Search Legislation

Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2441 (Cy.214)

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) (Cymru) 2008

Gwnaed

15 Medi 2008

Yn dod i rym

3 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 5(4) a (7) a 143 Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) (Cymru) 2008, daw i rym ar 3 Tachwedd 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Dosbarthau a ragnodwyd o nyrsys at ddibenion adran 5(4) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983

2.—(1At ddibenion adran 5(4) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (pŵer i gadw claf yn gaeth mewn ysbyty am fwyafswm o 6 awr) nyrs o'r dosbarth a ragnodwyd yw nyrs a gafodd ei chofrestru yn naill ai Is-ran 1 neu Is-ran 2 o'r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(2), ar yr amod bod cofrestriad o'r nyrs yn cynnwys cofnod fel a bennir ym mharagraff (2).

(2Mae cofnod yn y gofrestr y cyfeirir ato ym mharagraff (1) naill ai:—

(a)yn gofnod sy'n dangos mai maes ymarfer y nyrs yw nyrsio iechyd meddwl; neu

(b)yn gofnod sy'n dangos mai maes ymarfer y nyrs yw nyrsio anableddau dysgu.

Dirymu

3.  Dirymir Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) 1998(3) o ran Cymru.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Iechyd Meddwl (Nyrsys) 1998. Mae'n rhagnodi'r dosbarthau o nyrsys sy'n cael pŵer o dan adran 5(4) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (“Deddf 1983”) i gadw'n gaeth, hyd at chwe awr, glaf sy'n cael triniaeth ar gyfer anhwylder meddwl fel claf mewnol mewn ysbyty. Mae'r Gorchymyn yn adlewyrchu newid wrth gofrestru nyrsys yn y gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001, sydd bellach yn darparu bod nyrsys yn cael eu cofrestru drwy gyfeiriad at gofnod sy'n dangos eu maes ymarfer perthnasol ac sy'n darparu at ddibenion adran 5(4) bod yn rhaid i gofnodion o'r fath a restrir o dan naill ai Is-ran 1 neu Is-ran 2 o'r gofrestr fod yn perthyn naill ai i nyrsio iechyd meddwl neu i nyrsio anableddau dysgu.

Nid oes asesiad o effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi.

(1)

1983 p.20 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 p.12).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources