Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Myfyrwyr rhan-amser cymwys

79.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wrth iddynt asesu cais y myfyriwr am gymorth yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).

(3Nid yw person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys—

(a)os rhoddwyd neu os talwyd i'r person hwnnw mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs rhan-amser—

(i)bwrsari gofal iechyd p'un a yw swm y bwrsari hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person neu beidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007; neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person hwnnw neu beidio;

(b)os yw'r person hwnnw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw'r person hwnnw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglyn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch)os yw'r person hwnnw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth; neu

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw'n garcharor.

(4Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar neu'n cael ei ryddhau o'r carchar.

(5At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglyn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991, a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 3(c) yn gymwys.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) i (12), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (8) neu (9).

(8Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs rhan-amser dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)nad yw statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i derfynu.

(9Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o'r blaen fod y person—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig; neu

(ii)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig ac eithrio'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol;

(b)bod statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.

(10Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys dysgu o bell wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(11Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys dysgu o bell wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)y cyfnod y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd honno, os na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys neu'n fyfyriwr cymwys, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(13Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 82(1)(b), rheoliad 83 neu reoliadau 84 i 93 os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.

(14Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth—

(a)o dan reoliad 82(1)(a) os yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yng Nghymru; neu

(b)o dan reoliad 82(1)(b), rheoliad 83 neu reoliadau 84 i 93 os yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.

(15Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 82 neu reoliadau 84 i 93 os yw wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser am gyfanswm o wyth mlynedd academaidd a'i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (16).

(16Y benthyciadau a'r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (15) yw—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998; neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.

(17Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 82 neu reoliadau 84 i 93 os oes ganddo radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(18At ddibenion paragraff (17), nid yw gradd yn cael ei thrin fel gradd gyntaf—

(a)os yw'n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) sydd wedi'i dyfarnu i fyfyriwr rhan-amser cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, yr arholiadau neu'r dulliau asesu eraill sy'n angenrheidiol at gwrs ei radd gyntaf;

(b)os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i gofrestru i barhau â'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ar ôl i'w radd gael ei dyfarnu er mwyn sicrhau gradd anrhydedd pan gwblheir y modiwlau, yr arholiadau neu'r dulliau asesu eraill sy'n angenrheidiol.

(19Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (22) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr fod â hawl i gael grant mewn perthynas â ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(20Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f) neu (ff) o baragraff (22) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, gall myfyriwr fod â hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfan neu ran o'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y dechreuodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(21Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f) neu (ff) o baragraff (22) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr fod â hawl i gael grant at lyfrau, teithio a gwariant arall neu grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl (neu'r ddau) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid oes grant at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(22Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(dd)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(ff)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(23Ni chaiff myfyriwr rhan-amser cymwys hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth ar gyfer—

(a)mwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig;

(b)cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig dysgu o bell;

(ch)cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig ôl-radd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources