- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y PROFFESIWN MEDDYGOL, CYMRU
Gwnaed
21 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
22 Mai 2008
Yn dod i rym
17 Mehefin 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2 o Ddeddf Erthylu 1967(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Erthylu (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 17 Mehefin 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Erthylu 1991(2).
2. Yn rheoliad 2 (dehongli) o'r prif Reoliadau, mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor—
““the Statistics Board” means the Statistics Board established under section 1 of the Statistics and Registration Service Act 2007(3);
“the Chief Medical Officer for Wales” means the Chief Medical Officer to the Welsh Assembly Government;”.
3. Yn rheoliad 4(2)(b) (sy'n ymwneud â hysbysiad o derfyniad a gwybodaeth ynghylch y terfyniad) o'r prif Reoliadau, yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Assembly Government”.
4. Yn rheoliad 5 (cyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth) o'r prif Reoliadau —
(a)ym mharagraff (a)(i), yn lle “the National Assembly for Wales” rhodder “the Welsh Assembly Government”;
(b)yn lle paragraff (a)(ii) rhodder—
“(ii)to the chairman of the Statistics Board or a member of the Statistics Board’s staff who has been duly authorised by the chairman.”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Mai 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 4 o Reoliadau Erthylu 1991(4) (“y prif Reoliadau”) er mwyn adlewyrchu'r newidiadau yn nheitl Prif Swyddog Meddygol Cymru o ganlyniad i sefydlu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006(5).
Maent hefyd yn diwygio rheoliadau 2 a 5 o'r prif Reoliadau i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007(6) sy'n sefydlu bwrdd ystadegau annibynnol sy'n gyfrifol am swyddogaethau ystadegol a gafodd eu cyflawni'n flaenorol gan y Cofrestrydd Cyffredinol drwy'r gangen weinyddol, y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Nid oes asesiad o effaith reoleiddiol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn.
1967 p.87 (“y Ddeddf”). Trosglwyddwyd y swyddogaethau o dan adran 2 o'r Ddeddf o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) ac fe'u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 1991/499 fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2002/2879 (Cy.275).
O.S. 1991/499, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2879 (Cy.275)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: