Search Legislation

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2436 (Cy.209)

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008

Gwnaed

15 Medi 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Medi 2008

Yn dod i rym

3 Tachwedd 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 114 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cymeradwyo Personau i fod yn Weithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 3 Tachwedd 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “AGCLl” (“LSSA”) yw awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol yng Nghymru;

  • ystyr “AGCLl sy'n cymeradwyo” (“approving LSSA”) yw'r AGCLl sydd wedi cymeradwyo'r person i fod yn GPIMC;

  • ac eithrio yng nghyd-destun rheoliad 3, mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval”) yn cynnwys “ail gymeradwyo” (“re-approve”) ac “ail gymeradwyaeth” (“re-approval”);

  • ystyr “cymwyseddau perthnasol” (“relevant competencies”) yw'r sgiliau a nodir yn Atodlen 2;

  • mae i “Cyngor Gofal Cymru” yr ystyr a roddir i “Care Council for Wales” gan adran 54(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983;

  • ystyr “gofynion proffesiynol” (“professional requirements”) yw'r gofynion a geir yn Atodlen 1;

  • ystyr “GPIMC” (“AMHP”) yw gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy.

Rhoi cymeradwyaeth

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y caiff AGCLl roi cymeradwyaeth i berson i fod yn GPIMC, os nad yw'r person hwnnw eisoes wedi ei gymeradwyo'n AGCLl o dan y Rheoliadau hyn, neu os nad yw wedi ei gymeradwyo felly o fewn y pum mlynedd flaenorol,—

(a)os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol;

(b)os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol; ac

(c)os yw'r person hwnnw wedi cwblhau o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf gwrs hyfforddi cychwynnol i GPIMCau a gymeradwywyd gan Gyngor Gofal Cymru.

(2Dim ond o dan yr amgylchiadau canlynol y caiff AGCLl roi cymeradwyaeth i berson i fod yn GPIMC, pan nad yw'r person hwnnw eisoes wedi ei gymeradwyo'n GPIMC o dan y Rheoliadau hyn ond pan yw wedi ei gymeradwyo i weithredu o ran Lloegr neu wedi ei gymeradwyo felly o fewn y pum mlynedd flaenorol—

(a)os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol; a

(b)os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol a fydd yn galluogi'r person hwnnw i weithredu yng Nghymru neu, yn niffyg hynny, bod y person yn cwblhau'r cyfryw gwrs hyfforddi ag y mae'r AGCLl sy'n cymeradwyo o'r farn bod ei angen i'w alluogi i wneud hynny.

(3Wrth benderfynu a yw'r person sy'n ceisio cymeradwyaeth fel GPIMC yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol fel sy'n ofynnol o dan baragraffau (1)(b) neu (2)(b) uchod, rhaid i'r AGCLl roi sylw i dystlythyrau'r person hwnnw.

Cyfnod cymeradwyaeth

4.  Yn ddarostyngedig i reoliad 5, caiff AGCLl gymeradwyo person i fod yn GPIMC am gyfnod o hyd at bum mlynedd.

Cymeradwyaeth yn dod i ben

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, bydd cymeradwyaeth GPIMC yn dod i ben cyn gynted ag y bydd y cyfnod o gymeradwyaeth wedi dod i ben.

(2Bydd cymeradwyaeth person i fod yn GPIMC yn dod i ben cyn i'r cyfnod cymeradwyaeth ddod i ben yn yr amgylchiadau canlynol—

(a)os yw'r person hwnnw'n peidio â chyflawni swyddogaethau GPIMC ar ran AGCLl sy'n cymeradwyo;

(b)os yw'r person hwnnw'n methu â bodloni unrhyw un neu rai o'r amodau a atodwyd i'w gymeradwyaeth yn unol â rheoliad 7;

(c)os nad yw'r person hwnnw mwyach, ym marn yr AGCLl sy'n cymeradwyo, yn meddu ar y cymhwyseddau perthnasol priodol;

(ch)os nad yw'r person hwnnw mwyach yn bodloni'r gofynion proffesiynol;

(d)os bydd AGCLl arall yn cymeradwyo'r person hwnnw yn GPIMC;

(dd)os yw'r person hwnnw'n gwneud cais ysgrifenedig am i'r gymeradwyaeth ddod i ben.

(3Ar ôl i gymeradwyaeth ddod i ben, rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo hysbysu unrhyw AGCLl arall y mae'n gwybod bod y person hwnnw wedi cytuno i weithredu fel GPIMC iddo o'r ffaith honno.

(4Os bydd cymeradwyaeth person i fod yn GPIMC yn dod i ben yn yr amgylchiadau a ddarperir ym mharagraff (2)(d) uchod, rhaid i'r AGCLl newydd sy'n cymeradwyo hysbysu'r AGCLl blaenorol sy'n cymeradwyo o'r ffaith honno.

(5Pan fo'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n dod â chymeradwyaeth GPIMC i ben o dan baragraff (2), rhaid i'r AGCLl hwnnw ysgrifennu ar unwaith i hysbysu'r person hwnnw o'r dyddiad y daw'r gymeradwyaeth i ben ac o'r rheswm am ddod â'r gymeradwyaeth i ben.

Atal GPIMC Rhag Bod yn Gofrestredig neu Atodi Amodau i'w Gofrestru

6.—(1Os caiff GPIMC, ar unrhyw adeg ar ôl ei gymeradwyo, ei atal rhag bod ar gofrestr neu restr yn unol â bodloni gofynion proffesiynol fel sy'n ofynnol o dan reoliad 3(1), rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo atal cymeradwyaeth y person hwnnw'n tra pery cyfnod ei atal rhag bod ar gofrestr neu restr.

(2Os atodir amodau i enw GPIMC ar gofrestr neu restr, yn ôl y digwydd, caiff yr AGCLl atodi i'w gymeradwyaeth y cyfryw amodau y mae o'r farn bod eu hangen, neu caiff atal y gymeradwyaeth.

(3Pan fo'r cyfnod atal y gymeradwyaeth wedi dod i ben, bydd y gymeradwyaeth yn parhau'n weithredol am unrhyw gyfnod cymeradwyaeth nad yw wedi dod i ben, onid yw'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n dod ag ef i ben yn gynharach yn unol â rheoliad 5.

Amodau Cymeradwyaeth

7.  Bydd unrhyw gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol—

(a)rhaid i'r GPIMC gwblhau tra bydd yn parhau'n gymeradwy y cyfryw hyfforddiant ag y mae'r AGCLl sy'n cymeradwyo'n ei wneud yn ofynnol ac yn ôl y cyfryw ysbeidiau ag y mae'r AGCLl yn penderfynu bod eu hangen ;

(b)rhaid i'r GPIMC ddarparu, er boddhad rhesymol yr AGCLl sy'n cymeradwyo a heb fod yn llai aml nag unwaith y flwyddyn ar ôl dyddiad ei gymeradwyo, dystiolaeth ei fod yn parhau i fod â'r cymhwysedd priodol i gyflawni swyddogaethau GPIMC;

(c)os yw'n cytuno i gyflawni dyletswyddau GPIMC ar ran AGCLl arall, rhaid i'r GPIMC hysbysu'n ysgrifenedig yr AGCLl sy'n cymeradwyo cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, a rhaid ei hysbysu pan ddaw'r cyfryw gytundeb i ben;

(ch)os yw'r GPIMC yn cael ei gymeradwyo gan AGCLl gwahanol, rhaid i'r GPIMC hysbysu'n ysgrifenedig yr AGCLl sy'n cymeradwyo cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(d)os nad yw mwyach yn bodloni unrhyw un neu rai o'r gofynion a geir yn rheoliad 3 neu yn reoliad 8 yn ôl y digwydd, rhaid i'r GPIMC hysbysu'r AGCLl sy'n cymeradwyo ar unwaith;

(dd)os caiff ei atal o fod ar gofrestr neu restr, yn ôl y digwydd, neu os atodir amodau i'w enw ar gofrestr neu restr, rhaid i'r GPIMC hysbysu'r AGCLl sy'n cymeradwyo ar unwaith.

Ail gymeradwyaeth

8.—(1Caiff AGCLl roi cymeradwyaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn i berson sydd wedi ei gymeradwyo o'r blaen yng Nghymru, a bod y cyfryw gymeradwyaeth wedi bod mewn grym o fewn y pum mlynedd flaenorol cyn dyddiad arfaethedig yr ail gymeradwyaeth yn yr amgylchiadau canlynol —

(a)os yw'r person hwnnw'n bodloni'r gofynion proffesiynol; a

(b)os yw'r person hwnnw'n gallu dangos ei fod yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol.

(2Wrth benderfynu a yw'r person sy'n ceisio cymeradwyaeth i fod yn GPIMC yn meddu ar y cymwyseddau perthnasol fel sy'n ofynnol o dan baragraff (1)(b) uchod, rhaid i'r AGCLl roi sylw i dystlythyrau'r person hwnnw.

Monitro a Chofnodion

9.—(1Rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo gadw cofnod o bob person y mae'n ei gymeradwyo'n GPIMC, gan gynnwys—

(a)ei enw;

(b)ei broffesiwn;

(c)y dyddiad y'i cymeradwywyd;

(ch)y cyfnod y rhoddir cymeradwyaeth ar ei gyfer;

(d)manylion ynghylch cwblhau unrhyw hyfforddiant y cyfeirir ato yn rheoliad 7(a);

(dd)tystiolaeth a roddwyd iddo gan y GPIMC o dan reoliad 7(b);

(e)enw pob AGCLl arall y mae'r cyfryw berson yn gweithredu fel G PIMC iddo;

(f)unrhyw fanylion am gymeradwyaeth yn dod i ben neu am atal cymeradwyaeth, neu am amodau a atodwyd iddi.

(2Rhaid i'r AGCLl sy'n cymeradwyo gadw'r cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff 1 uchod ac sy'n ymwneud â phersonau a gymeradwywyd ganddo'n GPIMCau am dair blynedd yn dilyn diwedd cymeradwyaeth y cyfryw bersonau.

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2008

Rheoliadau 2 a 3

ATODLEN 1Gofynion Proffesiynol

1.  Er mwyn bodloni'r gofynion proffesiynol, rhaid i berson fod yn un o'r canlynol—

(a)yn weithiwr cymdeithasol a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru;

(b)yn nyrs lefel gyntaf, a gofrestrwyd yn Is-ran 1 o'r gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(3), gan gynnwys cofnod sy'n dynodi mai maes ymarfer y nyrs o ran nyrsio yw iechyd meddwl neu anableddau dysgu;

(c)yn therapydd galwedigaethol yn Rhan 6 o'r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(4);

(ch)yn seicolegydd siartredig a restrir yng Nghofrestr Seicolegwyr Siartredig Cymdeithas Seicolegol Prydain ac sy'n dal tystysgrif ymarfer berthnasol wedi'i dyroddi gan y Gymdeithas honno(5).

Rheoliad 3(4) a (5)

ATODLEN 2Ffactorau i'w hystyried wrth benderfynu cymhwysedd

Maes Cymhwysedd Allweddol 1: Ymarfer ar Sail Gwerthoedd

1.1  Gallu nodi'r gofal iechyd a'r gofal cymdeithasol sy'n cyfyngu leiaf ar y rhai sy'n cael eu trin neu a all gael eu trin o dan y Ddeddf;

1.2  Gallu nodi a herio camwahaniaethu ac anghydraddoldeb o bob math mewn perthynas ag ymarfer gan GPIMC a, phan fydd hynny'n ymarferol, gwneud iawn amdanynt;

1.3  Deall amrywiaeth a'i barchu a gallu nodi a gwrthwynebu unrhyw benderfyniad a all fod wedi ei seilio ar ymarfer gormesol;

1.4  Deall nodweddion, galluoedd a chefndir amrywiol unigolion a'u parchu;

1.5  Deall materion yn ymwneud â hil a diwylliant a bod yn sensitif iddynt wrth gymhwyso gwybodaeth am ddeddfwriaeth iechyd meddwl;

1.6  Ystyried anghenion unigolion y mae'r Gymraeg yn ddewis iaith ganddynt;

1.7  Gallu hybu hawliau, urddas a hunanbenderfyniad cleifion sy'n unol â'u hanghenion a'u dymuniadau hwy eu hunain, ac sy'n eu galluogi i gyfrannu at y penderfyniadau a gaiff eu gwneud sy'n effeithio ar ansawdd eu bywyd a'u rhyddid.

Maes Cymhwysedd Allweddol 2: Cymhwyso Gwybodaeth: Deddfwriaeth a Pholisi

2.1  Gwybodaeth briodol i gymhwyso'r canlynol wrth ymarfer ei waith a'r gallu i wneud hynny—

(a)deddfwriaeth iechyd meddwl, codau ymarfer cysylltiedg a chanllawiau polisi cenedlaethol a lleol, a

(b)rhannau perthnasol o ddeddfwriaeth arall, codau ymarfer, canllawiau polisi cenedlaethol a lleol, yn benodol Deddf Plant 1989(6), Deddf Plant 2004(7), Deddf Hawliau Dynol 1998(8) a Deddf Galluedd Meddwl 2005(9);

2.2  Cymhwyso gwybodaeth am ddeddfwriaeth a pholisi sy'n ymwneud â'r iaith Gymraeg;

2.3  Bod yn llwyr ymwybodol o sefyllfa ac atebolrwydd cyfreithiol GPIMCau mewn perthynas â'r Ddeddf, mewn perthynas ag unrhyw gorff cyflogi ac â'r awdurdod y maent yn gweithredu ar ei ran;

2.4  Gallu gwerthuso'n feirniadol bolisi lleol a chenedlaethol a deddfwriaeth achos berthnasol er mwyn i hynny fod yn sail i ymarfer gan GPIMC;

2.5  Gallu seilio ymarfer GPIMC ar werthuso'n feirniadol ystod o ymchwil sy'n berthnasol i ymarfer ar sail tystiolaeth, gan gynnwys ymchwil i'r effaith a gaiff profiad o gamwahaniaethu ar iechyd meddwl.

Maes Cymhwysedd Allweddol 3: Cymhwyso Gwybodaeth: Anhwylder Meddwl

3.1  Meddu ar ddealltwriaeth feirniadol a chymhwysol o ystod o fodelau iechyd meddwl ac anhwylder meddwl, gan gynnwys y cyfraniad a wneir gan ffactorau cymdeithasol, corfforol a datblygiadol;

3.2  Meddu ar ddealltwriaeth feirniadol a chymhwysol o'r persbectif cymdeithasol ar anghenion anhwylder meddwl ac ar anghenion iechyd meddwl, wrth weithio gyda chleifion, perthnasau, gofalwyr a phroffesiynolion eraill;

3.3  Meddu ar ddealltwriaeth feirniadol a chymhwysol o oblygiadau anhwylder meddwl i gleifion, plant, teuluoedd a gofalwyr;

3.4  Meddu ar ddealltwriaeth feirniadol a chymhwysol o oblygiadau ystod o driniaethau ac ymyraethau perthnasol i gleifion, plant, teuluoedd a gofalwyr;

3.5  Meddu ar ddealltwriaeth feirniadol o'r adnoddau a allai fod ar gael i wneud darpariaeth amgen yn hytrach na derbyn claf i'r ysbyty.

Maes Cymhwysedd Allweddol 4 – Cymhwyso Sgiliau: Gweithio'n Effeithiol mewn Partneriaeth

4.1  Gallu rhoi llais i'r persbectif cymdeithasol ar anghenion anhwylder meddwl ac iechyd meddwl, a'i ddangos yn ymarferol;

4.2  Gallu cyfathrebu'n briodol â chleifion, perthnasau a gofalwyr, a sefydlu cydberthynas effeithiol â hwy;

4.3  Gallu rhoi llais i swyddogaeth y GPIMC wrth gyfrannu at gydweithio effeithiol rhwng asiantaethau a rhwng proffesiynolion;

4.4  Gallu defnyddio rhwydweithiau a grwpiau cymunedol i ddylanwadu ar weithio ar y cyd gydag ystod o unigolion, asiantaethau ac eiriolwyr;

4.5  Gallu cyfrannu'n effeithiol at gynllunio a rhoi ar waith opsiynau ar gyfer gofal, fel dewisiadau amgen yn hytrach na gorfodi claf i fynd i'r ysbyty, fel rhyddhau claf o'r ysbyty ac fel rhoi ôl-ofal i glaf;

4.6  Gallu nodi risg, ei hasesu a'i rheoli'n effeithiol yng nghyd-destun swyddogaeth GPIMC;

4.7  Gallu rheoli'n effeithiol sefyllfaoedd anodd o ran gorbryder, risg a gwrthdaro, sy'n adlewyrchu ar effaith bosibl y cyfryw sefyllfaoedd ar gleifion ac eraill;

4.8  Gallu cydbwyso'r pŵer sy'n gynhenid yn swyddogaeth GPIMC gyda'r amcanion o rymuso cleifion;

4.9  Gallu cynllunio, negodi a rheoli prosesau derbyn gorfodol i'r ysbyty, derbyn o dan warchodaeth neu drefniadau ar gyfer triniaeth o dan oruchwyliaeth yn y gymuned;

4.10  Gallu rheoli a chydlynu'n effeithiol y prosesau perthnasol cyfreithiol ac ymarferol, a chynnwys wrth wneud hynny broffesiynolion eraill yn ogystal â chleifion, perthnasau a gofalwyr;

4.11  Gallu cydbwyso a rheoli gofynion cystadleuol cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth yn effeithiol er lles cleifion a rhanddeiliaid eraill.

Maes Cymhwysedd Allweddol 5: Cymhwyso Sgiliau: Gwneud Penderfyniadau'n Broffesiynol

5.1  Gallu arddel persbectif cymdeithasol ar broses gwneud penderfyniadau a gallu gwneud penderfyniadau annibynnol ar sail gwybodaeth briodol;

5.2  Gallu caffael gwybodaeth briodol gan unigolion, ynghyd ag adnoddau eraill, eu dadansoddi a'u rhannu er mwyn rheoli'r broses o wneud penderfyniadau;

5.3  Gallu darparu adroddiadau rhesymedig a chlir ar lafar ac yn ysgrifenedig er mwyn hybu proses gwneud penderfyniadau gan GPIMC sy'n broses effeithiol, atebol ac annibynnol;

5.4  Gallu cyflwyno achos mewn gwrandawiad cyfreithiol;

5.5  Gallu arfer eu swyddogaethau fel GPIMCau yn annibynnol, a chydag awdurdod ac awtonomi;

5.6  Gallu gwerthuso gyda chleifion, gofalwyr ac eraill ganlyniadau ymyraethau, gan gynnwys nodi unrhyw angen nas bodlonwyd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 114 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (p.20) fel y'i hamnewidiwyd gan adran 18 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p.12). Maent yn nodi nifer o faterion y mae'n rhaid i awdurdod gwasanaethau cymdeithasol lleol (“AGCLl”) gydymffurfio â hwy pan fyddant yn cymeradwyo person i fod yn weithwyr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy (“GPIMC”).

Mae rheoliad 3 yn nodi rhagofynion penodol cyn y gall person gael ei gymeradwyo'n GPIMC yng Nghymru gan AGCLl. Bod person yn perthyn i un o'r proffesiynau a geir yn Atodlen 1, a bod ganddo'r cymhwysedd priodol o ystyried y sgiliau a restrir yn Atodlen 2 a'i dystlythyrau yw'r rhagofynion hyn. Cyn y caniateir i berson gael ei gymeradwyo'n GPIMC am y tro cyntaf, rhaid i'r person hwnnw fod wedi gorffen cwrs cymeradwy o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Hefyd, os dim ond yn Lloegr y bydd y person hwnnw wedi gweithredu fel GPIMC, rhaid i'r AGCLl ei fodloni ei hun y gall y person hwnnw ddangos bod ganddo'r cymhwysedd priodol i'w alluogi i weithredu fel GPIMC yng Nghymru, neu yn niffyg hynny, bod y person yn ymgymryd â pha hyfforddiant bynnag sydd ei angen ym marn yr AGCLl i sicrhau bod y GPIMC yn ymgymhwyso i weithredu fel GPIMC.

Mae rheoliad 4 yn pennu mai pum mlynedd yw'r cyfnod hwyaf o gymeradwyaeth neu ail gymeradwyaeth.

Mae rheoliad 5 yn nodi o dan ba amgylchiadau y daw cymeradwyaeth i ben ac yn gosod gofynion o ran hysbysu AGCLlau eraill o'r ffaith honno.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer atal cymeradwyaeth os caiff person ei atal o gael ei gynnwys ar y gofrestr neu'r rhestr gymwysadwy o broffesiynau a restrir neu, os oes amodau wedi eu hatodi i'w enw ar y gofrestr neu'r rhestr, mae'n darparu ar gyfer atodi amodau i gymeradwyaeth.

Mae rheoliad 7 yn rhestru amodau y bydd cymeradwyaeth neu ail gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt yn gyffredinol.

Mae rheoliad 8 yn nodi'r rhagofynion cyn y gellir ailgymeradwyo person yn GPIMC.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i AGCLl gadw cofnodion yn cynnwys manylion penodedig GPIMC pan yr AGCLl yw'r AGCLl ar ei gyfer.

Mae Atodlen 1 yn rhestru'r proffesiynau y caniateir i berson gael ei gymeradwyo'n GPIMC mewn cysylltiad â hwy.

Mae Atodlen 2 yn nodi ffactorau sydd i'w cadw mewn cof pan fydd cymhwysedd person sydd i'w gymeradwyo'n GPIMC yn cael ei asesu.

Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan ragwelir y caiff effaith arwyddocaol ar y sector preifat nac ar y sector gwirfoddol.

(1)

1983 p.20. Amnewidiwyd adran 114 gan adran 18 o Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (p.12). Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi dyroddi rheoliadau ar wahân o ran Lloegr.

(5)

Mae Cymdeithas Seicolegol Prydain yn gorff o dan Siarter Frenhinol, wedi'i chofrestru'n elusen yng Nghymru a Lloegr Rhif 229642 a'i chyfeiriad yw St Andrews House, 48 Princess Road East, Leicester, LE1 7DR.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources