- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
23.—(1) Rhaid i bob ceidwad, heblaw cludwr, gydymffurfio ag Erthygl 5(1), (3) a (5) o Reoliad y Cyngor.
(2) Pan gaiff anifail ei symud i'w ddaliad neu ohono, rhaid i'r ceidwad gofnodi—
(a)yr wybodaeth sy'n ofynnol gan Adran B o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor; a
(b)nifer yr anifeiliaid a symudwyd.
(3) Rhaid cofnodi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) o ran anifeiliaid a symudir i ddaliad gan y ceidwad drwy ei chofnodi yn adran 3 o'r gofrestr.
(4) Rhaid cofnodi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) o ran anifeiliaid a symudir o ddaliad gan y ceidwad drwy ei chofnodi yn adran 3 o'r gofrestr.
(5) Os yw anifail wedi'i draddodi ar gyfer ei allforio rhaid i geidwad y daliad tarddu, yn ychwanegol at yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2), gofnodi Rhif unigryw yr anifail hwnnw wrth gofnodi ei symud i'r daliad tarddu ac ohono, drwy'r dulliau a osodir ym mharagraffau (3) a (4) yn eu trefn.
(6) At ddibenion Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, rhaid i'r gofrestr fod ar y ffurf a nodir yn Atodlen 1.
(7) Rhaid i'r ceidwad lenwi'r gofrestr—
(a)yn achos symud anifail i'w ddaliad neu o'i ddaliad, neu o un lleoliad ar ddaliad i un arall, o fewn 36 awr i'r symud;
(b) yn achos cyfnewid marc adnabod, o fewn 36 awr i'r cyfnewid.
(8) Os yw'r ceidwad yn symud ei anifeiliaid i ddaliad arall ond mae'n parhau i fod yn geidwad iddynt, nid oes raid i'r ceidwad gadw'r gofrestr ar y daliad hwnnw ond rhaid iddo allu ei dangos o fewn amser rhesymol i Weinidogion Cymru pan ofynnir amdani.
(9) At ddibenion Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod y mae'n rhaid sicrhau bod y gofrestr ar gael yw 3 blynedd o'r adeg pan wnaed y cofnod olaf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: