymgymerydd—
(a)wedi cwblhau adferiad parhaol o briffordd;
(b)wedi symud ymaith—
(i)pob arwydd, golau ac eitem warchod, a
(ii)pob rwbel, defnyddiau nas defnyddiwyd ac offer arall sydd ar ôl; ac
(c)wedi adfer y briffordd yn llawn i ddefnydd cyhoeddus,
rhaid i'r ymgymerydd hwnnw hysbysu'r awdurdod priffyrdd fod hyn wedi ei wneud (“hysbysiad o gwblhau gwaith”) ddim hwyrach na diwedd y diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y cafodd y briffordd ei dychwelyd yn llawn i ddefnydd cyhoeddus.
Cyfeiriad y wefan i ddilyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: