Search Legislation

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Benfro a Derwen (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 936 (Cy.96)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Benfro a Derwen (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008

Gwnaed

28 Mawrth 2008

Yn dod i rym

1 Ebrill 2008

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), a pharagraffau 29 o Atodlen 3 iddi, mae Gweinidogion Cymru, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad statudol a ragnodwyd o dan baragraff 29(4) o'r Ddeddf honno(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Benfro a Derwen (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Ebrill 2008.

(2Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:

ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Ebrill 2008

ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Benfro a Derwen a sefydlwyd ar 1 Ebrill 1997;

ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda a sefydlwyd ar 12 Mawrth 2008.

Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth yn cael ei drosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogid felly a'r ymddiriedolaeth newydd.

(2Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —

(a)yn rhinwedd yr erthygl hon, bydd unrhyw hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddynt yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;

(b)bernir bod popeth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi o ran y contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, wedi ei wneud, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen, gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) uchod yn rhagfarnu yn erbyn unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'w amodau gwaith, ond ni fydd hawl o'r fath yn codi dim ond oherwydd y newid mewn cyflogwr y rhoddir effaith iddo yn yr erthygl hon.

Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau

3.  Ar y dyddiad trosglwyddo bydd holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—

(a)y ddyletswydd i baratoi cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth ac i gyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;

(b)eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1;

(c)elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.

Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd

4.  Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

28 Mawrth 2008

Erthygl 3(b)

ATODLEN 1

EiddoDeiliadaeth (a'r rhif teitl os yw'n gymwys)
Ysbyty
Wardiau Afallon ac Enlli, Ysbyty Cyffredinol BronglaisLesddaliad
Bryngofal, Ysbyty'r Tywysog PhilipRhydd-ddaliad (WA253967)
Canolfan Adnoddau Dinbych-y-pysgod (y safle newydd)

Rhydd-ddaliad (CYM180478)

Rhydd-ddaliad (CYM19713)

Canolfan Gwennog, Canolfan Gwili a Llys Myddfai, Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru gan gynnwys tir y tu cefnRhydd-ddaliad (WA857214)
Caebryn (Ysbyty Dydd Brynhaul, Ward Bryntawel a Ward Bryngolau), Ysbyty'r Tywysog PhilipLesddaliad
Hafan Derwen, Parc Dewi Sant, CaerfyrddinRhydd-ddaliad (WA899753)
Ysbyty De Sir Benfro, Doc Penfro

Rhydd-ddaliad (WA633274)

Rhydd-ddaliad (WA587373)

Ysbyty Llwyn Helyg, Hwlffordd

Rhydd-ddaliad (WA633313)

Rhydd-ddaliad (CYM176034)

Canolfannau Iechyd
Canolfan Iechyd CrymychRhydd-ddaliad (WA632581)
Canolfan Iechyd AbergwaunRhydd-ddaliad (WA633349)
Canolfan Iechyd Hakin, AberdaugleddauRhydd-ddaliad (WA633327)
Canolfan Gofal Iechyd HwlfforddRhydd-ddaliad (WA633330)
Canolfan Gofal Iechyd AberdaugleddauRhydd-ddaliad (WA633330)
Canolfan Iechyd ArberthLesddaliad
Canolfan Iechyd NeylandRhydd-ddaliad (WA633323)
Canolfan Iechyd Doc PenfroRhydd-ddaliad (WA641351)
Clinigau
Clinig Brynmair, Heol Goring, LlanelliRhydd-ddaliad (WA834631)
Llys Steffan, Llanbedr Pont Steffan (Clinig Llanbedr Pont Steffan)Lesddaliad
Clinig Elizabeth Williams, LlanelliLesddaliad
Iechyd Meddwl
Canolfan Adnoddau Iechyd Meddwl Hafan Hedd, Castellnewydd EmlynRhydd-ddaliad (WA731941)
Amrywiol
Ysbyty Dydd Bro Cerwen a Sant Brynach, Hwlffordd

Rhydd-ddaliad (WA633315)

Rhydd-ddaliad (WA830438)

Uned Asesu Bro Myrddin, CaerfyrddinRhydd-ddaliad (WA851547)
4, 8 a 9 Bryngolau, LlanelliLesddaliad
Swyddfeydd Tîm Cymunedol Anawsterau Dysgu Capel Road, LlanelliRhydd-ddaliad (WA834622)
Carmel a Phentargon, Dewi Sant, CaerfyrddinRhydd-ddaliad (WA899753)
Cartrefle, LlanybydderRhydd-ddaliad (WA834623)
10, Church Close, Begeli, CilgetiLesddaliad
Yr Hufenfa, LlangadogLesddaliad
Tîm Cymunedol Anawsterau Dysgu Ceredigion, AberaeronLesddaliad
Derwen Gardens, Castellnewydd EmlynLesddaliad
Europa House, Charles Street, AberdaugleddauLesddaliad
13, Heol Goring, LlanelliRhydd-ddaliad (WA502646)
Ysbyty Dydd Gorwelion, AberystwythRhydd-ddaliad (WA723066)
7a, Y Stryd Fawr, AberystwythLesddaliad
Haverfordia House, HwlfforddLesddaliad
Llys Meddyg ac Ael-y-bryn, Dewi Sant, CaerfyrddinLesddaliad
Ysbyty Dydd Tŷ Helyg, Bronglais, AberystwythRhydd-ddaliad (WA498237)
Pen-lan, CaerfyrddinRhydd-ddaliad (WA913160)
Bloc Dewi Sant 18, Adran Ystadau, CaerfyrddinLesddaliad
Ysbyty Dydd Sŵn-y-gwynt, RhydamanRhydd-ddaliad (WA544537)
Tir-y-garreg, CydweliRhydd-ddaliad (WA452133)
Canolfan Adnoddau Wellfield, CaerfyrddinRhydd-ddaliad (WA834626)
Canolfan Adnoddau Hendy-gwyn ar Daf, Hendy-gwyn ar DafLesddaliad
Cartref Home, Rhydaman
3 Derwen Deg, PorthyrhydLesddaliad
Glancleddau, AberdaugleddauLesddaliad
2 Cwrt Greville, Doc PenfroLesddaliad

Erthygl 3(c)

ATODLEN 2

Cronfa Elusennol Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro a Derwen (gan gynnwys is-elusennau) —Rhif Elusen 1049198.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Benfro a Derwen i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda o 1 Ebrill 2008 ymlaen.

Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Sir Benfro a Derwen i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Hywel Dda ar 1 Ebrill 2008.

(2)

Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ymgynghori ar Sefydlu a Diddymu) 1996, O.S. 1996/653, sy'n parhau i gael effaith yn rhinwedd paragraff 1(2) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006. p.43.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources