- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
4.—(1) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo.
(2) Caiff y swyddog fynd ar y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar y cwch neu ddod oddi arno.
(3) Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol at y diben o orfodi'r Gorchymyn hwn ac, yn benodol —
(a)caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch hwnnw a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a chaiff fynnu bod personau sydd ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad; a
(b)caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar y cwch yn dangos unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar y cwch sydd yng ngwarchodaeth neu feddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
(c)er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni unrhyw dramgwydd o dan adran 3(5) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 fel y'i darllenir ynghyd â'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall fynnu bod unrhyw berson ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;
(ch)os yw'r cwch yn un y mae gan y swyddog reswm dros amau fod tramgwydd o'r fath wedi'i gyflawni mewn perthynas â hi, caiff ymafael yn unrhyw ddogfen a chadw'n gaeth unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir iddo neu y deuir o hyd iddi ar y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos ynglyn â'r tramgwydd;
ond nid oes dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu ymafael yn unrhyw ddogfen a chadw'n gaeth unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar y cwch ac eithrio tra bo'r cwch yn cael ei gadw'n gaeth mewn porthladd.
(4) Pan fo'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi'i thorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog —
(a)ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad ag ef, neu bod y swyddog ei hun, yn mynd â'r cwch a'r criw i'r porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef; a
(b)cadw'r cwch yn gaeth y porthladd, neu ei gwneud yn ofynnol i'r meistr wneud hynny;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch yn gaeth, neu'n mynnu bod y cwch yn cael ei gadw'n gaeth, rhaid iddo gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y bydd y cwch yn cael ei gadw'n gaeth, neu ei bod yn ofynnol ei gadw'n gaeth, hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: