Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Gwrthdrawiad Buddiannau) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2440 (Cy.213)

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Gwrthdrawiad Buddiannau) (Cymru) 2008

Gwnaed

15 Medi 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Medi 2008

Yn dod i rym

3 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 12A o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a rhychwant

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Gwrthdrawiad Buddiannau) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “argymhelliad meddygol” (“medical recommendation”) yw argymhelliad meddygol fel a grybwyllir yn adran 12(1) o'r Ddeddf at ddibenion cais;

  • ystyr “asesydd” (“assessor”) yw—

    (a)

    GPIMC sy'n ystyried gwneud cais, neu

    (b)

    ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n ystyried rhoi argymhelliad meddygol;

  • ystyr “cais” (“application”) yw cais a grybwyllir yn adran 11(1) o'r Ddeddf;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983(2);

  • ystyr “GPIMC” (“AMHP”) yw gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy;

  • mae cyfeiriadau at “perthynas agosaf” (“nearest relative”) yn cynnwys unrhyw berson a benodwyd am y tro i weithredu swyddogaethau'r perthynas agosaf yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 29 o'r Ddeddf, rheoliad 33 o Reoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth, Triniaeth Gymunedol a Chydsynio â Thriniaeth) (Cymru) 2008 neu reoliad 24 o Reoliadau Iechyd Meddwl (Ysbyty, Gwarcheidiaeth a Thriniaeth) (Lloegr) 2008.

Gwrthdrawiad buddiannau posibl am resymau proffesiynol

3.—(1Wrth ystyried claf, bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl—

(a)os yw'n gweithio o dan gyfarwyddyd un o'r aseswyr eraill sy'n ystyried y claf neu os yw'n gyflogedig gan un ohonynt;

(b)os yw'n aelod o dîm a drefnwyd i gydweithio at ddibenion clinigol yn rheolaidd a bod y ddau asesydd arall hefyd yn aelodau ohono.

(2Pan fo perthynas agosaf claf yn gwneud cais, bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl—

(a)os yw'n gweithio o dan gyfarwyddyd perthynas agosaf y claf hwnnw neu os yw'n gyflogedig ganddo;

(b)os yw'n cyflogi perthynas agosaf y claf neu os yw'r perthynas agosaf yn gweithio dan ei gyfarwyddyd;

(c)os yw'n aelod o dîm a drefnwyd i gydweithio at ddibenion clinigol yn rheolaidd a bod y perthynas agosaf hefyd yn aelod ohono.

(3Wrth ystyried claf, bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl—

(a)os yw'n gweithio o dan gyfarwyddyd y claf hwnnw neu os yw'n gyflogedig ganddo;

(b)os yw'n cyflogi'r claf neu os yw'r claf yn gweithio dan ei gyfarwyddyd;

(c)os yw'n aelod o dîm a drefnwyd i gydweithio at ddibenion clinigol yn rheolaidd a bod y claf hefyd yn aelod ohono.

Gwrthdrawiad buddiannau am resymau ariannol

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl os yw, yn ddibynnol ar benderfyniad ganddo i wneud cais neu i roi argymhelliad meddygol neu beidio, ar dir i ennill yn ariannol.

(2Pan fydd cais i glaf gael ei dderbyn i ysbyty nad yw'n sefydliad cofrestredig, caniateir i un (ond dim mwy nag un) o'r argymhellion meddygol gael ei roi gan ymarferydd meddygol cofrestredig sydd ar staff yr ysbyty hwnnw neu sy'n derbyn unrhyw daliadau a wnaed i gynnal a chadw'r claf neu sydd â buddiant yn eu derbyn.

(3Pan fydd cais i glaf gael ei dderbyn i ysbyty sy'n sefydliad cofrestredig, ni chaniateir i unrhyw un o'r argymhellion meddygol gael ei roi gan ymarferydd meddygol cofrestredig sydd ar staff yr ysbyty hwnnw neu sy'n derbyn unrhyw daliadau a wnaed i gynnal a chadw'r claf neu sydd â buddiant yn eu derbyn.

(4At ddibenion y rheoliad hwn nid yw'r term “ennill ariannol” yn cynnwys unrhyw ffi a dalwyd i ymarferydd o ran archwilio claf yn unol ag adran 12 o'r Ddeddf neu o ran darparu unrhyw argymhelliad o ganlyniad i archwiliad o'r fath.

Gwrthdrawiad buddiannau posibl am resymau busnes

5.—(1Wrth ystyried claf, bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl os yw'n ymwneud yn glòs yn yr un fenter fusnes ag asesydd arall, y claf neu berthynas agosaf y claf gan gynnwys bod yn bartner, yn gyfarwyddwr, yn swydd-ddeiliad arall neu'n gyfranddalwr sylweddol.

(2Pan fo perthynas agosaf y claf yn gwneud cais, bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl os yw'n ymwneud yn glòs yn yr un fenter fusnes â'r perthynas agosaf gan gynnwys bod yn bartner, yn gyfarwyddwr, yn swydd-ddeiliad arall neu'n gyfranddalwr sylweddol.

Gwrthdrawiad buddiannau posibl ar sail perthynas bersonol

6.—(1Bydd gan asesydd wrthdrawiad buddiannau posibl wrth ystyried claf—

(a)os yw'n perthyn i berson perthnasol yn y radd gyntaf;

(b)os yw'n perthyn i berson perthnasol yn yr ail radd;

(c)os yw'n perthyn i berson perthnasol fel hanner brawd neu hanner chwaer;

(ch)os yw'n briod, yn gyn briod, yn bartner sifil neu'n gyn bartner sifil i berson perthnasol;

(d)os yw'n byw gyda pherson perthnasol megis petai yn briod neu'n bartner sifil.

(2At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ystyr “person perthnasol” yw asesydd arall, y claf, neu os mai perthynas agosaf y claf sy'n gwneud y cais, y perthynas agosaf;

(b)ystyr “yn perthyn i berson perthnasol yn y radd gyntaf” yw fel rhiant, chwaer, brawd, merch neu fab; ac mae'n cynnwys llysberthynas;

(c)ystyr “yn perthyn yn yr ail radd” yw fel ewythr, modryb, taid neu nain, tad-cu neu fam-gu, ŵyr neu wyres, cefnder, nîth, nai, rhiant yng nghyfraith, taid neu nain yng nghyfraith, tad-cu neu fam-gu yng nghyfraith, ŵyr neu wyres yng nghyfraith, chwaer yng nghyfraith, brawd yng nghyfraith, merch yng nghyfraith neu fab yng nghyfraith ac mae'n cynnwys llysberthynas;

(ch)mae cyfeiriadau at lysberthynas a theulu yng nghyfraith ym mharagraffau (b) ac (c) uchod i'w darllen yn unol ag adran 246 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(3).

Darpariaeth Argyfwng

7.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn rhwystro GPIMC rhag gwneud cais nac ymarferydd meddygol cofrestredig rhag rhoi argymhelliad meddygol os byddai yna fel arall oedi gyda risg difrifol i iechyd neu ddiogelwch y claf neu bobl eraill.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod yr amgylchiadau pan fo'r posibilrwydd o wrthdrawiad buddiannau yn gyfryw ag nad oes modd i weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy wneud cais a grybwyllir yn adran 11(1) o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf lechyd Meddwl 2007 (p.12), neu nad oes modd i ymarferydd meddygol cofrestredig wneud argymhelliad meddygol at ddibenion cais a grybwyllir yn adran 12(1) i berson gael ei dderbyn o dan y Ddeddf.

Bydd gan weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy sy'n ystyried gwneud cais i berson gael ei dderbyn dan y Ddeddf neu ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n ystyried rhoi argymhelliad meddygol at ddibenion cais o'r fath wrthdrawiad buddiannau posibl am amryw o resymau. Mae'r rhesymau hynny yn rhai proffesiynol (rheoliad 3), yn rhai ariannol (rheoliad 4), yn rhai busnes (rheoliad 5) neu oherwydd perthynas bersonol (rheoliad 6) sy'n bodoli rhwng y person hwnnw ac asesydd arall, neu rhwng y person hwnnw a naill ai y claf neu, pan fo'r cais i gael ei wneud gan berthynas agosaf y claf, y perthynas agosaf.

Mae yna ddarpariaeth i weithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy neu i ymarferydd meddygol cofrestredig wneud cais neu argymhelliad meddygol er gwaethaf gwrthdrawiad buddiannau posibl petai yna fel arall oedi gyda risg difrifol i iechyd neu ddiogelwch y claf neu bobl eraill.

Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan ragwelir y caiff effaith arwyddocaol ar y sector preifat nac ar y sector gwirfoddol.

(1)

1983 p.20. Mewnosodwyd adran 12A gan adran 25(5) o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007. Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud rheoliadau ar wahân i Loegr.

(2)

1983 p.20 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 p.12).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources