Search Legislation

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2770 (Cy.246)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008

Gwnaed

18 Hydref 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Hydref 2008

Yn dod i rym

1 Rhagfyr 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 43(4B)(b), 44(9), 143(1) a (2) a 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2008 ond mae'n effeithiol o 1 Ebrill 2008.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “blwyddyn ariannol berthnasol” (“relevant financial year”) yw'r flwyddyn ariannol y mae trethdalwr wedi cyflwyno hysbysiad mewn cysylltiad â hi yn unol ag erthygl 10;

  • mae i “cod cyfathrebu electronig” yr ystyr sydd i “electronic communications code” yn adran 106(1) o Ddeddf Cyfathrebu 2003(3);

  • mae “cyfarpar cyfathrebu electronig” (“electronic communications apparatus”) yn cynnwys—

    (a)

    cyfarpar o fewn yr ystyr a roddir gan baragraff 1(1) o'r cod cyfathrebu electronig;

    (b)

    strwythurau ar lun cytiau neu adeiladau eraill (gan gynnwys strwythurau nad ydynt ond yn rhan o adeilad) a ddefnyddir, neu a ddyluniwyd i'w defnyddio, ddim ond i gadw cyfarpar sy'n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff (a); ac

    (c)

    unrhyw gyfarpar atodol a gaiff ei feddiannu at ddibenion person a drwyddedir o dan adran 8 o Ddeddf Telegraffiaeth Ddiwifr 2006(4) neu berson y rhoddwyd iddo fynediad sbectrwm cydnabyddedig o dan adran 18 o'r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer hynny;

  • mae i “cyfathrebu electronig” yr ystyr sydd i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(5);

  • ystyr “Deddf 1988 ” (“the 1988 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

  • mae “gwerthu nwyddau” (“sale of goods”) yn cynnwys gwerthu unrhyw un neu rai o'r canlynol—

    (a)

    pryd neu luniaeth i'w fwyta neu i'w yfed yn y fangre lle y caiff ei werthu neu ei baratoi neu i ffwrdd o'r fangre honno;

    (b)

    diod feddwol i'w hyfed yn y fangre lle y caiff ei gwerthu neu i ffwrdd o'r fangre honno;

    (c)

    petrol neu danwydd arall i yrru cerbydau modur a fwriedir ar gyfer eu defnyddio ar ffyrdd neu a addaswyd i'w defnyddio ar ffyrdd;

  • ystyr “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”) yw hereditament—

    (a)

    a ddefnyddir ar gyfer arddangos hysbysebion, parcio cerbydau modur, gweithfeydd trin carthion neu gyfarpar cyfathrebu electronig, a dim ond ar gyfer hynny,

    (b)

    sy'n gwt ar y traeth neu'n swyddfa bost,

    (c)

    y mae un neu fwy o baragraffau (a) i (c) o adran 47(2) o Ddeddf 1988 yn gymwys iddo,

    (ch)

    sy'n hereditament a eithrir fel y'i diffinnir yn adran 47(9) o Ddeddf 1988, neu

    (d)

    sy'n hereditament y Goron fel y'i diffinnir yn adran 65A(4) o Ddeddf 1988;

  • mae “llofnod” (“signature”), llofnodi (“sign”) neu “llofnodwyd” (“signed”), mewn perthynas â hysbysiad a gyflwynwyd, yn unol ag erthygl 10(6) drwy gyfathrebu electronig, yn cynnwys ymgorffori yn yr hysbysiad, neu gysylltu'n rhesymegol â'r hysbysiad, lofnod electronig, fel y'i diffinnir yn adran 7(2) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000;

  • ystyr “mangre fanwerthu” (“retail premises”) yw unrhyw hereditament lle y cynhelir masnach neu fusnes sydd yn gyfan gwbl neu'n bennaf yn golygu gwerthu nwyddau;

  • ystyr “person wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr” (“person authorised to sign on behalf of the ratepayer”), os yw'r trethdalwr—

    (a)

    yn bartneriaeth, yw partner i'r bartneriaeth honno;

    (b)

    yn ymddiriedolaeth, yw ymddiriedolwr i'r ymddiriedolaeth honno;

    (c)

    yn gorff corfforaethol, yw cyfarwyddwr i'r corff hwnnw, ac

    mewn unrhyw achos arall, yw person wedi ei awdurdodi'n briodol i lofnodi ar ran y trethdalwr; ac

  • ystyr “swyddfa bost” yw swyddfa bost gyhoeddus o fewn yr ystyr a roddir i “post office” gan adran 42(3) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000(6).

Mwyafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi

3.  At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw £12,000.

Amodau rhyddhad

4.  At ddibenion adran 43(4B)(b)(ii) o Ddeddf 1988, yr amodau i'w bodloni yw'r rhai a ragnodir yn erthygl 5, 6, 7, 8 neu 9.

5.  Yr amodau a ragnodir gan yr erthygl hon (“yr amodau gwerth ardrethol”) yw—

(a)hyd a chan gynnwys 31 Mawrth 2012, mai £6,500 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament, a £5,000 neu lai ar ôl y dyddiad hwnnw;

(b)nad yw'r hereditament yn hereditament a eithrir; ac

(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl.

6.  Yr amodau a ragnodir gan yr erthygl hon (“yr amodau swyddfa bost”) yw—

(a)y defnyddir yr hereditament, neu ran o'r hereditament, at ddibenion swyddfa bost;

(b)mai £12,000 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament;

(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl; ac

(ch)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i'r awdurdod bilio mewn cysylltiad â'r hereditament yn unol ag erthygl 10.

7.  Yr amodau a ragnodir gan yr erthygl hon (“yr amodau mangre fanwerthu”) yw—

(a)bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion mangre fanwerthu;

(b)nad yw'r hereditament yn hereditament a eithrir;

(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl;

(ch)bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £6,500 ond nid yn fwy na £9,000;

(d)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i'r awdurdod bilio mewn cysylltiad â'r hereditament yn unol ag erthygl 10; ac

(dd)nad yw'r trethdalwr wedi rhoi hysbysiad yn unol ag erthygl 10 i'r awdurdod bilio, neu i unrhyw awdurdod bilio arall yng Nghymru, mewn cysylltiad ag unrhyw hereditament arall.

8.  Yr amodau a ragnodir gan yr erthygl hon (“yr amodau gofal plant”) yw—

(a)bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl at ddibenion gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd gan berson wedi ei gofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989(7);

(b)nad yw'r hereditament yn hereditament a eithrir;

(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl;

(ch)bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £2,000 ond nid yn fwy na £12,000; a

(d)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i'r awdurdod bilio mewn cysylltiad â'r hereditament yn unol ag erthygl 10.

9.  Yr amodau a ragnodir gan yr erthygl hon (“yr amodau undebau credyd”) yw—

(a)bod yr hereditament yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl at ddibenion undeb credyd sydd wedi ei gofrestru un undeb credyd yn unol â Deddf Undebau Credyd 1979(8);

(b)nad yw'r hereditament yn hereditament a eithrir;

(c)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl;

(ch)bod gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £2,000 ond nid yn fwy na £9,000; a

(d)bod y trethdalwr wedi rhoi hysbysiad i'r awdurdod bilio mewn cysylltiad â'r hereditament yn unol ag erthygl 10.

Hysbysiadau

10.—(1Rhaid i hysbysiad o dan yr erthygl hon gynnwys yr wybodaeth a materion eraill a bennir yn yr Atodlen a rhaid iddo gael ei lofnodi gan y trethdalwr neu gan berson wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), caniateir i hysbysiad a roddir heb fod yn hwyrach na 30 Medi mewn blwyddyn ariannol gael effaith o ddyddiad nad yw'n gynharach nag 1 Ebrill yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

(3Ni chaniateir rhoi hysbysiad yn gynharach nag 1 Hydref yn y flwyddyn ariannol sy'n dod o flaen y flwyddyn ariannol berthnasol.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), mewn perthynas â'r hereditament y mae a wnelo'r hysbysiad ag ef—

(a)os bydd y rhan o'r amodau perthnasol ynghylch gwerth ardrethol yn cael ei bodloni yn sgil newid mewn rhestr ardrethu annomestig leol, ac;

(b)os rhoddir hysbysiad o fewn 4 mis ar ôl y dyddiad pryd yr hysbysir yr awdurdod bilio o dan sylw o'r newid yn sgil rheoliadau o dan adran 55 o Ddeddf 1988 (newid rhestrau),

caniateir i'r hysbysiad gael effaith o ddyddiad nad yw'n gynharach na'r dyddiad pryd y mae'r newid yn dod yn effeithiol o dan y rheoliadau hynny.

(5Ni chaniateir i unrhyw hysbysiad gael effaith am ddiwrnod yn gynharach nag 1 Ebrill 2008.

(6Mae hysbysiad i'w gyflwyno i'r awdurdod bilio o dan sylw drwy—

(a)ei gyfeirio at yr awdurdod; a

(b)ei ddanfon neu ei anfon i swyddfa'r awdurdod drwy'r post neu drwy gyfathrebiad electronig.

(7Mae unrhyw hysbysiad a anfonir drwy gyfathrebiad electronig i'w ystyried, oni phrofir i'r gwrthwyneb, fel pe bai wedi ei gyflwyno ar yr adeg y daw i law ar ffurf ddarllenadwy.

(8Pan fydd hysbysiad wedi ei roddi mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol, caiff yr awdurdod bilio fynnu bod y trethdalwr yn rhoi hysbysiadau pellach yn unol â'r erthygl hon mewn perthynas â'r cyfryw flynyddoedd ariannol canlynol ag y byddo'r awdurdod o dro i dro yn eu pennu.

Swm o E

11.  Y swm o E a ragnodir at ddibenion adran 44(9) o Ddeddf 1988—

(a)os bodlonir yr amodau gwerth ardrethol ac os £2,000 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament, yw 2;

(b)os bodlonir yr amodau gwerth ardrethol ac os yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £2,000, yw 1.333333;

(c)os bodlonir yr amodau swyddfa bost ac os £9,000 neu lai yw gwerth ardrethol yr hereditament, yw 1,000,000;

(ch)os bodlonir yr amodau swyddfa bost ac os yw gwerth ardrethol yr hereditament yn fwy na £9,000 ond nid yn fwy na £12,000, yw 2;

(d)hyd a chan gynnwys 31 Mawrth 2012 os bodlonir yr amodau mangreoedd manwerthu, yw 1.333333;

(dd)hyd a chan gynnwys 31 Mawrth 2012 os bodlonir yr amodau gofal plant, yw 2;

(e)hyd a chan gynnwys 31 Mawrth 2012 os bodlonir yr amodau undebau credyd, yw 2.

Dirymu, Arbedion a Darpariaeth Drosiannol

12.—(1Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Aneddiadau Gwledig) (Cymru) 1998(9) a Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi Gwledig) (Cymru) 2002(10) yn parhau mewn grym fel y maent yn gymwys i unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2007 neu cyn y dyddiad hwnnw.

(2Dirymir Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006(11) ond mae i barhau mewn grym fel y mae'n gymwys i'r flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2008.

(3Nid yw erthygl 6(d) yn gymwys mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2008.

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Hydref 2008

Erthygl 10

ATODLENGwybodaeth a materion eraill i'w cynnwys mewn hysbysiad o dan erthygl 10 o Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008

(“Gorchymyn 2008”)

1.  Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post), Rhif ffacs (os yw'n gymwys), Rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (os yw'n gymwys) y trethdalwr.

2.  Cyfeiriad (gan gynnwys cod post) yr hereditament y gwneir cais am ryddhad ardrethi i fusnesau bach mewn cysylltiad ag ef ac, os yw hynny'n hysbys, ei rif cyfrif ardrethu annomestig.

3.  Yn achos swyddfa bost, cadarnhad bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol at ddibenion swyddfa bost fel y'i disgrifir yng Ngorchymyn 2008.

4.  Yn achos mangre fanwerthu—

(a)cadarnhad—

(i)bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion mangre fanwerthu fel y'i disgrifir yng Ngorchymyn 2008; a

(ii)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl;

(b)cyfeiriad llawn unrhyw hereditament arall neu hereditamentau eraill yng Nghymru y mae'r trethdalwr yn ei feddiannu neu'n eu meddiannu neu wedi ei feddiannu neu eu meddiannu ar unrhyw adeg ers y dyddiad ym mharagraff 8 isod;

(c)cadarnhad nad yw'r trethdalwr nac unrhyw un ar ei ran wedi rhoi hysbysiad o dan erthygl 10 o Orchymyn 2008 i unrhyw awdurdod bilio yng Nghymru mewn cysylltiad ag unrhyw hereditament arall. Os na ellir rhoi'r cadarnhad hwn, rhaid rhoi manylion llawn; ac

(ch)ymgymeriad gan y trethdalwr (ac os nad y trethdalwr yw'r person sy'n llofnodi'r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr ) y bydd y trethdalwr, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, yn ysgrifennu i hysbysu'r awdurdod bilio—

(i)o gyfeiriad unrhyw hereditament yng Nghymru y mae'r trethdalwr wedi dechrau ei feddiannu ers iddo roi'r hysbysiad;

(ii)o'r dyddiad pryd y dechreuodd y trethdalwr feddiannu'r hereditament hwnnw;

(iii)o'r dyddiad pryd y gorffennodd y trethdalwr feddiannu'r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 at ddibenion mangre fanwerthu;

(iv)o'r dyddiad pryd y rhoddwyd hysbysiad i unrhyw awdurdod bilio yng Nghymru gan neu ar ran y trethdalwr o dan Orchymyn 2008 mewn cysylltiad â hereditament ac eithrio'r un a grybwyllir ym mharagraff 2 a chyfeiriad yr hereditament arall hwnnw.

5.  Yn achos mangre a ddefnyddir ar gyfer gofal plant—

(a)cadarnhad —

(i)bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl at ddibenion gofal plant fel a ddisgrifir yng Ngorchymyn 2008; a

(ii)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl; a

(b)enw a chyfeiriad y darparwr cofrestredig a'i rif cofrestru.

6.  Yn achos mangre a ddefnyddir fel undeb credyd—

(a)cadarnhad—

(i)bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl at ddibenion undeb credyd fel y'i disgrifir yng Ngorchymyn 2008; a

(ii)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu'n gyfan gwbl; a

(b)swyddfa gofrestredig yr undeb credyd;

(c)cyfeiriad prif swyddfa'r undeb credyd, os yw'n wahanol i'r swyddfa gofrestredig; ac

(ch)y Rhif cyfeirnod ffyrm a ddyroddwyd i'r undeb credyd gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

7.  Cadarnhad nad yw'r hereditament yn eiddo a eithrir fel y'i disgrifir yng Ngorchymyn 2008.

Nid oes angen y cadarnhad hwn pan fydd y rhyddhad ardrethi y gwneir cais amdano'n ymwneud â swyddfa bost.

8.  Cadarnhad o'r naill neu'r llall o'r canlynol—

(a)y dyddiad pryd y cafodd yr hereditament ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir yn yr hysbysiad a'i fod wedi parhau i gael ei ddefnyddio felly hyd at ddyddiad yr hysbysiad

  • neu

    (b)

    y dyddiad y bydd yr hereditament yn cael ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir uchod.

9.  Ymgymeriad gan y trethdalwr (ac os nad y trethdalwr yw'r person sy'n llofnodi'r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr) y bydd y trethdalwr cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn ysgrifennu i hysbysu'r awdurdod os yw o'r farn y gallai beidio â bod mwyach yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o dan Orchymyn 2008.

10.  Awdurdodiad gan y trethdalwr yn awdurdodi'r awdurdod bilio y rhoddir yr hysbysiad iddo i gaffael gan unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod o'r farn ei bod yn berthnasol at ddibenion cadarnhau unrhyw wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad neu at ddibenion sicrhau mewn dull arall gymhwystra'r trethdalwr i gael rhyddhad mewn cysylltiad â'r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2.

11.  Llofnod y trethdalwr neu'r person wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.

12.  Disgrifiad o swyddogaeth y person sy'n llofnodi'r hysbysiad.

13.  Dyddiad yr hysbysiad.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2008 ond mae'n effeithiol o 1 Ebrill 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn yn ailddeddfu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”) gyda diwygiadau. Darparodd Gorchymyn 2006 ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o ran Cymru yn sgil dod i rym adran 63 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. Gwnaeth yr adran honno ddiwygiadau i adrannau 42A, 43 a 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”).

Yn ychwanegol at ddrafftio diwygiadau mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud y newidiadau sylweddol a ganlyn—

  • cynyddu trothwy uchaf gwerth ardrethol ar gyfer cael rhyddhad cyffredinol;

  • darparu rhyddhad penodol ar gyfer mangre fanwerthu (fel y'i diffinnir yn erthygl 2), darparwyr gofal plant ac undebau credyd;

  • darparu am i drethdalwyr sy'n gwneud cais am ryddhad roi hysbysiad i'r awdurdod bilio ond nid yw hyn yn gymwys i'r trethdalwyr hynny sy'n gwneud cais am ryddhad ar sail eu gwerth ardrethol yn unig. Mae'r ddarpariaeth hon hefyd yn gymwys mewn cysylltiad â swyddfeydd post a oedd yn gymwys o dan Orchymyn 2006.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn yn diffinio hereditamentau a eithrir o'r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ond nid yw'r ddarpariaeth hon yn gymwys i ryddhad a roddir mewn cysylltiad â swyddfeydd post.

Mae erthygl 3 yn rhagnodi mwyafswm gwerth ardrethol o £12,000 ar gyfer hereditamentau a allai fod yn gymwys i gael rhyddhad.

Mae erthyglau 5 i 9 yn rhagnodi amodau cymhwystra.

Mae erthygl 10 yn darparu i'r wybodaeth gael ei chynnwys yn yr hysbysiad sydd i'w roi i'r awdurdodau bilio, yn darparu ar gyfer rhwng pa amserau y mae'r cyfryw hysbysiad i'w gyflwyno ac ar gyfer dulliau o'i gyflwyno.

Mae erthygl 11 yn rhagnodi swm o E at ddibenion y fformiwla a geir yn adran 43(4A)(b) o Ddeddf 1988. Mae'r fformiwla honno'n darparu'r mecanwaith ar gyfer cyfrifo swm yr ardrethi sy'n daladwy mewn cysylltiad â hereditamentau arbennig.

Mae erthyglau 5 ac 11 yn cael yr effaith o roddi, yn ddarostyngedig i fel a ddynodir yn yr erthyglau hynny, (a) ryddhad ardrethi o 50% i hereditamentau ac iddynt werth ardrethol o £2,000 neu lai; a (b) rhyddhad ardrethi o 25% i hereditamentau ac iddynt werth ardrethol o fwy na £2,000 ond nid mwy na £6,500 (ond £5,000 fydd y ffigur diwethaf hwn o 1 Ebrill 2012).

Mae erthyglau 6 ac 11 yn cael yr effaith o roddi, yn ddarostyngedig i fel a ddynodir yn yr erthyglau hynny, ryddhad ardrethi o 100% i swyddfeydd post ac iddynt werth ardrethol o £9,000 neu lai, a rhyddhad ardrethi o 50% i swyddfeydd post ac iddynt werth ardrethol o fwy na £9,000 ond nid mwy na £12,000.

Mae erthyglau 7 ac 11 yn cael yr effaith o roddi, yn ddarostyngedig i fel a ddynodir yn yr erthyglau hynny, ryddhad ardrethi o 25% i fangreoedd manwerthu ac iddynt werth ardrethol o fwy na £6,500 ond nid mwy na £9,000. Bydd y rhyddhad hwn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2012.

Mae erthyglau 8 ac 11 yn cael yr effaith o roddi, yn ddarostyngedig i fel a ddynodir yn yr erthyglau hynny, ryddhad ardrethi o 50% i fangreoedd a ddefnyddir ar gyfer darparu gofal plant ac y mae iddynt werth ardrethol o fwy na £2,000 ond nid mwy na £12,000. Bydd y rhyddhad hwn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2012.

Mae erthyglau 9 ac 11 yn cael yr effaith o roddi, yn ddarostyngedig i fel a ddynodir yn yr erthyglau hynny, ryddhad ardrethol o 50% i fangreoedd a ddefnyddir ar gyfer undebau credyd ac iddynt werth ardrethol o fwy na £2,000 ond nid mwy na £9,000. Bydd y rhyddhad hwn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2012.

Bu i'r cynllun rhyddhad ardrethi gwledig o ran Cymru lithro ond fe'i harbedwyd gan Orchymyn 2006 mewn perthynas â blynyddoedd ariannol yn dod i ben ar neu cyn 31 March 2007 ac mae'r arbediad hwnnw'n cael ei barhau gan y Gorchymyn hwn. Dirymir Gorchymyn 2006 ond bydd yn parhau mewn grym mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2008.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-guide-docs-pub/bus-business-documents/bus-business-documents-doc-laid.htm.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol a geir yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1). Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p.32).

(7)

1989 p.41. Mewnosodwyd Rhan XA gan adran 79(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources