- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
37.—(1) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant cymorth arbennig mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(2) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'n syrthio o fewn categori rhagnodedig o berson at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1), neu os ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno(2).
(3) Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—
(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,453;
(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,906;
(c)yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,453;
(ch)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,906.
(4) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,453;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,453 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, mae'n cael £644.
(5) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,906;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,906 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw'r myfyriwr wrth wneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae'n cael £1,288.
(6) Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,453;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £1,453 ac A yn £1 am bob £11.72 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A, pan fo RM yn £644 ac A yn £1 am bob £18.54 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852; ac
(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.
(7) Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,906;
(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,906 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;
(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £1,288 ac A yn £1 am bob £9.27 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;
(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.
1992 p. 4. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1981 ac O.S. 2006/2144; mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes unrhyw un ohonynt yn berthnasol.
Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Cymhorthdal Tai 2006 (O.S. 2006/213 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/718).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: