- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CAFFAEL TIR, CYMRU
Gwnaed
2 Tachwedd 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
4 Tachwedd 2008
Yn dod i rym
25 Tachwedd 2008
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Pan fo'r dyddiad dadleoli ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ei ôl—
(a)£47,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf;
(b)£4,700 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf; ac
(c)£4,700 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o'r Ddeddf.
3.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2007(3).
(2) Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
2 Tachwedd 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 (“y Ddeddf”) i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.
Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o'r Ddeddf i gael taliad colli cartref. Cafodd y sail bresennol ar gyfer asesu swm y taliad colli cartref ei sefydlu drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf yn Neddf Cynllunio ac Iawndal 1991.
Mewn achosion pan fo gan berson sy'n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny'n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.
Mae adran 30(2) yn rhagnodi swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.
Mae Rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £44,000 i £47,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu'r isafswm o £4,400 i £4,700. Mae Rheoliad 2(c) yn cynyddu'r taliad colli cartref sy'n daladwy, o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £4,400 i £4,700.
Dim ond uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref a newidir ac nid oes unrhyw newid yn y ganran sy'n daladwy o werth ar y farchnad o fuddiant y person a ddadleolir.
Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo'r dadleoli'n digwydd ar 25 Tachwedd 2008 neu ar ôl hynny.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2007 yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ond ar wahân i hynny fe'u dirymir.
1973 p.26; amnewidiwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34) gydag effaith o 25 Medi 1991 ymlaen (gweler O.S. 1991/ 2067, erthygl 3).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2; ac Atodlen 1. Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y cyfryw adran eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: